Llefydd ar lan y dŵr

Mae dŵr yn rhan annatod o dirwedd Cymru – boed yn tryddiferu'n ddisylw, yn llifo'n heddychol, yn rhaeadru'n fawreddog ...neu yn tywallt y glaw! Mae'n fythol newid ac yn adfywio'r olygfa. Sut bynnag rydych chi’n teimlo, mae yna lefydd ar lan y dŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n addas i chi. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthoch chi ble i fwynhau rhai o'r goreuon.

Parc Gwledig Craig-y-nos

Mae 40 erw o goetir a dolau prydferth yn ymylu glannau Afon Tawe ifanc yn Parc Gwledig Craig-y-Nos.  Fe grëwyd y parc, sy'n cynnwys dau lyn artiffisial, gan berchenogion Fictoraidd Castell Craig-y-nos. Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw'r perchenogion bellach ac mae’r parc ar agor i'r cyhoedd er mwyn iddynt fwynhau'r amgylchoedd heddychlon a'r bywyd gwyllt.  Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau, gan gynnwys llwybr pren dros un o'r llynnoedd, yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Mae'r Parc Gwledig wedi'i leoli ar yr A4067 rhwng Pontsenni ac Ystradgynlais, ger Ogofau Arddangos Dan-yr-Ogof.  Ar agor bob dydd o 10am ymlaen. Mae mynediad am ddim, gyda maes parcio talu-ac-arddangos.  Mae trwyddedau ar gael ar gyfer pysgota yn yr afon.

Afon Wysg

Mae Afon Wysg fel edau arian yn rhedeg yn groeslinol ar draws y Parc Cenedlaethol, gan gysylltu’r gweundir gorllewinol uchel yn y fan lle godai â thir ffermio ffrwythlon yn y de-ddwyrain.  Yn y gaeaf, gall fod yn wyllt ac wedi'i chwyddo gan rym nentydd y mynyddoedd ond yn yr haf, natur dawel a thyner sydd ganddi.

Y Rhodfa, Aberhonddu

Gyda golygfeydd syfrdanol o'r Bannau, dyma le perffaith am bicnic neu ddim ond eistedd a mwynhau'r afon.  Mae yna gychod ar gael i'w llogi o'r tŷ cwch ac mae llwybr troed ar hyd yr afon i Fennifach, (tua milltir i fyny'r afon).  Mae'r Rhodfa o fewn cyrraedd hawdd i'r dref.  Ewch i lawr Ship Street a throwch i'r dde (cyn Pont Wysg).  Mae yna lwybr o ochr arall Pont Honddu sy'n dilyn yr afon, neu os ydych yn gyrru parhewch ar hyd y ffordd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer y 'Rhodfa' sy'n arwain at y maes parcio talu-ac-arddangos.

Dôl Bullpit, Crughywel

Y ffordd orau o gyrraedd dôl Bullpit, ar ochr i fyny’r afon o Bont Wysg, yw cerdded yno am rhyw ddeng munud o ganol y dref.  (Nid oes parcio wrth ymyl yr afon).  Mae yna olygfeydd deniadol yn ôl tuag at y dref gyda Chrughywel, sef y bryn sy’n rhoi ei enw i’r dref, tu hwnt, ac ar draws yr afon i'r sgarp dramatig yn Llangatwg. Mae llwybr troed yn dilyn y lan i fyny'r afon am dros filltir.

Dolydd y Castell, Y Fenni

Mae Dolydd y Castell yn ehangder o laswellt a choed sy’n dilyn yr afon am hanner milltir o'r castell i Bont Llan-ffwyst. Er ei fod ychydig y tu hwnt i'r Parc Cenedlaethol mae yna olygfeydd da o Ben-y-fâl a'r Blorens. Gellir cyrraedd yno drwy gerdded i lawr Mill Street, gyferbyn â'r Ganolfan Groeso a'r orsaf fysiau.

Cronfa Ddŵr Wysg

Mae'r gronfa ddŵr yn troelli'n urddasol rhwng bryniau isel a choediog, gan ddilyn cwrs Afon Wysg ifanc sy'n ei bwydo.  Mae yna faes parcio ger yr argae, gyda golygfeydd da o'r dŵr, ardal bicnic a thaith gylchol o amgylch y llyn i gerddwyr ac i feicwyr mynydd.

Cronfa Ddŵr Pontsticill

Hon yw'r fwyaf o bedair cronfa yng nghwm Taf Fechan.  Gellir cyrraedd maes parcio a safle picnic deniadol ar y lan orllewinol trwy ddilyn isffordd o Ferthyr i Dalybont.  Mae Rheilffordd Mynydd Brycheiniog yn rhedeg trenau stêm ar hyd yr ochr ddwyreiniol gan gynnig golygfeydd rhagorol i fyny’r llyn tuag at y mynyddoedd.

