Ogofa
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i rai o’r systemau ogof pwysicaf yn Ewrop.
Daeareg a Chreadigaeth Ogofâu:
Mae llawer o ganolfannau awyr agored ac arbenigwyr ym Mannau Brycheiniog yn cynnig cyrsiau i ddechreuwyr ac i ogofäwyr mwy profiadol, ond byddwch yn ymwybodol bod ogofa yn gallu bod yn weithgaredd peryglus a dylai pobl ddibrofiad bob amser fod yng nghwmni arweinydd neu hyfforddwr cymwys. Yr unig ffordd o fynd i mewn i rai o’r systemau ogof mwy helaeth yn y Parc Cenedlaethol yw trwy ganiatâd clybiau ogofa lleol, ac mae eu profiad nhw’n amhrisiadwy.
Daeareg a’r Dirwedd
Ffurfiodd Calchfaen Carbonifferaidd de Cymru mewn moroedd trofannol bas dros 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae llawer ohono o dras organig, wedi’i greu o gregyn a sgerbydau anifeiliaid môr – rhai bach a mawr. Ymhlith y ffosiliau mwyaf ardderchog sydd i’w gweld yn y Parc Cenedlaethol y mae cwrelau a elwir yn ‘Lithostrotion’. Yn aml, bydd eu manylder mewnol cymhleth wedi’i ddiogelu’n dda.
Mae band o’r graig hon yn ymestyn ar draws y Parc Cenedlaethol o Florens yn y dwyrain i Garreg Cennen yn y gorllewin. Yn y strimyn tenau hwn o ardal galchfaen, sy’n 70km hir ond prin byth yn fwy na 1km llydan, y mae rhai o’r ogofâu mwyaf trawiadol ym Mhrydain i’w gweld.
Creadigaeth ogofâu
Mae calchfaen yn hydawdd mewn dŵr sydd ychydig yn asidig, yn union fel y dŵr sy’n rhedeg oddi ar dir mawnaidd bryniau’r Parc Cenedlaethol. Wrth iddo weu ei ffordd i graciau mân yn y graig, mae’n eu hymledu dros y blynyddoedd, gan greu rhwydwaith o holltau a thiwbiau agored. Pan fydd y llwybrau cydgysylltiol hyn yn cyrraedd maint penodol ymhen hir a hwyr, rydym yn eu hystyried yn rhwydwaith o ogofâu.
Mae’r ogofâu’n datblygu ar hyd 'planau haenu' – yr haenau o graig eu hunain – ac ar hyd toriadau fertigol sy’n bresennol yn y graig ers cyfnod miliynau o flynyddoedd yn ôl pan gafodd de Cymru ei ymestyn a’i wasgu am yn ail wrth i gyfandiroedd wrthdaro ac ymrannu. Mae cwymp toeau hefyd yn chwarae rhan yn nhwf ogof dros filoedd o flynyddoedd.
Mae dŵr yn arllwys i lawr llethrau deheuol y bryniau Hen Dywodfaen Coch cyfarwydd yn y gogledd, a phan fydd yn cwrdd â’r calchfaen, mae’n diflannu o dan ddaear. Oherwydd bod mwyafrif creigiau’r Parc Cenedlaethol ar ychydig o lethr i lawr tuag at faes glo de Cymru, mae llawer o ogofâu’n dilyn y goleddf deheuol hwn. Maent hefyd yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y goleddf hwn tan eu bod yn ymddangos yn un o’r dyffrynnoedd mawr a gerfiwyd drwy’r calchfaen.
Tirwedd Karst
Caiff y rhan hon o gefn gwlad, gyda’i chalchbalmentydd, ogofâu, dyffrynnoedd sych a llyncdyllau ei hadnabod fel tirwedd 'karst', ar ôl y rhanbarth clasurol o’r enw hwnnw yn Slovenia. Mae ein hardal yn wahanol i ardaloedd karst eraill ym Mhrydain oherwydd bod llai o galchbalmentydd yma, ond llawer mwy o lyncdyllau, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd calchfaen ar yr olwg gyntaf. Er bod ardaloedd fel Mynydd Llangynidr and Mynydd Llangatwg yn llwyfandiroedd graeanfaen, y rheswm dros y nifer fwy o lyncdyllau yw nad yw’r calchfaen ymhell o’r wyneb. Mae cwympiadau mewn rhannau o ogofâu o fewn y calchfaen yn arwain at ymddangosiad craterau ar wyneb y tir. Mae rhai o’r rhain yn wirioneddol drawiadol, maent 60m ar draws a chanddynt ddyfnder o 20m!
Blas ar yr is-fyd
Mae pob un ond dyrnaid o ogofâu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn agored dim ond i ogofäwyr profiadol sydd â gwybodaeth leol neu sydd â chymorth tywysydd lleol arbenigol. Y prif eithriad i hyn yw system estynedig Dan-yr-Ogof yng Nghwm Tawe Uchaf. Yma, yn y Canolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol, gall aelodau’r cyhoedd gael blas ar fyd tanddaearol y Parc Cenedlaethol yn ddiogel. Dyma atyniad poblogaidd iawn ac mae ganddo hefyd gaffi, Parc Dinosoriaid, Fferm o’r Oes Haearn, Ceffylau Gwedd a mwy.
