Actifadu darn arian ‘Geocoin’ Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Defnyddiwch y cod adnabod olrhain unigryw sydd wedi’i daro ar y darn arian ac ewch i wefan ukgeocachers. Sgroliwch i lawr i waelod y dudalen i ‘Activate your coin here’ a dewiswch 'Brecon Beacon geocoin' o’r gwymplen. Cofnodwch gyfeiriad e-bost dilys a chod adnabod y darn arian, a chlicio ar ‘submit’.

Bydd cod actifadu unigryw yna’n cael ei anfon yn awtomatig i’r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych – dyma fesur diogelwch i geisio atal pobl rhag dyfalu codau olrhain ar hap.

Ewch i’r adran about a chofrestru am gyfrif am ddim.

Pan fydd hwn wedi’i sefydlu, gallwch fewngofnodi a mynd i track a chwilio am ‘Activate Trackable Item’. Cofnodwch god adnabod olrhain unigryw’r darn arian yna clicio ar ‘Activate’.

Bydd tudalen we newydd yn cael ei harddangos. Cofnodwch y cod actifadu a gawsoch drwy neges e-bost a chlicio ar ‘Activate my Trackable Item’.

Bydd trydydd cod yn cael ei roi i’r darn arian, o’r enw ‘Trackable Item number’. Yma, gallwch roi enw i’r darn arian, ei fwriad a disgrifiad ohono. Cliciwch ar ‘Edit Trackable Item’s Details’ i gadw’r wybodaeth hon.

Nesaf, dewiswch ‘Location Activated’ gan ddefnyddio’r gwymplen i ddewis gwlad, ac ail gwymplen i ddewis rhanbarth, yna cliciwch ar ‘Complete Activation’ a chlicio ar y ddolen a ddarperir er mwyn adolygu tudalen we bwrpasol y darn arian.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.