Cronfa Ddŵr Talybont

Ychydig i'r de o'r pentref a roddodd ei enw i'r gronfa, dyma un o hydoedd dŵr mwyaf trawiadol y Parc Cenedlaethol ac mae’n safle pwysig i adar gwyllt sy’n gaeafu.  Mae'r heol i lawr y dyffryn yn rhoi mynediad i'r llyn mewn sawl man, gan gynnwys yr argae lle mae'r gorlif yn creu golygfa ddramatig yn y gaeaf, a’r pen deheuol lle ceir cuddfan adar.

Cronfa Ddŵr Llwyn-onn

Mae pâr o encilfeydd ger yr A470 i gyfeiriad y gogledd-orllewin o Ferthyr Tudful yn cynnig mynediad i safleoedd picnic ar y llethrau glaswelltog uwchlaw'r llyn. Mae yna hefyd feysydd parcio ar yr isffordd ar ochr arall y llyn. (Dim ond pysgotwyr sy’n gallu mynd at lan y llyn).

Pwll Pen-Ffordd-Goch

Mae’r pwll hwn, sy’n uchel i fyny ar y Blorens, yn boblogaidd yn lleol fel ardal o brydferthwch a golygfan. Mae'r olygfa ardderchog yn cynnwys y Mynydd Du (Brycheiniog), ar draws Dyffryn Afon Wysg, a'r Bannau Canolog 16 milltir i ffwrdd i'r gorllewin.  Er iddo ymddangos yn wyllt, cael ei adeiladu wnaeth y pwll tua 150 o flynyddoedd yn ôl i gyflenwi dŵr i Efail Garnddyrys yn y dyffryn islaw.  Er gwaethaf ei safle uchel iawn, mae’n hawdd iawn cyrraedd Pwll Pen-Ffordd-Goch.  Mae'r maes parcio, sydd ond ychydig oddi ar y B4246 o'r Fenni i Flaenafon, yn edrych dros y pwll ac o’i amgylch, mae llwybr sy'n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Coedwig Mynydd Du

Yn ddwfn yn y Mynydd Du, mae'r goedwig yn ymestyn i fyny Cwm Grwyne Fawr.  Mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn darparu nifer o safleoedd picnic ar hyd y nant;  mannau delfrydol i gael llonydd a chysgod ar ddiwrnod poeth.  Y safle mwyaf poblogaidd yw Yr Eithin, ar ben uchaf y goedwig. Oddi yno, gallwch gerdded y filltir a hanner i fyny at Gronfa Ddŵr Grwyne Fawr.

Afon Gwy

Gyda'i ffynhonnell mor bell tua'r gogledd, mae afon Gwy eisoes yn afon lydan a throellog erbyn iddi gyrraedd Y Gelli.  Mae'r Gwningar, sef penrhyn a ffurfiwyd gan ddolen greigiog hardd ychydig i orllewin y dref, yn lle delfrydol i gael picnic ac ymdrochi.  Ar droed, y ffordd orau o’i chyrraedd yw dilyn yr heol sydd gyferbyn â’r Cinema Bookshop.  Trowch i'r dde i lwybr troed wrth ymyl yr eglwys, ac yna i'r chwith ar hyd y llwybr uwchlaw’r afon.

Llyn Syfaddan

Mae llyn naturiol fwyaf de Cymru ymhlith tir amaethyddol dymunol gyda golygfeydd arbennig o'r Mynydd Du yn y dwyrain, a'r Bannau 8 milltir i ffwrdd i'r de-orllewin.  Mae’r llyn i’w gyrraedd yn bennaf o Gomin Llan-gors, darn llydan o laswelltir sy'n cael ei bori gan ferlod, rhwng pentref Llan-gors a glan ogleddol y llyn.  Galwch heibio i Siop Parc Carafanau Lakeside ar y lan ogleddol am luniaeth, trwyddedau pysgota a thrwyddedi lansio cychod ac am fanylion llogi cychod.  I’r rhai nad ydynt yn dymuno cymryd i'r dŵr, mae yma lwybrau troed dymunol i’w dilyn trwy ddolydd o gwmpas pen gorllewinol y llyn i Eglwys Llangasty. (Efallai y bydd yna lifogydd ar y llwybrau yn y gaeaf).  Mae maes parcio bach ar y lan ddeheuol islaw’r eglwys yn Llangasty.

Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Am 35 milltir o Aberhonddu i Bont-y-pŵl, mae camlas Mynwy ac Aberhonddu yn gweu ei ffordd drwy galon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Er ei fod yn grair o'r oes ddiwydiannol mae'r hen ddyfrffordd a'i llwybr tynnu erbyn hyn yn gyfleuster hamdden poblogaidd ac yn hafan i fywyd gwyllt.  O fasn prysur y gamlas ger y theatr newydd yn Aberhonddu, mae'r gamlas yn troelli'n araf tua’r dwyrain trwy bentrefi hardd a thir amaethyddol tawel.  Mae nodweddion diddorol ar hyd y daith yn cynnwys y draphont ddŵr dros Afon Wysg ger Llanfrynach, y twnnel i’r dwyrain o Dalybont, y lanfa yn Goetre a'r pontydd codi niferus sydd mewn arddull Iseldiraidd.  Mae digon hawdd mynd at y gamlas o bentrefi a ffyrdd sydd ar hyd ei llwybr.  Mae gan y rhan fwyaf o bentrefi dafarnau a siopau lle gallwch brynu lluniaeth.  Hefyd, mae digon o gyfleoedd i rheini sydd am fynd ar y dŵr, o dripiau byr ar gwch sydd wedi'i dynnu gan geffyl, i logi cychod am y dydd a gwyliau ar gychod culion.  I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Ganolfan Groeso yn y Fenni ar 01873 853254.

Blaen-y-Glyn

Mae llawer o'r dŵr sy'n llenwi Cronfa Ddŵr Talybont yn dechrau ei daith yn uchel i fyny yn y mynyddoedd ar frig y dyffryn.  Ym Mlaen-y-Glyn mae nant ifanc Caerfanell ac isafonydd eraill yn disgyn o'r bryniau dros glwstwr o raeadrau prydferth.  Mae'r rhan fwyaf o rain yn awr yn rhan o dir coedwigaeth lle ceir teithiau gerdded pleserus i'r rhaeadrau o feysydd parcio'r Comisiwn Coedwigaeth, ar frig ac ar waelod y rhiw.

Sgwd Henrhyd

Gall golwg a sŵn dŵr sy’n plymio 90 troedfedd i lawr y sgwd uchaf yn y Parc Cenedlaethol fod yn syfrdanol.  O'r maes parcio, mae llwybr serth yn disgyn i'r dyffryn coediog cyfrin bron, gydag ambell gipolwg o'r sgwd trwy'r coed.  Mae pont yn eich arwain dros y nant sydd yna'n eich arwain i’r pwll wrth waelod y rhaeadr.  Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar Sgwd Henrhyd ac mae hwn ychydig o fewn ffin ddeheuol y Parc Cenedlaethol.  O'r A4221 sydd filltir tua’r de-ddwyrain o Abercraf, trowch i gyfeiriad Coelbren, ewch yn syth drwy'r pentref ac yna trowch i'r chwith i faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bro'r Sgydau

Mae Bro'r Sgydau yn un o ardaloedd mwyaf poblogaidd a hardd y Parc Cenedlaethol a Geoparc y Fforest Fawr.  Mae afonydd Mellte, Hepste a Nedd Fechan, sef isafonydd Afon Nedd, yn troelli i lawr ceunentydd serth a choediog.  Miliynau o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth ffawtiau daearegol wthio tywodfeini caled yn erbyn sialau meddal.  Yn raddol, mae'r dŵr wedi treulio'r sialau i ffwrdd ond wedi gadael y tywodfaen, ac mae’r dŵr yn awr yn plymio drosto mewn cyfres o raeadrau dramatig.  Mae'r cysgod llaith o dan ganopi dwys coed derw yn cynnig amodau delfrydol ar gyfer sawl rhedynen a mwsogl prin.  Cadwch olwg allan hefyd am adar fel Bronwen y Dŵr sy'n nythu mewn holltau yn y creigiau a hyd yn oed y tu ôl i'r rhaeadrau eu hunain.  Y Comisiwn Coedwigaeth sy’n berchen ar holl goetiroedd ardal y rhaeadrau, a gyda chymorth y Parc Cenedlaethol maent yn darparu nifer o lwybrau fel y gallwch grwydro’r ardal anhygoel hon. Mae taflen sy’n dangos y llwybrau cerdded ar gael i’w phrynu o ganolfannau croeso lleol neu gallwch archebu copi drwy’r post.

Er mwyn diogelwch

Dilynwch y llwybrau yn ôl yr arwyddion bob amser.  Gwisgwch esgidiau cerdded gyda gafael da.

Argyfyngau

Yn achos damweiniau cerdded, dringo creigiau neu ogofa, ffoniwch yr Heddlu ar 999.  I roi gwybod am dân coedwig neu ros, ffoniwch y Gwasanaeth Tân ar 999.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.