Symud i'r cynnwys. | Symud i lywio

Adrannau

Castell y Fenni

Mae Castell y Fenni yn adfail prydferth, gyda'r mynyddoedd sy'n amgylchynu'r drefn yn gefndir godidog iddo.

Mae'r castell yn daith gerdded fer o brif ardal siopa'r Fenni ac mae digon o le parcio gerllaw. Mae digon o'r castell yn weddill i allu dychmygu iddo fod yn gaer aruthrol.

Mae'r caban hela adferedig o ddechrau'r 19eg ganrif, a adeiladwyd ar y mwnt gwreiddiol, yn gartref i Amgueddfa Y Fenni. Mae gan yr amgueddfa gasgliad diddorol o arteffactau, cegin ffermdy Cymreig o oes Fictoria, a gweithdy cyfrwywr ymhlith arddangosiadau eraill. Mae'r amgueddfa yn cynnal nifer o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae ganddi gwisiau a gweithdai i blant.

Gwybodaeth am fynediad hawdd

Sefydlwyd y castell tua 1087 gan yr arglwydd Normanaidd Hamelin de Ballon. Roedd gorthwr pren gyda brig a gwaelod palisâd gan y castell, ac roedd ffos o'i amgylch sydd i'w weld o hyd yng ngardd y castell islaw'r caban. Cafodd y beili hefyd ei amddiffyn gan balisâd a ffos.

Ym 1175, gwelodd Castell y Fenni olygfa ffiaidd: Cyflafan y Fenni. Cafodd Henry, trydydd mab Milo Fitzwalter, ei ladd gan Seisyll ap Dyfnwal, un o Dywysogion Cymru, ym 1175. Gan nad oedd etifedd gwrywaidd arall, trosglwyddwyd y castell a Sir Frycheiniog a Gwent Uwchcoed i'w fam, Bertha, sef merch Milo Fitzwalter.

Penderfynodd Gwilym Brewys (William de Braose) ddial am farwolaeth ei ewythr Henry. Fe wnaeth wysio Seisyll ap Dyfnwal, ei fab Geoffrey a nifer o Gymry lleol eraill o Went i ddod i Gastell y Fenni am gyfarfod cymodi, lle cawsant eu llofruddio a chymerwyd eu tiroedd.

O tua 1190 ymlaen, dechreuodd y Normaniaid ailadeiladu'r castell mewn carreg, gan ddechrau gyda'r gorthwr, ac yna'r cysylltfuriau gyda phum tŵr, y gallai pob un ohonynt gael eu hamddiffyn yn annibynnol. Unig olion y castell gwreiddiol yw'r mwnt y mae'r amgueddfa'n sefyll arno, a darn o glawdd Normanaidd a ddarganfuwyd o dan y tŵr dwyreiniol ym 1990.

Aeth rheolaeth ar y castell yn ôl ac ymlaen yn ystod blynyddoeddd o helbul wrth i ardal y Mers yng Nghymru newid dwylo rhwng grymoedd Cymru a Lloegr yn ystod y 12fed ganrif.  Ymwelodd y Brenin John â'r castell ym 1215 pan oedd ym meddiant brenhinol. Roedd y castell ar ei fwyaf godidog yn ystod y 13eg a'r 14eg ganrif, pan wnaed gwaith adeiladu helaeth - y nodweddion amlycaf sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yw'r tyrrau yng nghornel gorllewinol y castell.

Pan ddaeth heddwch eto i'r ardal gythryblus hon ar y ffin, dim ond cwnstabl a garsiwn bach fyddai wedi bod yno'n meddiannu'r castell. Ers dechrau'r 15fed ganrif, nid oes unrhyw Arglwyddi'r Fenni wedi byw yn y castell.

