Sgydiau, Ffosiliau, Fforestydd a Chnuoedd

Mae Cyngor Cymuned Tawe Uchaf a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cynhyrchu llwybr llafar i helpu ymwelwyr fwynhau Llwybr Sgydiau Nant Llech.

Mae Sgwd Henrhyd yn goron ar frig y dyffryn rhyfeddol hwn, sydd dan berchenogaeth a rheolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cewch grwydro Llwybr y Sgydiau oddi yma hyd at y man lle mae Nant Llech yn ymuno ag afon Tawe yn Aber-craf. Mae cerdded y llwybr i Aber-craf yn cymryd rhyw awr bob ffordd. Gall y llwybr fod yn anwastad, yn wlyb ac yn llithrig, gyda rhai dringfeydd serth. Mae seddi ar hyd y llwybr yn fannau da i orffwys a mwynhau’r dyffryn. CYMERWCH OFAL a chadwch at y llwybrau a reolir bob amser. Mae'r safle hon wedi ei dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) felly cymerwch ofal i beidio â difrodi na tharfu ar y bywyd gwyllt yn y dyffryn hardd hwn. 

Ar hyd llwybr y rhaeadrau, mae pedwar man gwrando clywedol. Gallwch hefyd eu lawrlwytho neu wrando arnynt isod, felly beth am fwynhau rhith ymweliad â Llwybr Sgydiau Nant Llech:

Rhan un               Gwylio        Lawrlwytho

Rhan dau             Gwylio        Lawrlwytho

Rhan tri               Gwylio        Lawrlwytho

Rhan pedwar        Gwylio        Lawrlwytho

Cliciwch yma i weld map o'r llwybr llafar. Gallwch hefyd ddarllen sgript o’r llwybr llafar drwy clicio yma.

Bu disgyblion o ysgolion cynradd Aber-craf, Penycae, Caehopkin a Choelbren yn cydweithio i wneud y ffilm fer hon am y llwybr.

Cliciwch yma i weld y ffilm.

CADWCH YN DDIOGEL

Henrhyd yw un o’r sgydiau hawsaf eu cyrraedd yn yr ardal. Mae ymwelwyr yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain. Cadwch at y llwybrau sydd wedi eu rheoli a CHYMERWCH OFAL. Mae’r tir o amgylch y sgydiau yn serth a gall fod yn llithrig.

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 – 2013 sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.