Gleidio
Mae caeau a phen bryniau glaswelltog yn gwasanaethu’n safleoedd codi a glanio yn y Parc Cenedlaethol i bobl sy’n paragleidio, barcuta a hwylblanio (gleidwyr). Mae cyfleoedd gwych ar gael i roi cynnig ar y campau hyn, drwy ysgolion cydnabyddedig sy’n cynnig hyfforddiant cymwys a mannau gwylio i’r bobl hynny y mae’n well ganddynt wylio’r campau o ddiogelwch y tir!
Gall pobl sydd eisoes â thrwyddedau hedfan ymuno â’r clybiau lleol (gweler isod). Dim ond safleoedd hedfan cydnabyddedig ddylai gael eu defnyddio. Dylai peilotiaid sy’n ymweld â’r ardal gysylltu â chlybiau lleol i gael gwybod lle mae caniatâd iddynt hedfan.
Paragleidio a Barcuta
Mae’r Parc a’i ardaloedd cyfagos yn cynnig rhai o’r safleoedd gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer paragleidio a barcuta. Mae sgarpiau mynyddoedd y Parc sy’n wynebu tua’r gogledd ac sy’n edrych dros dirwedd donnog canolbarth Cymru, yn ogystal â bryniau eraill sydd â lleoliadau strategol, yn cynnig rhai safleoedd codi sydd bron yn berffaith. Gall peilotiaid hedfan ar hyd cefnenau bryniau neu rannu thermol gyda bwncath sy’n cylchu fyny fry. Gall barcutwyr a pharagleidwyr hefyd gwblhau teithiau hedfan traws gwlad dros bellter o fwy na 300 milltir a gallant hedfan ar uchder o hyd at 4 milltir!
Mae tua 400 aelod gan Clwb Barcuta a Pharagleidio De-Ddwyrain Cymru ac mae’n rheoli’r hedfan mewn nifer o safleoedd yn y Parc. Mae croeso bob amser i ymwelwyr â’u safleoedd agored, ar yr amod eu bod yn diolch am y croeso trwy gadw at reolau’r safle. Mae llawer o safleoedd hedfan yn destun cytundebau â phorwyr tir, tir berchenogion a ffermwyr, a bydd rheolau’n cael eu sefydlu’n aml i gydymffurfio â’u gofynion. Helpwch y clwb i ddal gafael ar ei safleoedd trwy ymddwyn yn gyfrifol.
Mae’n rhaid i holl beilotiaid y DU fod yn aelodau o Cymdeithas Barcuta a Pharagleidio Prydain (BHPA). Rhaid i ymwelwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig allu dangos bod yswiriant trydydd parti digonol ganddynt, a gradd briodol gan yr FAI ar gyfer peilot.
Gleidio
Mae Clwb Gleidio’r Mynydd Du yn gweithredu o fferm nid nepell o Dalgarth. Yn nythu islaw sgarpiau gogleddol y Mynydd Du, ymhlith caeau cyffredin o ddefaid, mae rhedfa welltog gyda hosan wynt. Efallai mai maint y cae, y llethr, y coed neu agosrwydd y mynyddoedd eu hunain sydd, yn ôl y sôn, yn gwneud y maes glanio hwn yn un i’r peilot mwy profiadol!
Mae’r clwb gleidio lleol yn gyfeillgar ac yn arbenigol a bydd yn eich croesawu chi yma p’un a’ch bod chi’n ddibrofiad ac yn chwilio am daith hedfan dandem, arbrofol, neu’n beilot profiadol sy’n gobeithio mwynhau’r amodau rhagorol y mae gan yr ardal i’w cynnig. I gael mwy o wybodaeth am gleidio, gweler Cymdeithas Gleidio Prydain
