Geocelcio

Yr helfa drysor fyd-eang i’r teulu cyfan.

Ydych chi erioed wedi cael trafferth yn dwyn perswâd ar eich teulu i fynd am dro yng nghefn gwlad?  Os felly, mae’n bosibl y bydd ‘Geocelcio’ yn ddelfrydol i chi!

Ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae tua 160 celc neu flwch trysor ynghudd – yn amrywio mewn maint o flychau ffilm bach i flychau plastig llawer mwy o faint a hen flychau bwledi – y cyfan yn aros i’w darganfod.

Mae geocelcio’n gallu bod yn debyg i gael eich tywysydd eich hun – yn eich arwain i fannau gwych ac esbonio beth sydd mor dda am leoliad, er enghraifft, safle lle tarodd awyren fomio o’r Ail Ryfel Byd â mynydd, stori drasig Tommy Jones, neu olygfa arbennig.

Y cyfan y mae ei angen arnoch yw uned GPS rydych chi’n ei dal â llaw, ynghyd â gwybodaeth o wefan geocaching i chi ddechrau ar eich helfa. Pan fyddwch wedi darganfod celc, gallwch rannu eich profiadau ar y we gyda phobl eraill sydd hefyd wedi cael eu bachu gan y gamp gyfffrous hon.

Serch hynny, peidiwch â meddwl bod rhaid i chi fuddsoddi mewn uned GPS cyn rhoi cynnig arni – gyda phrofiad o ddefnyddio map a chwmpawd, ynghyd â’r cliwiau ar wefan geocaching am leoliad y celc, mae’n ddigon posibl y gallwch ddod o hyd i rai o’r celciau haws!

Beth yw uned GPS sy’n cael ei dal â llaw?
Mae GPS (System Leoli Fyd-eang) sy’n cael ei dal â llaw, yn ddyfais electronig sy’n edrych yn debyg i ffôn symudol. Mae’n defnyddio lloerennau i gyfrif brasamcan o’ch lleoliad, ac fel arfer, bydd yn gywir o fewn rhyw 6-20 troedfedd.

Ar gyfer geocelcio, y cyfan y mae angen i chi ei wybod yw sut i gael mynediad i "bwynt ffordd" (waypoint) (cyfeirnod grid ar fap o’r DU) at guddfan y trysor (gweler isod). Bydd yr uned GPS yna’n eich arwain chi yno, a dyma pryd bydd yr helfa go iawn yn dechrau, oherwydd bydd angen i chi ddefnyddio’ch llygaid a’ch blaengaredd i ddod o hyd i’r celc cudd.

Beth yw darnau arian ‘Geocoins’?
Gall darnau arian arbennig, gyda’u codau adnabod unigryw ar gyfer actifadu ac olrhain, gael eu hanfon ar deithiau olrheiniadwy drwy gyfrwng y rhyngrwyd, o geocelc i geocelc, neu gael eu trosglwyddo ymhlith ffrindiau, gan gasglu straeon ar hyd y daith. Mae modd dilyn eu teithiau ar y we, drwy gofnodion sydd wedi cael eu rhoi ar wefan ‘geocaching’ gan y sawl sy’n eu darganfod. Gallwch lwytho ffotograffau i fyny hefyd, yn ogystal â sylwadau ynghylch y darnau arian. Beth am ddechrau eich casgliad unigryw eich hun gyda ‘Geocoin’ hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?

Beth nesaf?
Mewngofnodwch a mynnwch gipolwg ar wefan geocaching i ddod o hyd i geocelciau ger eich cartref neu mewn ardal fel Bannau Brycheiniog, ardal rydych chi’n ystyried ymweld â hi yn y dyfodol.

Gwnewch gofnod o’r cyfesurynnau GPS (yn y Deyrnas Unedig, y peth hawsaf ei ddefnyddio yw’r cyfeirnod grid Prydeinig sy’n cael ei roi – mae hwn hefyd yn perthyn i fapiau OS) ac unrhyw gyfarwyddiadau penodol a fydd yn eich helpu i ddarganfod y geocelc.

Cofnodwch y cyfeirnod grid yn yr uned GPS gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau Sut i gofnodi.

Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i leoliad y geocelc, rhowch y darn arian yn y celc a llofnodwch y llyfr log. Pan fyddwch chi’n cyrraedd adref, cofnodwch eich ymweliad ar wefan geocaching a mwynhewch ddilyn trywydd anturiaethau’r darn arian!

Moesau Geocelcio:
Nid oes llawer iawn o reolau ac maen nhw’n syml iawn:

  1. Gwnewch yn siwr nad oes neb arall yn eich gweld pan fyddwch chi’n dod o hyd i’r celc.
  2. Os ydych chi’n mynd â rhywbeth o’r celc, gadewch eitem o werth tebyg yn ei le (mae’n rhaid i eitemau fod yn ddiogel ac yn addas i blant).
  3. Llofnodwch y llyfr log. 
  4. Mwynhewch eich hun! 
  5. Cofnodwch eich darganfyddiad ar wefan geocaching pan fyddwch chi’n cyrraedd adref. 
  6. Os ydych chi’n penderfynu sefydlu’ch geocelc eich hun, bydd angen caniatâd perchennog y tir arnoch. Yn y Parc Cenedlaethol, gallai hyn fod yn un o nifer o fudiadau neu berchenogion preifat – os nad ydych chi’n siwr pwy sy’n berchen ar y tir, rhowch alwad i ni: 01874 624437 neu anfonwch neges e-bost atom.   
  7. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.
Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.