Celf a Chrefft

yn ardal Bannau Brycheiniog.

Artbeat Brecon

Celf, cerddoriaeth a dylunio yn Aberhonddu.
Ffurfiwyd Artbeat Brecon fel grŵp i hyrwyddo'r orielau a'r mentrau diwylliannol unigryw yn Aberhonddu. A hithau'n enwog am harddwch naturiol rhagorol yr ardal, mae Aberhonddu'n parhau'n dref farchnad ffyniannus ac mae'n gyflym ddatblygu'n ganolbwynt gwych i'r celfyddydau creadigol yn y canolbarth.

Beacons Crafts

Mae Beacons Crafts yn fenter gydweithredol gan grefftwyr, sydd â siop gelf a chrefft yng nghanol Aberhonddu.

Mae llu o gyfleoedd amrywiol i chi ddysgu sgil newydd mewn amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai ar hyd a lled yr ardal.

The Hay Makers

Mae The Hay Makers yn gydweithfa o wneuthurwyr dylunio proffesiynol, gydag enw da am grefftau o ansawdd da iawn. Caiff ymwelwyr weld amrywiaeth fawr o waith wedi'i arddangos mewn amgylchiadau di-ffwdan a chyfeillgar.

Mae'r oriel, sydd yng nghanol tref Y Gelli, ar agor bob dydd, rhwng 10.30am a 5.00pm. Bydd un o'r aelodau bob amser yn yr oriel yn ystod yr oriau agor.

Oriel CRiC Gallery, Crucywel

Mae'r oriel hon yn rhan o Ganolfan Adnoddau a Chroeso Crucywel ar Beaufort Street a chaiff ei rheoli a'i rhedeg gan yr elusen.

Mae rhaglen flynyddol o arddangosfeydd yn cynnwys amrywiaeth fawr o waith gan artistiaid a chrefftwyr lleol, yn ogystal ag artistiaid ymweliadol.  Mae'r oriel wedi gweld twf sylweddol ers iddi agor yn 2006 ac mae'n ennill enw da fel lleoliad ar gyfer celf a chrefft o Gymru sydd o ansawdd eithriadol o uchel. Mae'r oriel yn adlewyrchu'r ysbrydoliaeth sydd i'w chael yn nhirwedd Bannau Brycheiniog a'r cyffiniau.

Mae'r oriel yn gwbl hygyrch, mae ar agor bob dydd ac mae ei staff yn wirfoddolwyr sy'n cynnig croeso cynnes i ymwelwyr. Mae CRiC hefyd yn cynnig gwybodaeth i dwristiaid, mynediad i'r rhyngrwyd, ystafelloedd i'w hurio ac mae lle coffi bychan ar y safle. Rhif ffôn 01873 811970.

Oriel Grefftau The Court Cupboard

Ym mhentref Llandeilo Bertholau, llai na 2 filltir o dref farchnad y Fenni, mae The Court Cupboard yn arddangos gwaith crefftwyr Cylch y Mynydd Du. Ynghyd â'r holl gelf a chrefft amrywiol sydd i'w weld, gall ymwelwyr fwynhau lluniau a chacennau a wnaed yn lleol gan 'Clams' yn y siop goffi gyfforddus, a'r gweithwyr sydd yno'n ddyddiol yw'r aelodau amrywiol sy'n cynhyrchu rhai o'r eitemau crefft sydd i'w gweld yn yr orielau. Mae'r oriel ar agor bob dydd:
Haf: 10.30am - 5.00pm (3 Mawrth - 28 Hydref)
Gaeaf: 10.30am - 4.00pm (29 Hydref - 2 Mawrth)

Canolfan Gelfyddydau Dyffryn Mynwy

Mae Monnow Valley Arts Centre yn hyrwyddo cerflunwaith cyfoes, llythrennu cerfiedig a phaentio tirlun drwy gyfrwng arddangosfeydd, gweithdai a darlithoedd yn eu horiel a pharc cerflunwaith yn ne Swydd Henffordd, ar y ffin â Chymru. Ymhlith yr arddangosfeydd presennol y mae:
Yr Oriel: Greg Tricker, Paentiadau Datguddiad.
Y Stiwdio: Gordon House (1932-2004), Portffolio Cymru.
Gardd Parterre: Gosodiad cerflunwaith gan Abu Jafar.
Gerddi'r Cof: Celf a'r Cof.
Ar agor: Dydd Mercher i Ddydd Gwener - 11 am - 6 pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 2 - 5 pm
Monnow Valley Arts Centre, Walterstone, ger y Fenni, Swydd Henffordd HR2 0DY
Rhif ffôn: 01873 860529 

