Teithiau Cerdded a Digwyddiadau yn y Parc Cenedlaethol
Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud? Cewch restr gyflawn isod.
Dringwch y mynyddoedd a chlywed eu newyddion da. Bydd tangnefedd natur yn llifo i chi fel y llifa heulwen i’r coed. Bydd y gwyntoedd yn chwythu eu ffresni eu hunain drosoch chi… tra bydd gofidiau’n syrthio ymaith oddi wrthych fel dail yr hydref.
John Muir (1838 - 1914)
Gwybodaeth Bwysig am y teithiau cerdded a’r digwyddiadau hyn.
Dydd Iau 28 Gorffennaf 12:00 - 13:30 a 13:30 - 15:00
Beicio Mynydd
Bydd hyfforddwyr cymwys wrth law i helpu plant o bob lefel gallu yn y sesiynau blasu beicio mynydd hyn. Mae’r slot cyntaf ar gyfer plant 10-11 oed, a’r ail i blant 12-14 oed. Darperir beiciau a helmedi. (Os hoffech ddod â’ch beic eich hun, bydd hyfforddwr yn ei archwilio cyn y sesiwn). Man cyfarfod i’w gadarnhau. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Gwener 29 Gorffennaf 20:15 - 21:30
Taith Gerdded Wyllt yn y Nos
Eich cyfle chi i archwilio tomen Coety a safle Big Pit yn yr hwyr. Ymunwch â’r ecolegydd arbenigol Steve Williams i chwilio am ystlumod, gwyfynod a chreaduriaid eraill y nos. Hyd/gradd: 3km / 2 filltir / hawdd. Yn addas i bawb o 7 oed i fyny (mae’n rhaid bod oedolion cyfrifol yn dod gyda’r plant). Cyfarfod ym maes parcio Big Pit. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 790311. Trefnir y digwyddiad gan Big Pit a Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf 10:30-16:00
Sgopau Solar
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER
Mae Cymdeithas Seryddol Caerdydd yn eich gwahodd i fwynhau cyfle prin i gael golwg agos ar ein seren agosaf. Gosodir telesgopau solar i ganiatáu i chi weld yr haul yn ddiogel (os bydd y tywydd yn caniatáu hynny). Dewch i gael golwg am ddim, a chael gwybod sut i fynd ati i ymwneud â seryddiaeth. Digwyddiad am ddim. Nid oes angen archebu lle. Rhaid talu am barcio. Mae’r digwyddiad yn addas i deuluoedd. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (y Ganolfan Fynydd) ar 01874 623366.
Dydd Sul 31 Gorffennaf 14:00-15:30
Cerdded, Clonc a Chwpaned
yn y Ganolfan Fynydd
Cylchdaith hawdd, 1.5 milltir (2.4km), sy’n cynnwys canolfan ysbrydol ddirgel, safle diwydiannol, gorffwysfan derfynol, paratoadau at ryfel, dirgelwch heb ei ddatrys a rhyfeddod na ŵyr fawr o neb amdano. Bydd Te Hufen blasus i ddilyn yn y Ganolfan. Te hufen: £3.20 y pen. Cyfarfod: Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, LD3 8ER (SN 977 262). Rhaid talu am barcio. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn ar gyfer y daith gerdded. Mae’r daith yn addas i deuluoedd. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Mawrth 2 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Crochenwaith ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Gadewch i’r amgylchedd naturiol o’ch cwmpas eich ysbrydoli a chreu eich campwaith eich hun. Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a phlant 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Mercher 3 Awst 20:30 – 22:00
Ystlumod ar Bromenâd Aberhonddu
Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Grŵp Ystlumod Brycheiniog ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog.
Dysgwch am ecoleg ystlumod, gwyliwch ymddygiad ystlumod a chlywch eu galwadau atsainleoli gan ddefnyddio offer synwyryddion ystlumod yn ystod y digwyddiad difyr hwn. Dewch â thortsh ac eli gwrth-bryfed. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Awgrymir cyfraniad o £3 yr oedolyn. Mae’r digwyddiad yn addas i deuluoedd. Dim cŵn, os gwelwch yn dda. Mynediad i bawb. Cyfarfod: Ar bromenâd Aberhonddu wrth gymer afonydd Honddu ac Wysg (SO 042 286) wrth ymyl y maes parcio.
Dydd Mercher 3 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Gwneud Mygydau ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd.
