Mae’r llwybr llafar hwn yn datgelu’r dreftadaeth ddaearegol a diwydiannol a geir rhwng Pontneddfechan a Sgwd Gwladus ac mae’n cynnwys cyfweliadau â nifer o arbenigwyr sydd wedi gweithio yn yr ardal hon a’i hastudio ers blynyddoedd lawer.
Gallwch ddewis gwrando ar y darnau sain canlynol yn awr, eu lawrlwytho’n unigol ar eich cyfrifiadur neu lawrlwytho’r llwybr llafar cyflawn (8.84 MB) ar eich cyfrifiadur fel ffeiliau sip, eu dadsipio gan ddefnyddio’r feddalwedd briodol, a chopïo’r ffeiliau mp3 i’ch chwaraewr mp3, iPod neu ffôn symudol.
Map a Chyfarwyddiadau Lawrlwytho
Os ydych yn berchen ar iPod neu Chwaraewr Cyfryngau Personol arall sydd â sgrin lliw beth am lawrlwytho’r podsgrôl sy’n cyd-fynd â'r daith. Mae’n cynnwys y cyfarwyddiadau, y map a’r helfa drysor ar gyfer y llwybr rhwng Pontneddfechan a Sgwd Gwladus. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio podsgrôl ewch i www.podscroll.co.uk
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth! Rhowch wybod beth yw eich barn chi am y llwybrau llafar hyn gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar-lein. Diolch!
Cynhyrchwyd y llwybrau llafar ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan www.audiotrails.co.uk. Gwnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y wybodaeth a gynhwysir yn y llwybr llafar hwn yn gywir ond ni all warantu hynny. Awgrym yn unig yw’r llwybr a ddisgrifir ac nid yw’n gyfystyr â chyngor nac argymhelliad. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoi unrhyw warant, boed yn benodol neu’n awgrymiadol, o safbwynt addasrwydd neu ddiogelwch y llwybr a ddisgrifir neu’r ffaith ei fod ar gael. Yr unigolyn sy’n derbyn unrhyw risg bosibl sydd ynghlwm wrth ddilyn y llwybr. Ceidw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yr hawl i addasu cynnwys y llwybr unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