Ychydig filltiroedd ymhellach i’r dwyrain yn Gwlad y Rhaeadrau, gall ymwelwyr sefyll wrth fynedfa drawiadol Porth yr Ogof, lle caiff Afon Mellte gyfan ei llyncu gan y ddaear. Mae hon, y fynedfa ogof fwyaf yn y Parc Cenedlaethol, islaw maes parcio Cwm Porth, ond mae’r llwybr iddi’n serth, yn anwastad ac yn troelli. Ni ddylai ymwelwyr geisio mynd ymhellach nag union fynedfa’r ogof a dylid bod yn arbennig o ofalus yn ystod neu yn dilyn glaw trwm, gan fod mynedfa’r ogof yn gorlifo’n gyflym ac mae’r llwybr sy’n arwain at yr ogof yn arbennig o beryglus pan fydd yn wlyb.
Mae ymwelwyr sy’n digwydd dod â thortsh gyda nhw’n gallu mynd i mewn i ogof fechan o dan Castell Carreg Cennen – gellir llogi tortsh hefyd pan fyddwch yn talu’r pris mynediad i’r castell, yn y fferm islaw.
Ardal Ddwyreiniol y Parc
Mae rhai o’r systemau ogof hiraf (a mwyaf trofaus) i’w cael yn nwyrain y Parc Cenedlaethol o dan Fynydd Llangatwg. Mae modd mynd i mewn i systemau ogof mawr Agen Allwedd ac Ogof Daren Cilau drwy’r mynedfeydd yn sgarp mawreddog Llangatwg ar draws Dyffryn Wysg o Grughywel. Yn y pen draw, mae’r ddau’n draenio i Geunant Clydach. Mae eu hatgyfodiad cyfun yn bwll dwfn o’r enw Pwll y Cwm, ac mae hwn o ddiddordeb i’r ymwelydd cyffredinol yn ogystal â’r ogofäwr. Mae’r unig fynedfa i drydedd system fawr, Ogof Craig a Ffynnon, yn atgyfodiad y system yng Ngheunant Clydach. Mae mynedfeydd i nifer o ogofâu llai eraill yn y sgarp a’r ceunant.
Ogofâu yng Ngwlad y Rhaeadrau
Er eu bod yn llai helaeth na’u cefndryd i’r dwyrain ac i’r gorllewin, mae’r rhwydwaith ogofâu yn ardal Ystradfellte a Phenderyn yn ddiddorol iawn hefyd.
Cyfeiriwyd at Borth yr Ogof eisoes, ond mae Ogof Afon Nedd Fechan sy’n derbyn llif Nedd Fechan yn system bwysig arall. Mae golwg o’r atgyfodiad wrth ymyl Nedd Fechan, sy’n cael ei alw’n Bwll Du (SN 912121), i’w weld gan bobl heblaw am ogofäwyr trwy ddilyn y llwybr troed i fyny’r afon am tua milltir o’r maes parcio ym Mhont Melin-fach. Un llyncdwll rhyfeddol yw’r un ym Mhwll-y-felin gerllaw’r isffordd rhwng Penderyn ac Ystradfellte (SN 942121). Mewn tywydd gwyllt, mae’r nant yn cludo dŵr i’r crater mawr hwn yn gynt nag y mae’r ogof islaw’n gallu mynd â’r dŵr oddi yno, felly gall lenwi at yr ymyl.
Mae dyrnaid o ogofâu bychain o gwmpas Craig Dinas ym Mhontneddfechan a rhai yn nyffryn Afon Hepste. Mae’r rhan hon o’r afon lle mae Pont Hepste yn ei chroesi (SN 945112) yn sych bron bob amser heblaw pan fydd y tywydd ar ei wlypaf, gan fod ei llif wedi cilio o dan ddaear i fyny’r afon yn Ogof Glan Hepste.
Ogofâu Cwm Tawe Uchaf
Mae dwy system ogof fawr ar y naill ochr a’r llall o’r dyffryn nid nepell o Barc Gwledig Craig-y-nos. Cyfeiriwyd uchod at Dan-yr-Ogof (SN 838160), y mae’r 15km ohono’n ei wneud yn un o ogofâu pwysicaf Prydain. Mae’r gyfres drawiadol sy’n fynedfa yn agored i’r cyhoedd, ond gall ogofäwyr profiadol archwilio darnau sylweddol o lwybrau a siambrau mawreddog wedi’u haddurno â stalactidau a stalagmidau’n ddwfn islaw’r Mynydd Du.