Gwnewch ac addurnwch eich mwgwd eich hun o ddewis o gynlluniau. Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a phlant 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Mercher 3 Awst 10.30 - 12.30
Ditectifs Tirweddau Bioamrywiaeth
Edrychwch ar y dirwedd o amgylch Big Pit a Thomen Coety a dod o hyd i gliwiau sy’n sôn wrthym am yr amgylcheddau naturiol a’r amgylcheddau gwneud o’n hamgylch, gan gynnwys dipio rhwydi mewn pyllau a theithiau cerdded y dirwedd. Mae’r digwyddiad yn addas i blant 7 oed neu’n hŷn (rhaid i oedolyn cyfrifol ddod gyda phob plentyn). Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 790311. Dyma ddigwyddiad partneriaeth wedi’i drefnu gan Big Pit a Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Iau 4 Awst 10:30-12:30
Gemau a Heriau Natur
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Ymunwch â Thîm Addysg y Parc Cenedlaethol i chwarae gemau a datrys posau sydd wedi’u hysbrydoli gan fyd natur yma yn y Parc Cenedlaethol! Mae’r digwyddiad yn addas i blant 5-12 oed. Mae’n rhaid i blant 7 oed neu’n iau ddod ag oedolyn gyda nhw. Cost: £5.00 y plentyn. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Rhaid talu am barcio. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 6 Awst 10:00 - 12:00
Cwrs Adnabod Planhigion Gweundirol
Dysgwch sut i adnabod planhigion gweundirol cyffredin a rhai llai cyffredin gyda’r ecolegydd profiadol Chris Hatch. Mae’r cwrs hwn yn addas i bobl o bob gallu a bydd yn cynnwys cyfuniad o arsylwi yn y maes ac adnabod gan ddefnyddio allweddi botanegol. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Yn anffodus, nid yw’r digwyddiad hwn yn addas i blant. Dyma ddigwyddiad partneriaeth wedi’i drefnu gan Big Pit a Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Mawrth 9 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Crochenwaith ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd.
Gadewch i’r amgylchedd naturiol o’ch cwmpas eich ysbrydoli a chreu’ch campwaith eich hun. Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a phlant 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Mae’n rhaid archebu lle. Rhaid talu am barcio. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (y Ganolfan Fynydd) ar 01874 623366.
Dydd Mercher 10 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Argraffu ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Ydych chi erioed wedi defnyddio gwasg argraffu o’r blaen? Dewch i roi cynnig arni!
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i oedolion a phlant sy’n 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Iau 11 Awst 10:30-12:30
Gemau a Heriau Natur
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Ymunwch â Thîm Addysg y Parc Cenedlaethol i chwarae gemau a datrys posau sydd wedi’u hysbrydoli gan natur yma yn y Parc Cenedlaethol! Mae’r digwyddiad yn addas i blant 5-12 oed. Mae’n rhaid i blant 7 ac iau ddod ag oedolyn gyda nhw. Cost: £5.00 y plentyn. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Rhaid talu am barcio yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Dydd Iau 11 Awst 10.30 - 12.30
Ditectifs Tirweddau Bioamrywiaeth
Edrychwch ar y dirwedd o amgylch Big Pit a Thomen Coety a dod o hyd i gliwiau sy’n sôn wrthym am yr amgylcheddau naturiol a’r amgylcheddau gwneud o’n hamgylch, gan gynnwys dipio rhwydi mewn pyllau a theithiau cerdded y dirwedd. Mae’r digwyddiad yn addas i blant 7 oed neu’n hŷn. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 790311. Dyma ddigwyddiad partneriaeth wedi’i drefnu gan Big Pit a Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Iau 11 Awst 14:15-16:30
Aberhonddu Ddoe a Heddiw
Cewch ymweld â safleoedd hynod a darganfod hanes hudol a thrigolion enwog Aberhonddu ar y daith gerdded 2 filltir (3.2km) hawdd hon o amgylch y dref. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn. Mae’r daith yn addas i deuluoedd. Dim cŵn, os gwelwch yn dda. Cyfarfod: Basn y Gamlas, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, LD3 7EW. Rhaid talu am barcio. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Iau 11 i ddydd Sul 14 Awst
Gŵyl Cyrion Jazz Aberhonddu
Dydd Gwener 12 i ddydd Sul 14 Awst
Jazz Aberhonddu
Dydd Gwener 12 Awst 19.30-23.00
Cawod o Sêr Gwib y Perseidiau
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Dewch i weld un o sioeau godidocaf byd natur: cawod o sêr gwib y Perseidau, yn fyw o’r wybren dywyll uwchben y Parc Cenedlaethol. Bydd arbenigwyr o Dark Sky Wales yn eich helpu i graffu ar yr wybren yn eu planetariwm cludadwy, a gweld sêr a phlanedau drwy delesgopau. Os yw’n noson gymylog, bydd amrywiaeth o ddarlithoedd ar y pwnc. Cost: Oedolion: £8.00, Plant (rhaid i blant fod dros 10 oed): £5.00. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Mae’r pris yn cynnwys parcio, mynediad i’r planetariwm a thaten bob.
Dydd Sadwrn 13 Awst 10:30 – 16:00
Sesiynau Rhagflas ar Gerdded Nordig
Rhaid archebu lle trwy ffonio 029 2043 1555.
Trefnir y digwyddiad gan Age Cymru.