Ym 1645, gorchmynnodd Charles I i'r castell gael ei ddifrodi fel na fyddai modd i neb fyw yno, wrth i luoedd y Senedd nesáu. Wedi hynny, fe'i defnyddiwyd fel chwarel ar gyfer adeiladau lleol hyd nes bod gwerthfawrogi cestyll wedi dod yn fwy ffasiynol. Bellach, mae nifer o nodweddion diddorol yn perthyn iddo o hyd:

Y mwnt:

Ym 1087, adeiladwyd y gorthwr pren, yna adeiladwyd gorthwr newydd o garreg yn ei le ym 1190. O'r caban hela a adeiladwyd yno mewn arddull Regentaidd ym 1819 i Ardalydd y Fenni, mae llethr fechan bellach yn arwain i lawr at safle'r beili.

Y seleri:

Buasai wedi bod angen storfeydd sylweddol o fwyd mewn castell a fu dan ymosodiad mynych gan y Cymry. Byddai stablau, llety i deulu a byddin yr arglwydd, capel, ysguboriau, a cheginau wedi meddiannu llawer o'r gofod presennol sydd y tu mewn i gysylltfur y beili.

Y tyrrau dwyreiniol:

Yn uchel uwchlaw Mill Street y mae olion dau dŵr sy'n ymestyn allan, a adeiladwyd i allu croestanio ar draws gwaelod y wal gyffiniol.

Wal y gogledd:

Roedd y wal uchel yn y fan hon yn edrych allan ar draws ffos amddiffynol i'r drefgordd ganol oesol y tu hwnt. Mae'r waliau allanol yn y fan hon ac mewn mannau eraill o'r castell yn ffiniau modern.

Y porthdy:

Mae'n debygol bod hwn wedi cael ei adeiladu i gryfhau'r fynedfa i'r castell tua chyfnod ymosodiadau Owain Glyndŵr ym 1404. Mae'r atalwyr ar gyfer y drysau trwm, tyllau'r barrau llusgo a gwaelod difrodedig y wal sy'n wynebu'r gorllewin i'w gweld o hyd. Uwchlaw tramwyfa'r porth, mae olion ystafell braf gyda ffenestr fawr a lle tân.

Y Neuadd Fawr:

Ychydig y tu mewn i'r porthdy, mae grisiau allanol yn arwain at ddrws gorllewinol y neuadd, a adeiladwyd ar y llawr cyntaf am resymau amddiffynnol. Mae'n debygol bod y corbelau ar y wal orllewinol wedi cynnal to trawst gordd. Yn y fan hon y gwnaeth William de Braose lofruddio Seisyll ap Dyfnwal ac arweinwyr eraill o Gymru yn Nadolig 1175.

Mae ffenestr fach ym mhen deheuol y neuadd yn werth ei gweld o'r ddwy ochr. Mae tystiolaeth o ddefnyddio caeadau pren; byddai memrwn a chorn yn cael eu defnyddio hefyd pan nad oedd gwydr yn addas neu pan nad oeddent yn gallu fforddio gwydr. Roedd adeiladu gwaelod y wal yn fwy trwchus ac ar ongl yn amddiffyniad rhag ymosod o'r isod ac roedd yn gwneud i daflegrau a fyddai'n cael eu gollwng o fry adlamu'n wastad.

Y tyrrau de-ddwyreiniol:

Adeiladwyd y rhain tua 1300 pan oedd y castell ar ei fwyaf godidog, er mwyn darparu lle byw i'r teulu Hastings.
Byddai grisiau cylchol wedi arwain at dramwyfa islaw'r tair ffenestr fawr ar y llawr cyntaf. Cewch yr olwg orau ar y tŵr gwardrob sgwâr a'r agorfa o'r tu allan.

Cyfleusterau:

Mae gwasanaeth cludiant cyhoeddus da i'r Fenni o Gasnewydd, Caerdydd, Henffordd a Manceinion. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bws a thrên, ewch i Traveline Cymru a National Rail Enquiries.

Mae'r Fenni yn dref farchnad sy'n ffynnu, a chanddi amrywiaeth wych o siopau sydd wedi datblygu enw da am fwyd.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.