Teithiau cerdded dibryder gyda’ch ci

Teithiau cerdded dibryder gyda’ch ci

Mae cefn gwlad yn lle gwych i gŵn gael ymarfer corff, ond dyletswydd pob perchennog yw gwneud yn siwr nad yw ei gi yn berygl nac yn niwsans i anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt na phobl eraill.

  • Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gadw rheolaeth ar eich ci fel nad yw’n tarfu ar anifeiliaid fferm neu fywyd gwyllt, nac yn codi ofn arnynt.  Mae’n rhaid i chi gadw’ch ci ar dennyn byr yn y rhan fwyaf o ardaloedd o gefn gwlad  agored a thir comin rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, a ger anifeiliaid fferm drwy’r amser.
  • Nid oes rhaid i chi roi eich ci ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus cyhyd ag y bo’r ci o dan reolaeth agos. Ond, fel rheol gyffredinol, cadwch eich ci ar dennyn os na allwch ddibynnu ar ei ufudd-dod. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr hawl i ddinistrio ci sy’n anafu neu’n poeni eu hanifeiliaid.
  • Symudwch yn ofalus ac yn dawel yng nghyffiniau gwartheg.
  • Byddwch yn arbennig o wyliadwrus o sefyllfaoedd lle gallech fod yn ‘heidio’ gwartheg yn anfwriadol i le cyfyng, a bod eu hunig ddihangfa yn ôl heibio i chi.
  • Peidiwch fyth â symud rhwng buwch a’i llo.
  • Gadewch bob clwyd fel y’i cawsoch.
  • Os yw anifail ffarm yn eich cwrso chi a’ch ci, mae’n fwy diogel rhyddhau’r ci o’i dennyn – peidiwch â chymryd y risg o anafu’ch hun trwy geisio amddiffyn y ci.
  • Byddwch yn ofalus iawn nad yw eich ci yn codi ofn ar ddefaid ac ŵyn nac yn crwydro i fannau lle gallai darfu ar adar sy’n nythu ar y tir ac ar fywyd gwyllt arall – bydd wyau ac ifainc yn marw’n fuan heb amddiffyniad gan eu rhieni.
  • Mae pawb yn gwybod pa mor annymunol yw baw cŵn a’i fod yn gallu achosi heintiau, felly, dylech lanhau ar ôl eich ci bob amser a chael gwared ar y baw yn gyfrifol. Hefyd, gwnewch yn siwr bod eich ci’n cael ei ddilyngyru’n rheolaidd er mwyn amddiffyn y ci, anifeiliaid eraill a phobl.
  • Ar adegau penodol, mae’n bosibl na chaniateir cŵn ar rai ardaloedd o dir agored neu, mae’n bosibl y bydd angen eu cadw ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am y rheolau hyn gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu drwy ffonio Gwasanaeth Ymholiadau’r Cyngor Cefn Gwlad ar 0845 130 6229.

Milfeddygon lleol

Cyn eich bod chi’n ymweld â’r ardal gyda’ch ci, mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol cael gwybod lle mae’r milfeddygon yn ardal y Parc Cenedlaethol.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.