Dysgwch y Dechneg Cerdded Nordig sylfaenol yng nghysur a diogelwch tir y Ganolfan Fynydd (Libanus), gyda Hyfforddwyr Rhyngwladol Age Cymru ar Gerdded Nordig. Cewch ddwy awr o hyfforddiant yna, ar ôl egwyl ginio, cewch ymarfer cerdded ar y tir comin. Dewch â chinio parod gyda chi neu ewch i’r ystafell de am ginio. Gwisgwch eich dillad cerdded arferol; bydd pob offer arbenigol yn cael ei ddarparu. Mae’r teithiau cerdded a’r hyfforddiant yn cael eu graddio yn ôl oedran a lefelau ffitrwydd y rhai sy’n cymryd rhan, ond rydym wedi sylwi bod pobl dros 50 oed yn elwa’n arbennig. Cost: £3 y pen neu £5 i ddau. Bydd angen talu am barcio.
Dydd Sul 14 Awst 10:00 - 17:00
Diwrnod i'r Teulu, Bannau Brycheiniog
yn y Ganolfan Fynydd
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cerddoriaeth, gweithgareddau i blant ac i'r teulu a llawer, llawer mwy.... Mwy o fanylion!
Dydd Sul 14 Awst 13:00-16:00
Eglwys y Ddau Sant
Crwydro llwybrau Llanddeusant
Ymunwch â ni ar y daith gerdded 3 milltir (4.7km) hawdd hon trwy dir amaethyddol, glannau afon a choedwigoedd yn un o’r ardaloedd lleiaf datblygedig o’r Parc Cenedlaethol, gan orffen yn y Neuadd Gymunedol i fwynhau te â chacenni blasus. Cyfanswm y dringo: 120m. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn. Mae’r daith yn addas i deuluoedd.
Cyfarfod: Neuadd Gymunedol Llanddeusant (Yr Hen Ysgol), SA19 9YB (SN 760 248). Rhaid talu am barcio. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Mawrth 16 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Crochenwaith ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Gadewch i’r amgylchedd naturiol o’ch cwmpas eich ysbrydoli a chreu’ch campwaith eich hun. Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a phlant 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Mercher 17 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Gwneud Mygydau ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Gwnewch ac addurnwch eich mwgwd eich hun o ddewis o gynlluniau. Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a phlant 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Iau 18 Awst 10.30 -12.30
Synhwyrau Uwchraddol ac Amddiffyn Cyfrwys
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Digwyddiad a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog.
Profwch eich synhwyrau a gweld pa mor dda y byddech chi’n goroesi yn y gwyllt! Darganfyddwch pa gastiau y mae ein hadar, pryfed ac anifeiliaid yn eu defnyddio i’w hamddiffyn eu hunain. Mae’r digwyddiad yn addas i blant rhwng 5 a 12 oed. Plant o dan 8 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Iau 18 Awst 10:00-16:00
Ymgyfeiriwch! Crwydro Mynydd Llangynidr gyda map a chwmpawd
Ydych chi’n dymuno gwella’ch sgiliau defnyddio map a chwmpawd? Efallai nad ydych wedi’u defnyddio erioed o’r blaen? Bydd y gylchdaith egnïol 8.5 milltir (13.6km) hon sy’n crwydo Mynydd Llangynidr yn eich dangos sut i fynd ati. Cyfanswm y dringo: 475m. Awgrymir cyfraniad o £5 yr oedolyn. Cyfarfod: maes parcio pentref Llangynidr (SO 155 195). I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Gwener 19 i ddydd Sul 21 Awst
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Dydd Mawrth 23 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Crochenwaith ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Gadewch i’r amgylchedd naturiol o’ch cwmpas eich ysbrydoli a chreu’ch campwaith eich hun. Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a phlant 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Mercher 24 Awst 10.00-13.00
Gweithdy Argraffu ‘Take pART’
yn y Ganolfan Fynydd.
Ydych chi erioed wedi defnyddio gwasg argraffu o’r blaen? Dewch i roi cynnig arni! Mae’r digwyddiad hwn yn addas i oedolion a phlant sy’n 5 oed neu’n hŷn. Plant o dan 12 oed – gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Iau 25 Awst 10.30 -12.30
Pili Pala Prydferth a Chuddliw Cyfrwys
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Digwyddiad a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog.
Golwg agos ar rai ieir bach yr haf a gwyfynod, celf a chrefft a helfa am yr hen lindys cuddliw ’na. Mae’r digwyddiad yn addas blant rhwng 5 a 12 oed. Plant o dan 8 oed - gwnewch yn siwr eich bod yn dod ag oedolyn gyda chi. Cost: £5.00 y plentyn. Rhaid talu am barcio. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Sadwrn 27 Awst 11.00-15.00
Cylchdaith Pen y Fan
Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mwynhewch olygfeydd gwych ar y daith gerdded egnïol 4.6 milltir (7.5km) hon i gopa’r mynydd uchaf yn ne Prydain. Camwch yn ôl i’r Oes Efydd ac ymweld â safle’r obelisg a godwyd er cof am drasiedi Tommy Jones. Cyfanswm y dringo: 525m. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Awgrymir cyfraniad o £5 yr oedolyn. Cyfarfod: Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms ar ffordd yr A470 (SN 982203) (LD3 8NL).