Ym 1912, penderfynodd dau ddyn lleol, Tommy a Jeff Morgan, archwilio mynedfa’r ogof lle daw Afon Llynfell allan wrth droed wyneb y graig. Daeth eu harchwiliadau cychwynnol o’r ogof i ben pan gyrhaeddont lyn mawr dan ddaear. Aethant yn ôl i barhau â’u harchwilio, gan groesi’r llyn cyntaf a thri llyn arall gan ddefnyddio cwrwgl a oedd yn ddigon bach ac ysgafn at eu dibenion. Ni wnaed unrhyw archwiliadau pellach o’r system gymhleth hon tan 1963 pan lwyddodd Eileen Davies, aelod lleol o Glwb Ogofeydd Deheudir Cymru, gropian drwy lwybr tynn a fu’n drech nag archwilwyr blaenorol.
Mae ymwelwyr â’r ogof arddangos yn mynd i mewn iddi drwy dwnnel wedi’i gloddio, sy’n caniatáu am weld nifer o’r ardaloedd a ddarganfuwyd yn wreiddiol gan y brodyr Morgan, gan gynnwys Ogof fawr yr Eglwys Gadeiriol, sy’n 10m uchel mewn un man.
Gall cerddwyr ar y mynydd uwchlaw Dan yr Ogof ddilyn hynt Afon Giedd uwch i fan lle mae’r afon yn suddo i’w gwely yn (SN 811 180). Sinc y Giedd yw’r prif suddfan ar gyfer system ogofâu Dan yr Ogof. Llyncdwll trawiadol arall sydd hefyd yn bwydo dŵr i’r system hon yw’r llyncdwll yn Waun Fignen Felen (SN 826177).
Y system bwysig arall yw Ogof Ffynnon Ddu, sef ogof ddyfnaf Prydain, sy’n 308m dwfn. Mae nant Byfre Fechan yn suddo ym Mhwll Byfre (SN 875166) ac yn ymddangos yn Ffynnon Ddu ei hun yn SN 846152. Yn ogystal, yr ogof hon yw’r drydedd hiraf ym Mhrydain ac mae ganddi tua 50km o lwybr. Bydd cerddwyr sy’n dilyn Ffordd y Bannau ar draws gwarchodfa natur genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu fwy neu lai yn olrhain llwybr yr ogof yn ddwfn oddi tanynt. Mae nifer o ogofau bach a llyncdyllau i’w gweld yn yr ardal hon.
Pen gorllewinol y Mynydd Du
Daw Afon Llwchwr allan yn ddramatig o’r calchfaen yn Llygad Llwchwr, atgyfodiad mawr yn SN 669 178, sydd i’w weld o lwybr troed cyhoeddus sy’n mynd heibio gerllaw, ac sy’n darparu dŵr i gwmni dŵr potel Brecon Carreg. Yr ogof wlyb iawn hon oedd un o’r cyntaf i gael ei harchwilio’n systematig pan aeth Thomas Jenkins o Landeilo ag ysgol raff a chwrwgl plygadwy i’r ogof nôl yn y 1840au.
Mae dyrnaid o ogofâu bach eraill yn y gorllewin, y mwyaf ohonynt yn ardal Chwarel Herbert ac yn cynnwys Ogof Foel Fawr ac Ogof Pasg. Yr ogof sydd o’r diddordeb mwyaf i’r ymwelydd cyffredin yw’r ogof y gellir mynd ati yng Nghastell Carreg Cennen, sydd ei hun yn sefyll ar frig clegyr calchfaen godidog. Mae’n bosibl y bu’r ogof naturiol hon yn gyflenwad dŵr i feddianwyr y castell gynt. Gall tortshis gael eu llogi o’r fferm pan fyddwch yn talu tâl mynediad Cadw i’r castell.
Clybiau Ogofa
Mae’n bosibl bod cynnwys rhai clybiau yn y rhestr isod o ardaloedd pellach i ffwrdd yn ymddangos yn rhyfedd, ond mae ganddynt lety gerllaw ac maent yn weithgar iawn yn (neu o dan!) y Parc Cenedlaethol:
Grŵp Plymio Ogofâu: Adran Cymru
Croydon Caving Club
Mae gan The Westminster Speleological Group ganolfan ogofa ym Mhenderyn ac maent yn cynnig mynediad i ddechreuwyr i ogofâu’r ardal.
Cwmnïau antur awyr agored ac ati
Mae amryw gwmnïau’n cynnig antur danddaearol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Antur Cymru
Longtown Outdoor Education Centre
Association of Caving Instructors – mae’r wefan hon yn rhoi cyngor ar dalu arbenigwyr.
Safleoedd eraill
• South Wales Caves – dyma safle newydd ragorol, sydd â mapiau rhyngweithiol yn sylfaen iddi, sy’n cynnig delweddau o lawer o systemau ogof y ‘brig gogleddol’ – sef y band o galchfaen sy’n mynd drwy ein hardal.
• www.cavinguk.co.uk/ - dyma dudalen bersonol gyda phob math o nodweddion a dolenni diddorol gan gynnwys Ogofâu yn ardal y Fenni
Mae gwefan y British Cave Research Association ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn astudio ogofâu a’u datblygiad.
