Gwylio adar a bywyd gwyllt

Mae’r Parc Cenedlaethol yn hafan i bob math o fywyd gwyllt, felly, cadwch lygaid allan amdanynt!

Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt Mynnwch gopi o’n llyfryn newydd Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt – 12 o deithiau cerdded byr yng ngwarchodfeydd natur mwyaf diddorol y Parc Cenedlaethol. Mae’r llyfryn ar gael am £3.99 o ganolfannau croeso yn y Parc Cenedlaethol neu am £4.49 drwy’r post. Gallwch gael ffurflen archebu drwy neges e-bost.

Mae pob math o anifeiliaid i’w gweld yma, diolch i amrywiaeth y cynefinoedd – os ydych chi’n gwybod ble i edrych, pwy ŵyr beth welwch chi!

Yng ngorllewin y Parc, ni fydd yn rhaid i chi wneud gormod o ymdrech i weld barcutiaid, gyda’u cynffonnau fforchog cyfarwydd, yn olwyno uwch eich pen. Ond i gael golwg agos arnynt, sy’n wirioneddol gofiadwy, gallwch ymweld â’r orsaf fwydo yn Llanddeusant.

Yn ogystal, mae ucheldiroedd y Parc Cenedlaethol yn fannau da i geisio cael gweld rhai o’r adar mwy prin sy’n byw yma - er nad oes sicrwydd o hynny, gwaetha’r modd! Cadwch lygad allan am rugieir coch yn y grug ar hyd Clawdd Offa, cwtiaid aur a gylfinirod yn y glaswelltiroedd a’r gwlyptiroedd a mwyalchod y mynydd a hebogau tramor ger clogwyni a chlegyrau. Ymhlith y rhywogaethau mwy cyffredin sy’n gallu llenwi’r aer â chân ar ddiwrnod o haf y mae’r ehedydd a’r corhedydd, yn ogystal â mewian y bwncath (sy’n rhoi i’r aderyn hwn ei enw Cymraeg).

Mae’r iseldiroedd hefyd yn fannau gwych i wylio adar. Mae ein tir fferm a’n coetiroedd, ein perllannau a’n dolydd, ein nentydd a’n camlas yn gartref i amrywiaeth fawr o rywogaethau. Cadwch lygad allan am fflachiad coch o goch y berllan gerllaw perllannau, gwybedogion mannog a gwybedogion brith mewn coetiroedd, breision melyn yn canu ar y gangen a thylluanod gwyn yn y cyfnos. Wrth i chi grwydro ar hyd nentydd, afonydd a’r gamlas, tybed a welwch chi fflachiad o lesni glas y dorlan, trochwyr gyda’u bronnau gwyn a threfedigaethau o wenoliaid y glennydd ar glogwyni tywodlyd afonydd.

Mae ymweliad yn ystod y gaeaf yn werth chweil hefyd – mae llawer o’n cronfeydd dŵr yn cynnig llochesi pwysig i adar gwyllt a rhydwyr sy’n gaeafu. Cadwch lygad allan am hwyaid llostfain, chwiwellod, corhwyaid, hwyaid llygad-aur a chornchwilod. Gallech hyd yn oed weld ambell alarch y Gogledd, yn enwedig yn Llyn Syfaddan, lle gallwch hefyd weld sioeau acrobatig gwych miloedd o ddrudwennod wrth iddynt baratoi i glwydo bob nos.

Er hyn oll, cadwch lygad allan am fywyd gwyllt arall pan fyddwch chi’n teithio o le i le. Ar noson o haf ger nant dawel, gallech fod yn ddigon ffodus i glywed daeargwn yn chwibanu at ei gilydd, a gallwch wylio eogiaid yn neidio i fyny’r afon yn Afon Wysg wrth iddynt deithio drwy Aberhonddu ym mis Tachwedd. Yn ogystal, cadwch olwg am ystlumod yn hela pryfed ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu, neu fadfallod yn torheulo ymhlith rhosydd a glaswelltiroedd. Peidiwch ag anghofio’r fflora ychwaith – o dawch porffor y grug a charpedi o flodau’r gwanwyn i blanhigion pryfysol rhyfeddol fel chwys yr haul a thafod y gors.

Ewch i’r dudalen Mannau Gwyllt i gael mwy o wybodaeth am safleoedd y gallwch ymweld â nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am fywyd gwyllt yn yr ardal hon, ewch i:

  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog – gwybodaeth am warchodfeydd natur ac ymgyrchoedd cadwraeth
  • Bioamrywiaeth Bannau Brycheiniog – mynnwch wybod rhagor am fioamrywiaeth leol, beth mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a phartneriaid yn ei wneud i amddiffyn a rheoli bioamrywiaeth leol, a’r newyddion diweddaraf am brosiectau ac arolygon
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru – y corff cadwraeth cenedlaethol statudol
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent – gwybodaeth am warchodfeydd natur ac ymgyrchoedd cadwraeth
  • Grŵp Adar Morgannwg a Chymdeithas Adaregol Gwent – gwybodaeth am yr adar a welwyd yn fwyaf diweddar a ffotograffau prydferth.
  • RSPB – y cyfan y mae angen i chi ei wybod am gadwraeth adar
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De Orllewin Cymru - gwybodaeth am warchodfeydd natur ac ymgyrchoedd cadwraeth
  • Coed Cadw – coetiroedd lleol, rheolaeth a chadwraeth
Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.