Dydd Sadwrn 27 i ddydd Llun 29 Awst 10.00- 17.00 bob dydd
Ffair Haf Bannau Brycheiniog
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Bydd dros 50 o arddangoswyr bwyd a chrefftau o Gymru yn dangos eu heitemau crefft sydd wedi’u saernïo’n gain a’u cynnyrch blasus. I gael mwy o fanylion, ffoniwch Andrew Powell ar 01874 624979. Mae’r digwyddiad yn addas i deuluoedd. Rhaid talu am barcio. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 27 – Dydd Sul 28 Awst
Gŵyl Talgarth
Dydd Sadwrn 27 – Dydd Llun 29 Awst
Anturiaethau ar Safle Treftadaeth Byd
Mynnwch gipolwg ar y Safle Treftadaeth Byd o safbwynt gwahanol gyda Chanolfan Robert Jeffrey. Gallai’r gweithgareddau gynnwys ogofa, canŵio, cerdded bryniau, cerdded ceunentydd, beicio mynydd a dringo creigiau ac abseilio. Cost: £187 (mae’n cynnwys aros am 3 diwrnod, gyda phob pryd bwyd a phob gweithgaredd wedi’u cynnwys, yng Nghanolfan Robert Jeffrey, Gofilon). Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 3 a Dydd Sul 4 Medi
Cyrsiau Diogelwch ar y Bryniau a Llywio Traws Gwlad Cenedlaethol ar lefel Efydd
yn y Ganolfan Fynydd. Dysgwch sut i fod yn ddiogel wrth gerdded y bryniau – mae’r cyrsiau’n talu sylw i amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys darllen mapiau, llywio traws gwlad a diogelwch ac maent yn ddelfrydol ar gyfer magu hyder a dysgu sgiliau newydd, neu loywi sgiliau presennol. Rhaid archebu lle. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (sydd hefyd yn cael ei alw’n Ganolfan y Mynydd) ar 01874 623366. Cynhelir y cwrs gan Manzoku ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sul 4 Medi 13:00-16:00
O Feddygon y 12fed Ganrif i Borwyr yr 21ain Ganrif
Crwydrwch dirwedd hudolus Mynydd Myddfai, ymwelwch â safle sancatidd Ffynnon y Meddyg a dysgwch am y bobl a fu’n byw ac yn gweithio yn y lle arbennig hwn ar y daith gerdded hyfryd, hawdd 4.5 milltir (7.3km) hon. Cyfanswm y dringo: 130m. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn. Mae’r daith yn addas i deuluoedd. Cyfarfod: Cronfa Ddŵr Wysg (SN 835 286). I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Gwener 9 Medi 14:00 - 16:00
Bywyd Gwyllt Gwastraff y Pyllau Glo
Dros amser, mae gwastraff y pyllau glo sy’n gorchuddio’r bryniau o amgylch Blaenafon wedi datblygu’n gynefin bywyd gwyllt hynod o gyfoethog. Dysgwch fwy ar y daith gerdded hon gyda’r ecolegydd lleol Steve Williams. Hyd / gradd: 3 km / 2 filltir / cymedrol. Cyfarfod: maes parcio Pwll y Ceidwad (SO 254 107). Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sul 11 Medi 10.30 - 14:30
Canllaw ar Fap a Chwmpawd i Ddechreuwyr
Mae’r daith gerdded hon yn rhan o Gŵyl Gerdded y Cymoedd. Dysgwch elfennau sylfaenol llywio traws gwlad gan ddefnyddio map a chwmpawd ar y daith gerdded hon trwy Dirwedd Ddiwydiannol Safle Treftadaeth Byd Blaenafon. Darperir mapiau a chwmpawdau. Cyfarfod: Maes parcio’r Foxhunter SO 264108. Hyd / Gradd: 8km / 5 milltir / Caled. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01443 838632. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 10 Medi 10.00-16.00
Copa Pen-y-Fâl a Derw Hynafol
Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Taith gerdded 9 milltir (14.5km) egnïol i fyny Pen-y-Fâl heibio Dyffryn y Santes Fair, gan ddychwelyd drwy dderw hynafol Coed Deri. Cyfanswm y dringo: 600m.
Cyfarfod: Canolfan Groeso a Chanolfan y Parc Cenedlaethol y Fenni, NP7 5HL (SO 301 140). Awgrymir cyfraniad o £5 yr oedolyn. Rhaid talu am barcio. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366.
Dydd Gwener 16 Medi 10.30 - 15.30
Taith Gerdded i Winllan Pen-y-fâl
Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Gŵyl Fwyd y Fenni.
Taith gerdded gymedrol, 6 milltir (9.6km), i Winllan Pen-y-fâl, drwy Ddolydd y Castell ac Eglwys Llanwenarth. Crwydrwch ymysg y gwinwydd lle mae saith math o rawnwin yn cael eu tyfu, cyn cael cinio ar un o’r llethrau sy’n wynebu’r de, gan fwynhau’r golygfeydd dros y bryniau o’ch amgylch. Cewch gyfle i flasu a phrynu gwinoedd coch, gwyn a rosé, cyn ymlwybro’n ôl i’r Fenni. Cyfarfod: Canolfan Groeso a Chanolfan y Parc Cenedlaethol y Fenni, NP7 5HL (SO 301 140). Dim ond 15 lle sydd ar gael. Rhaid talu am y digwyddiad. Mae’n rhaid archebu lle trwy wefan yr Ŵyl Fwyd.
Dydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Medi
Cyrsiau Diogelwch ar y Bryniau a Llywio Traws Gwlad Cenedlaethol ar lefel Efydd
yn y Ganolfan Fynydd. Dysgwch sut i fod yn ddiogel wrth gerdded y bryniau – mae’r cyrsiau’n talu sylw i amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys darllen mapiau, llywio traws gwlad a diogelwch ac maent yn ddelfrydol ar gyfer magu hyder a dysgu sgiliau newydd, neu loywi sgiliau presennol. Rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Cynhelir y cwrs gan Manzoku ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 17 Medi 10:30 – 15:00
Efail Gofilon a Llwybr Treftadaeth y Rheilffordd
Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Treftadaeth Gofilon. Dilynwch y gamlas hardd a’r hen reilffordd ar y gylchdaith 2 filltir (3km) hawdd hon i safle efail hynafol, i fwrw golwg ar effaith y chwyldro diwydiannol ar y cornel gwledig hwn o Sir Fynwy. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn. Mae’r daith yn addas i deuluoedd.
Cyfarfod: Maes parcio’r ffwrnais (ar y Tyla Road ar frig Station Road, Gofilon – SO 262 134). I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366.
Dydd Sadwrn 17 i ddydd Sul 18 Medi
Gŵyl Fwyd y Fenni
Dydd Sul 18 Medi 10:00 - 12.30 a 13:30 - 16:00
Crefft Byw yn y Gwyllt
Darganfyddwch fwydydd gwyllt yn y goedwig, a dysgwch hanfodion cynnau tân a choginio yn yr awyr agored gyda’r arbenigwr ar fyw yn y gwyllt, Alan Cree (Wilderness Discovery). Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnig ffordd ryngweithiol, llawn hwyl, o ddysgu sut roedd trigolion blaenorol yr ardal yn gwneud y defnydd gorau ar yr amgylchedd o’u cwmpas. Dewiswch naill ai sesiwn fore neu brynhawn. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Hyd/ Gradd: 3 km / 2 filltir / cymedrol. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 24 Medi 10:00 – 16:30
Dolen y Pedwar Copa
Dyma daith gerdded 8½ milltir (13.6km) galed ar ddolen lai enwog dwyrain y Bannau, gan fynd i Fan y Big, Craig Cwareli, Bwlch y Ddwyallt a Chwar y Gigfran. Ar y ffordd, bydd cyfle i ddysgu am fywyd gwyllt yr ucheldir, rheolaeth ar yr ucheldir a gweld rhai golygfeydd rhagorol. Awgrymir cyfraniad o £3 yr oedolyn. Cyfarfod: maes parcio Blaen-y-glyn (SN 056 175). I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 24 Medi 10:00 - 14:00
Enwau Lleoedd Anghofiedig (Taith gerdded Gymraeg)
Darganfyddwch leoedd ac enwau lleoedd cudd y dirwedd o amgylch Blaenafon ar y daith gerdded hon dan arweiniad Rheolwr y Ganolfan Treftadaeth Byd, Emyr Morgan.
Cyfarfod: Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Hyd / Gradd: 7km / 4½ milltir / egnïol. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 24 i ddydd Sul 25 Medi
Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri
Wythnos o hwyl sy’n gysylltiedig â defaid i’r teulu cyfan, gyda llawer i’w wneud a’i ddarganfod. Noddwr: Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Cynhelir yr ŵyl yn Sgwâr y Farchnad ac yng Nghaeau’r Castell, Llanymddyfri. I gael mwy o fanylion, ewch i wefan Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri neu ffoniwch 01550 721375.
Dydd Sadwrn 1 Hydref 10.00 - 17.00
Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog
yn Neuadd y Farchnad, Aberhonddu.
Prynwch fwyd lleol, blasus, yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwyr o Gymru, a sgwrsio â nhw ynghylch eu dulliau cynhyrchu bwyd.
Mae Mickael Weiss, Prif Gogydd bwyty arobryn Coq d'Argent yn Llundain, sydd wedi ennill nifer o wobrau a thri rhosyn yr AA a seren Michelin, wedi cadarnhau y bydd yn bresennol yn yr ŵyl fwyd eleni. Hefyd wedi cadarnhau y mae Matt Gillian, Prif Gogydd The South Lodge (Gwesty'r Flwyddyn y DU yn 2009 a deiliad tri rhosyn yr AA).
Bydd hyn yn cyd-fynd â Chapten Tîm Coginio Cymru, Nick Davies, Derek Brockway a Sian Lloyd o'r BBC ac, yn newydd eleni, Cogydd Ifanc y Flwyddyn o Ysgolion Cynradd Powys.