Canolfan Grefftau ac Oriel Gorsaf Erwood

Mae'r oriel a'r ganolfan grefftau hon, sydd mewn gorsaf drenau wledig brydferth ar lan Afon Gwy, yn gartref i Gymdeithas Gelf a Chrefft 'Platform 1'. Dyma gymdeithas a ffurfiwyd gan grŵp o grefftwyr ac arlunwyr sy'n byw ac yn gweithio ym "Mro Llewelyn" yn y canolbarth.

Mae'r ganolfan ar agor bob dydd: 9.30am - 5.30pm: o ganol Chwefror tan 24 Rhagfyr, pan allwch wylio'r turniwr coed a'r crefftwr preswyl, Alan Cunningham, wrthi'n gweithio yn ei stiwdio.

Toiledau. Lluniaeth, gyda chacenni o waith cartref. Mae oriel gelf mewn hen gerbyd rheilffordd. Siop grefftau.

Orielau yn ardal y Mynydd Du

Mae ymweliad â Downey Barn Gallery, Cwm-iou a'r Cellar Gallery, Walterstone, yn cyfuno orielau celf unigryw a golygfeydd trawiadol o'r Mynydd Du - gerllaw tref farchnad hanesyddol y Fenni.

Mae'r ddwy oriel yn gartref i arddangosfeydd parhaol, gyda phaentiadau gwreiddiol ac argraffiadau, gyda neu heb ffrâm, o ansawdd uchel, ar werth am brisiau fforddiadwy.

Cyfarfu'r arlunwyr, Christine Hunt a Caroline Downey, ym 1994 yn wreiddiol, pan oeddent yn astudio yng Ngholeg Celf a Dylunio Henffordd, ac aethant ymlaen i arddangos eu gwaith gyda'i gilydd, gan werthu eu gwaith yn llwyddiannus ac ennill cydnabyddiaeth i'w doniau.

Mae'r ddwy oriel ar agor bob dydd gan amlaf, ond byddai'n ddoeth rhoi galwad ffôn cyn teithio yno'n unswydd. Heblaw am y golygfeydd ysblennydd, mae llwybrau cerdded a sawl lle i ymweld â nhw yn yr ardal, gyda thafarndai cyfeillgar sy'n gweini bwyd cartref blasus. Mae taflenni gwybodaeth a chanllawiau ar gael yn yr orielau. Felly, os ydych yn chwilio am rodd arbennig neu ddim ond yn dymuno edrych ar y gwaith, cewch groeso cynnes. Rhif ffôn 01873 890293.

Woodland Turnery, Mamheilad

Mae Woodland Turnery yn fusnes teuluol sy'n arbenigo mewn defnyddio pren caled o Gymru i gynhyrchu amrywiaeth fawr o gynhyrchion pren gan ddefnyddio dulliau turnio a phyrograffeg, ac mae'r cynhyrchion yn cynnwys clociau anghyffredin ac unigryw, bobinau les, byrddau bara / byrddau torri, powlenni a meginau. Caiff llawer o amser y teulu ei neilltuo ar gyfer arddangosfeydd, cyflwyniadau a chynnal gweithdai ledled Cymru a Lloegr.

Gallwch ymweld â'u stondin ym Marchnad Ffermwyr Aberhonddu ar ail ddydd Sadwrn y mis (heblaw am fis Awst) neu ym Marchnad Ffermwyr y Fenni ar drydydd dydd Iau y mis.

Hefyd, gallwch ymweld â nhw yn yr Ysgol Goetir, lle maen nhw'n cynnal cyrsiau turnio coed un-dydd (gydag uchafswm o 2 fyfyriwr y dydd), cyrsiau pyrograffeg (uchafswm o 3 myfyriwr y dydd) neu gyfuniad o durnio coed am hanner diwrnod a phyrograffeg am hanner diwrnod. Mae'n hanfodol bwcio ond gall cyrsiau gael eu trefnu ar fyr-rybudd drwy roi galwad ffôn.

