Cestyll
Adfeilion rhamantaidd a chestyll mawreddog i'w canfod a'u crwydro
Yn aml, caiff Cymru ei galw'n Wlad o Gestyll, ac nid syndod mo hynny, gan ei bod yn gartref i rai o'r enghreifftiau gorau yn Ewrop o gestyll canoloesol sydd wedi goroesi. Efallai nad yw'r un ohonynt mor ddramatig â chastell Carreg Cennen ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond gallech ymweld ag amryw gastell gwych arall yn yr ardal hefyd.
Ar ôl ymarfer eu technegau yn Lloegr a gwledydd eraill, deallodd y Normaniaid mai'r rheol gyntaf ar gyfer meddiannu tir yn llwyddiannus oedd sicrhau eu bod yn goresgyn y tiriogaethau newydd. I'r perwyl hwn, fe wnaethant ddatblygu'r castell.
Nid oedd cestyll yn bodoli'n unman yng Nghymru cyn y Goncwest Normanaidd, ond dros y ddwy ganrif ganlynol, adeiladwyd cannoedd ohonynt. Y grŵp cyntaf a mwyaf oll o gestyll oedd y rhai a adeiladwyd gan arglwyddi Eingl-Normanaidd y Mers (daw hwn o'r gair Ffrengig 'Marche', sef ffin).
