Y Llwybr Powdwr
Mae’r llwybr llafar hwn, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn disgrifio bywydau’r bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Powdwr Gwn ym Mhontneddfechan. Cewch glywed sut yr oedd yn rhaid i’r gweithwyr wisgo er mwyn lleihau'r perygl o ffrwydriadau, beth a ddigwyddai pan roedd ffrwydriad yn y wasg beledi a rôl bwysig ceffylau o ran cludo deunyddiau ar hyd y dramffordd.
Gallwch ddewis gwrando ar y darnau sain canlynol yn awr, eu lawrlwytho’n unigol ar eich cyfrifiadur neu lawrlwytho’r llwybr llafar cyflawn (9.22 MB) ar eich cyfrifiadur fel ffeiliau sip, eu dadsipio gan ddefnyddio’r feddalwedd briodol, a chopïo’r ffeiliau mp3 i’ch chwaraewr mp3, iPod neu ffôn symudol.
- Rhagofalon yn y felin - trac 1 Gwrando | Lawrlwytho
- Rheolau, rheolau, rheolau - trac 2 Gwrando | Lawrlwytho
- Ffrwydriad yn y wasg beledi - trac 3 Gwrando | Lawrlwytho
- Hanes y ceffylau - trac 4 Gwrando | Lawrlwytho
- Rysáit y powdwr gwn - trac 5 Gwrando | Lawrlwytho
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth! Rhowch wybod beth yw eich barn chi am y llwybrau llafar hyn gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar-lein. Diolch!
Gwnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y wybodaeth a gynhwysir yn y llwybr llafar hwn yn gywir ond ni all warantu hynny. Awgrym yn unig yw’r llwybr a ddisgrifir ac nid yw’n gyfystyr â chyngor nac argymhelliad. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoi unrhyw warant, boed yn benodol neu’n awgrymiadol, o safbwynt addasrwydd neu ddiogelwch y llwybr a ddisgrifir neu’r ffaith ei fod ar gael. Yr unigolyn sy’n derbyn unrhyw risg bosibl sydd ynghlwm wrth ddilyn y llwybr. Ceidw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yr hawl i addasu cynnwys y llwybr unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw.