Os hoffech ymweld â'r gweithdy, ffoniwch 07901 790543 i drefnu apwyntiad.

Oriel Black Mountain, Cwmllynfell

Mae oriel Black Mountain Gallery yn fusnes teuluol bach, a sefydlwyd yng nghanol y 90au gan yr arlunwyr Prydeinig, Muriel Williams a Mark Lloyd Williams (mam a mab), fel man i greu paentiadau a cherfluniau.

Mae croeso i ymwelwyr ddod i edrych ar y math o waith y maen nhw'n ei wneud yn eu stiwdio gwaith a'u siop argraffu, ac er nad ydyn nhw'n cadw llawer o waith i gwsmeriaid ei brynu'n uniongyrchol, mae'n ffordd wych o weld ansawdd ac amrywiaeth eu gwaith.

Rhowch alwad ymlaen llaw iddyn nhw ar 01639 830920 os hoffech alw heibio.

Hefyd, gallwch ofyn am sampl argraffedig, maint cerdyn post, am ddim, o'u gwaith drwy anfon eich enw a'ch cyfeiriad mewn neges e-bost atynt: sales@blackmountaingallery.com

Crafts Alive, Llandeilo

Mae Crafts Alive yn siop grefftau gymunedol yn nhref farchnad fechan Llandeilo, yng nghalon de-orllewin Cymru.  Mae'r gydweithfa'n dwyn ynghyd dros 60 o grefftwyr lleol o'r ardal, er mwyn gwerthu eu gwaith.

I weld detholiad o'r crefftau hardd, sy'n amrywio o lwyau caru pren traddodiadol i grochenwaith, llestri gwydr, dodrefn meddal a thecstiliau, gemwaith arian a llawer mwy, a hefyd i gyfarfod â'r bobl sy'n creu'r rhain, galwch heibio i Siop Crafts Alive ar Heol Rhosmaen, Llandeilo. 

Bydd crefftwr cyfeillgar wrth law i helpu bob amser!

Ar agor Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: 9.30am - 5.30pm. Rhif ffôn: 01558 822883.

Arts Alive

Mae Canolfan y Celfyddydau Creadigol yng Nghrucywel yn cynnal gweithdai a digwyddiadau creadigol sy'n bwrw golwg ar ein ffordd o berthyn i'n hamgylchedd, o wehyddu a serameg i baentio a ffotograffiaeth.

Celf o Gwmpas

Mae Celf o Gwmpas yn hyrwyddo profiadau celfyddydol o ansawdd uchel ac yn cynnig y profiadau hyn yn bennaf i oedolion ag anableddau dysgu, gan greu gwaith celf newydd yng nghymunedau Powys.

Cyrsiau Celf

Mae Cyrsiau Celf Llanddewi Nant Hodni yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau creadigol 2 i 3 diwrnod mewn lleoliad bendigedig yn y Parc Cenedlaethol. Cewch yno stiwdio fawr, tiwtoriaid proffesiynol, a bwyd gwych. Rhif ffôn: 01873 890343.

Gweithdy Adeiladu Cwryglau a Cherflunio Helyg

Mae Middle Ninfa Farm yn cynnig cyrsiau cerflunio helyg undydd a chyrsiau adeiladu cwryglau traddodiadol tridiau. Defnyddir helyg sy'n tyfu ar y fferm, sy'n swatio ar lethrau mynydd Blorens. Rhif ffôn: 01873 854662.

Gwneud eich Stôl Tyno Hollt Eich Hun

Mark Rowland, Dylunydd a Gwneuthurwr Dodrefn, sy'n rhedeg Gweithdai Pwll ym mhen gogleddol Ysgyryd Fawr. Gallwch drefnu mynd ar gwrs undydd, lle cewch eich arwain gam wrth gam drwy'r gwaith o adeiladu eich stôl, gan ddysgu rhai sgiliau defnyddio offer llaw traddodiadol a thechnoleg pren wrth wneud. Ddiwedd y dydd, byddwch yn ymadael gyda'ch creadigaeth eich hun i'w chadw. Rhif ffôn: 01873 890633 (dydd) neu 01873 890447 (gyda'r nos).

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.