Gŵyl y Gelli
Mae Gŵyl y Gelli yn enwog yn fyd-eang – ac mae ar garreg y drws.
Daw sêr llenyddol o bob cwr o’r byd ynghyd bob blwyddyn yn y dref fynyddig fechan yng Nghymru, y Gelli – ar y ffin â Lloegr – ddiwedd mis Mai a dechrau Mehefin. Nid yn unig y mae 40 o siopau llyfrau ail-law yno, ond mae’r dref hefyd yn gartref i un o’r gwyliau gwirioneddol wych yn y calendr llenyddol.
Mae gan yr Ŵyl raglen o ddigwyddiadau sy’n datblygu’n gyson – ewch i’w gwefan i gael mwy o fanylion.
Erbyn hyn, mae gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg sy’n cyfarfod â threnau uniongyrchol o Lundain Paddington, Reading, Rhydychen a Chaerwrangon, gan eich cludo o Henffordd i’r Gelli mewn 40 munud:
Amserlen Bysys Gwennol Gŵyl y Gelli.
