Pysgota
Penllwydion Afon Gwy sydd wedi torri ambell record, Afon Wysg â pheth o’r pysgota brithyllod brown gorau yn y wlad a chronfeydd dŵr a llynnoedd yma a thraw sydd â stoc dda ynddynt – dyma sy’n gwneud pysgota’n un o’r gweithgareddau awyr agored mwyaf poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
P’un a’ch bod chi’n chwilio am bysgota bras neu bysgota gêm, mewn afon, camlas, llyn neu gronfa ddŵr, cewch lawer o bysgodfeydd i ddewis o’u plith a detholiad o westai gwlad sy’n cynnig croeso arbennig i fabolgampwyr chwaraeon awyr agored. Gallwch lawrlwytho Pysgota ym Mannau Brycheiniog - arweiniad.
Mae gwybodaeth fanwl a chyfredol am safleoedd genweirio, a lle i gael trwyddedau a chaniatâd pysgota ar gael oddi wrth Ganolfannau Croeso, Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac oddi wrth Fishing in Wales.
Mae Fishing Wales yn cynnwys llu o wybodaeth ar bysgota yng Nghymru. Mae llawer yno o ddiddordeb i enweirwyr yn ogystal â system fwcio ar-lein ar gyfer llety.
Afon Gwy
Mae Afon Gwy yn tarddu bron 700m (2200 o droedfeddi) uwchlaw lefel y môr ym Mynyddoedd Cambria bellennig. Oddi yno, mae’n teithio am 260km (160 milltir), gan gyd-daro â’r Parc yn ardal Y Gelli cyn llifo ymlaen ac i mewn i Aber Afon Hafren yng Nghas-gwent. Gall pysgotwyr bras ddisgwyl dal barfogion, tybiau’r dail, cochiaid a brwyniaid neu un o’r draenogiaid neu’r penhwyaid rheibus mawr sy’n llechu yn y pyllau dwfn. Gall tocynnau dydd gael eu prynu ar gyfer y rhan fwyaf o estyniadau afon.
Afon Wysg
Dyma afon sy’n bwysig ar gyfer eogiaid a hefyd ar gyfer ei brithyllod brown gwyllt, ac mae Afon Wysg yn troelli ar hyd prydferthwch Dyffryn Wysg o Aberhonddu i’r Fenni, cyn gorffen ei thaith ym Môr Hafren.
Mae Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg yn elusen gofrestredig sy’n ymwneud ag adfer cynefin, ansawdd dŵr a physgodfeydd afonydd Gwy ac Wysg. Yma cewch wybodaeth am sut i bysgota afonydd Gwy ac Wysg drwy’r "Wye & Usk Passport" adnabyddus, deunydd addysgol, dolenni cysylltiedig, yn wir, bron popeth y byddech fyth eisiau ei wybod am y sefydliad neu am y ddwy afon.
Cronfa Ddŵr Tal-y-bont
Mae Cronfa Ddŵr Tal-y-bont yn nythu yn Nyffryn coediog Caerfanell, nid nepell o bentref Tal-y-bont ar Wysg. Mae ganddo enw da am fod yn bysgodfa gynhyrchiol o frithyllod brown. Mae modd prynu caniatâd pysgota ar y safle, o beiriant yn y gweithfeydd trin dŵr. Cysylltwch â Dŵr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Cronfa Ddŵr Wysg
Mae gan y gronfa ddŵr hon leoliad gwych 320m (1050 troedfedd) uwchlaw lefel y môr, ym mhen uchaf Dyffryn Wysg. Mae hi mewn ardal dawel a phellennig o’r parc ac mae’n nythu o dan wynebau sgarp Bannau Caerfyrddin. Dyma bysgodfa wych ar gyfer brithyllod, ac mae caniatâd ar gael i’w brynu o beiriant ger wal yr argae.
Cysylltwch â Fishing in Kite Country a Dŵr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Llyn Syfaddan
Mae penhwyaid, draenogiaid, cochiaid, merfogiaid a llysywod yn y llyn. Heblaw am bobl o dan 16 oed, bydd angen caniatâd dydd arnoch, sydd ar gael o siop glan y llyn. Caniateir pysgota o gychod yn unig, a gellir eu hurio o’r un siop. Mae angen trwydded gan Asiantaeth yr Amgylchedd i bysgota bras a brithyllod anfudol. Mae’r rhain ar gael o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post.
Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Yn dilyn Afon Wysg y mae camlas gul a phrydferth lle gall genweirwyr sy’n well ganddynt hynt ddyfroedd sy’n llifo’n araf bysgota brithyllod, carpiaid, brwyniaid a draenogiaid. Mae’r llwybr tynnu yn Nhal-y-bont yn hwylus ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Gellir prynu trwyddedau pysgota’n lleol o swyddfa Dyfrffyrdd Prydain yn Y Lanfa, Gofilon, ger Y Fenni (Ffôn: 01873 830328), ac o Ganolfan Treftadaeth ac Astudio Glanfa Goetre, Glanfa Goetre, Llanofer (Ffôn: 01873 881069).