Mae Coleg yr Iesu, Aberhonddu yn noddwr newydd eleni, gan ymuno â noddwyr lleol eraill: NFU Aberhonddu, Castell Howell, The Castle of Brecon Hotel a'r Griffin, Felinfach.
I gael mwy o fanylion, ffoniwch Andrew Powell ar 01874 624979. Mae’r digwyddiad yn addas i deuluoedd. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sul 2 Hydref
Cyrsiau Diogelwch ar y Bryniau a Llywio Traws Gwlad Cenedlaethol ar lefel Efydd
yn y Ganolfan Fynydd. Dysgwch sut i fod yn ddiogel wrth gerdded y bryniau – mae’r cyrsiau’n talu sylw i amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys darllen mapiau, llywio traws gwlad a diogelwch ac maent yn ddelfrydol ar gyfer magu hyder a dysgu sgiliau newydd, neu loywi sgiliau presennol. Rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Cynhelir y cwrs gan Manzoku ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sul 2 Hydref 10:00 – 16:30
Tri Chainc Llanddewi Nant Hodni
Ymchwiliwch i hanes y priordy o’r 12fed ganrif yn Llanddewi Nant Hodni a’r fynachlog o’r 19eg ganrif yng Nghapel-y-ffin ar y daith gerdded 9 milltir (14.5km) egnïol hon dros gefnen Chwarel y Fan (679m), gyda golygfeydd arbennig dros y Mynydd Du a thu hwnt, gan fwrw golwg ar y ddaeareg a’r fflora lleol ar hyd y daith. Cyfanswm y dringo: 440m. Awgrymir cyfraniad o £3 y pen.
Cyfarfod: Maes parcio Priordy Llanddewi Nant Hodni, NP7 7NN (SO 289 278).
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Mawrth 6 Hydref 10.30 - 13:00
Darganfod ffyngau Ceunant Clydach
Mae Ceunant Clydach yn safle sy’n bwysig yn genedlaethol ar gyfer bywyd gwyllt ac mae’n enwog yn benodol am amrywiaeth y ffyngau sydd yno. Ymunwch â Sheila Spence o Grŵp Ffyngau Gwent i ddysgu rhagor am y grŵp hynod ddiddorol hwn. Cyfarfod ym maes parcio de Clydach, SO230134. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Hyd / Gradd: 3 km / 2 filltir / cymedrol. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Gwener 7 i ddydd Sul 9 Hydref
Gŵyl Gerdded y Gelli
Yr ŵyl gerdded gyntaf erioed yn y Gelli!
Mae’r Gelli yn enwog fel tref y llyfrau ac mae’n gartref i ŵyl lenyddol flynyddol fawr. Ond, mae hefyd yn ganolfan wych ar gyfer cerdded, gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Llwybr Clawdd Offa, y Mynydd Du, Dyffryn Gwy, a’r Golden Valley a’r pentrefi du a gwyn yn Swydd Henffordd o fewn cyrraedd hawdd. Gŵyl Gerdded y Gelli.
Dydd Sadwrn 8 Hydref: 19:00-21:30
Serydda
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Bydd Cymdeithas Seryddol Caerdydd yn cynnal noson serydda yn y Ganolfan Ymwelwyr. Os bydd yr wybren yn glir, bydd telesgopau’n troi at ffenomenau difyr yn awyr y nos, neu os bydd cymylau, bydd darlithoedd dan do. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal dim ots beth wna’r tywydd! Cost: Oedolion: £6.00, Plant (o leiaf 10 oed): £4.00. Mae’r pris yn cynnwys parcio, a chawl a rhôl fara. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366.
Dydd Sadwrn 15 Hydref: 10:00-17:00
Cylchdaith y Bannau
Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cewch olwg ar holl bwyntiau uchaf Bannau Brycheiniog ar y daith gerdded 11 milltir (17.6km) galed hon dros Gorn Du a Phen y Fan. Cewch ddysgu ychydig am ffurfiadau rhewlifol a hanes lleol ar y daith. Cyfanswm y dringo: 845m. Awgrymir cyfraniad o £5 yr oedolyn. Cyfarfod: maes parcio Storey Arms ar ffordd yr A470, 8 milltir i’r de o Aberhonddu, LD3 8NL (SN 982 003). I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366.
Dydd Sadwrn 15 a Dydd Sul 16 Hydref
Cyrsiau Diogelwch ar y Bryniau a Llywio Traws Gwlad Cenedlaethol ar lefel Efydd
yn y Ganolfan Fynydd. Dysgwch sut i fod yn ddiogel wrth gerdded y bryniau – mae’r cyrsiau’n talu sylw i amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys darllen mapiau, llywio traws gwlad a diogelwch ac maent yn ddelfrydol ar gyfer magu hyder a dysgu sgiliau newydd, neu loywi sgiliau presennol. Rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Cynhelir y cwrs gan Manzoku ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sul 16 Hydref 10:00 – 13:00
Ditectifs Natur
Dysgwch sut i adnabod olion, llwybrau a llu o arwyddion eraill o fywyd gwyllt gyda’r ecolegydd profiadol Chris Hatch. Hyd a Gradd: 3 km / 2 filltir / cymedrol. Cyfarfod: Canolfan Treftadaeth Byd. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 22 – Dydd Sul 30 Hydref
Wythnos Gelf Aberhonddu
Wythnos wych o ddigwyddiadau a gweithgareddau celf, crefft a diwylliant i’r teulu cyfan, gyda llu o bethau i’w gweld a’u gwneud. Lleoliadau amrywiol ar draws Aberhonddu. I gael mwy o fanylion, ewch i Art Beat Brecon neu ffoniwch 01874 620640.
