'O Ddu i Wyrdd' yn Waun Fignen Felen
Mae’r podlediad 20 munud hwn yn ymwneud â’r gwaith cadwraeth ac aildyfiant a wneir i’r gors ucheldirol bellennig hon uwchlaw system ogofâu Dan yr Ogof, i’r de o brif gefnen Bannau Caerfyrddin (SN823178).
Ac yntau’n cynnwys cyfweliadau â staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chynrychiolwyr o Glwb Ogofa De Cymru a Chanolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru, mae’r podlediad hefyd yn archwilio’r berthynas â’r system ogofâu ryfeddol hon islaw’r ddaear.
Sgript podlediad Waun Fignen Felen
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth!
Rhowch wybod beth yw eich barn chi am y podlediad hwn gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar-lein. Diolch!