Dydd Sadwrn 22 i ddydd Sul 30 Hydref 10:00-16:00 bob dydd
Ffair Gelf a Chrefft
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER
Dewch i bori trwy amrywiaeth eang o gelf a chrefft drwy gydol hanner tymor yr ysgolion. Mae llawer yn cael eu gwneud yn lleol, a darnau wedi’u gwneud â llaw ac i’w trysori ydynt i gyd. Mynediad am ddim, ond rhaid talu am barcio. Mae’r digwyddiad yn addas i deuluoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (Y Ganolfan Fynydd) ar 01874 623366.
Dydd Sadwrn 23 Hydref 10:00 - 15:00
Archaeoleg Mynydd
Ystyriwch hyn yn ‘archaeoleg i gerddwyr bryniau’. Ymunwch â’r archaeolegwr Frank Olding ar daith i’r bryniau i ddysgu sut i adnabod a dehongli archaeoleg yn amgylchedd ucheldir Cymru. Hyd / Gradd: 8km / 5 milltir / egnïol. Cyfarfod ym maes Parcio Llynnoedd y Garn SO235099. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Mercher 26 Hydref 10:00 - 13:00
Cadwraeth Pyllau
Gwnewch wahaniaeth go iawn i amgylchedd Tomen Coety gyda’r gweithgaredd cadwraeth ymarferol hwn. Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle rhagorol i ddarganfod mwy am byllau a’u rheolaeth. Mae’r digwyddiad yn addas i’r rhai dros 11 oed. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 790311. Trefnir y digwyddiad gan Big Pit a Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Mawrth 1 Tachwedd 19:00
Darlith Tirweddau Byw – Nerth dŵr, ddoe a heddiw
Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon
Dysgwch fwy am sut roedd dŵr yn pweru diwydiannau’r gorffennol ym Mlaenafon, a sut mae’r ffynhonnell ynni adnewyddadwy hon yn cael ei hadfer bellach trwy brosiect Tirweddau Anghofiedig. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sadwrn 12 a dydd Sul 13 Tachwedd
Cyrsiau Diogelwch ar y Bryniau a Llywio Traws Gwlad Cenedlaethol ar lefel Efydd
yn y Ganolfan Fynydd. Dysgwch sut i fod yn ddiogel wrth gerdded y bryniau – mae’r cyrsiau’n talu sylw i amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys darllen mapiau, llywio traws gwlad a diogelwch ac maent yn ddelfrydol ar gyfer magu hyder a dysgu sgiliau newydd, neu loywi sgiliau presennol. Rhaid archebu lle trwy ffonio 01874 623366. Cynhelir y cwrs gan Manzoku ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 10.30 –12.30
Darlith Tirweddau Byw – Nerth dŵr, ddoe a heddiw
Lleoliad: Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon
Mae’r daith gerdded dywysedig hon yn mynd i’r safleoedd archeolegol allweddol sydd wedi’u crybwyll yn y ddarlith uchod, ac mae’n rhoi cyfle i ddysgu am gynllun hydro newydd Afon Lwyd o lygad y ffynnon.
Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sul 13 Tachwedd 09.45 – 15:00
Daeareg y Safle Treftadaeth Byd – o’r mwyngloddiau i’r mynyddoedd
Ymunwch â Tom Sharpe, o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ar gyfer yr olwg unigryw hon ar ddaeareg yr ardal. Bydd y diwrnod yn dechrau gyda thaith o ddaeareg danddaearol yn Big Pit, ac yn dilyn hynny, bydd taith gerdded ar Fynydd Blorens, lle ceir esboniad o’r dirwedd uwchlaw’r ddaear. Cyfarfod yn Amgueddfa Lofaol Big Pit. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 01495 742333. Hyd / Gradd: 6km / 4 milltir / egnïol. Trefnir y digwyddiad gan Tirweddau Anghofiedig.
Dydd Sul 13 Tachwedd 09:00-13:00
Ymweliad Dydd y Cofio â Safle Damwain Awyren Fomio Wellington
Taith gerdded 5 milltir (8.2km) egnïol, yn ymweld â safle damwain Awyren Fomio Wellington R1465 er coffâd ar Ddydd Sul y Cofio, yna cinio i ddilyn yn Travellers’ Rest, Tal-y-bont ar Wysg. Cyfanswm y dringo: 490m. Mae’n rhaid archebu lle trwy ffonio 07967 633846. Bydd angen blaendal o £5 ar gyfer y cinio; sylwch, nid yw’r Travellers’ Rest yn derbyn cardiau. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn ar gyfer y daith. Cyfarfod: maes parcio Pont Blaen y Glyn (SO 063 170). Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 10:30-14:30
Ymwelwyr y Gaeaf yn Llyn Syfaddan
Mae’r llyn hwn yn fwy na pharadwys gwylio adar - hwn yw nefoedd yr adar yn wir! Taith gerdded 4 milltir (6.5km) hawdd i weld ymwelwyr â’r Llyn yn ystod y gaeaf a chael mwy o wybodaeth am raglen modrwyo adar Cymdeithas Adareg Prydain a rhai o’r canlyniadau diddorol iawn a gafwyd gan y fodrwywyr adar hyfforddedig a chymwys. Mae’n debygol o fod yn wlyb dan draed. Awgrymir cyfraniad o £2 yr oedolyn. Mae’r daith yn addas i deuluoedd. Dim cŵn, os gwelwch yn dda.
Cyfarfod: maes parcio Llyn Syfaddan, LD3 7TR (SO 279 123).
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01874 623366. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 10.00- 17.00
Gŵyl Fwyd y Gaeaf, y Gelli
Cyfle i chi brynu bwyd lleol yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwyr o Gymru. Fe’i cynhelir ym Maes Parcio’r Gofgolofn a’r Farchnad Fenyn, Y Gelli. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Andrew Powell ar 01874 624979. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sul 27 Tachwedd 10.00- 17.00
Gŵyl Gelf a Chrefft y Gaeaf, y Gelli
Cyfle i grefftwyr o Gymru arddangos eu gwaith ac i chi brynu cynhyrchion sydd wedi’u saernïo’n gain ac a wnaed â llaw yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwyr. Fe’i cynhelir ym Maes Parcio’r Gofgolofn a’r Farchnad Fenyn, Y Gelli. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Andrew Powell ar 01874 624979. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr i ddydd Sul 1 Ionawr 10:00-16:00 bob dydd Ffair Gelf a Chrefft
yn y Ganolfan Fynydd, LD3 8ER.
Dewch i bori trwy amrywiaeth eang o gelf a chrefft drwy gydol y gwyliau ysgol. Mae llawer yn cael eu gwneud yn lleol, a darnau wedi’u gwneud â llaw ac i’w trysori ydynt i gyd. Mynediad am ddim, ond rhaid talu am barcio. Mae’r daith yn addas i deuluoedd. Trefnir y digwyddiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Gŵyl Gerdded Crughywel 2012
Yn sgil Gŵyl lwyddiannus eleni, bydd Crughywel yn cynnal gŵyl arall y flwyddyn nesaf ddiwedd Chwefror / dechrau Mawrth 2012.
Taith Gerdded Dywysedig 8 Diwrnod Ffordd y Bannau 2012
Bydd Rob Knowles o Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog yn arwain taith gerdded dywysedig 8 diwrnod arall ar hyd Ffordd gyfan y Bannau, o ddydd Sadwrn 21 i ddydd Sul 28 Gorffennaf 2012. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu lle, cysylltwch â Rob yn uniongyrchol ar 07971 190768 neu anfonwch neges e-bost ato. Caiff y daith ei threfnu gan Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, sy’n gorff annibynnol nad yw’n rhan o Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Felly, gwnewch yn siwr eich bod yn fodlon â’i gweithdrefnau iechyd a diogelwch cyn eich bod yn trefnu lle ar y digwyddiad hwn.
Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog
Mae Cymdeithas y Parc hefyd yn cynnig teithiau cerdded i gerddwyr profiadol bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl Banc (nid oes teithiau cerdded ar y dydd Gwener rhwng misoedd Hydref a Chwefror). Gofynnir i bobl nad ydynt yn aelodau o’r gymdeithas gyfrannu £5.00 am bob taith gerdded, a hanner y pris yn achos pobl o dan 16 oed, pobl ddi-waith a myfyrwyr. Mae mwy o fanylion ar gael oddi wrth Anne Pritchard, ffoniwch: 029 2061 0397, anfonwch neges e-bost neu ewch i wefan Cymdeithas y Parc. Sylwch: Nid yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am waith y sefydliad hwn felly eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siwr eich bod yn fodlon â’i gweithdrefnau iechyd a diogelwch cyn cymryd rhan yn un o’r teithiau cerdded hyn.
Cymdeithas Edward Llwyd
Mae gan Cymdeithas Edward Llwyd, y grŵp cerdded Cymraeg ei iaith, yn cynnal rhaglen o deithiau cerdded rhwng Mawrth ac Awst 2011, a bydd rhai o’r rhain yn cael eu cynnal yn y Parc Cenedlaethol ac yn Geoparc y Fforest Fawr. Sylwch: Nid yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am waith y sefydliad hwn, felly eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siwr eich bod yn fodlon â’i weithdrefnau iechyd a diogelwch cyn cymryd rhan yn un o’r teithiau cerdded hyn.
