Ffordd y Bannau

Beth am ddarganfod y Parc Cenedlaethol gan ddefnyddio Ffordd y Bannau?

Mae llwybr cerdded Ffordd y Bannau yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau y mae gan y Parc Cenedlaethol i’w cynnig.   Os ydych yn dymuno cwblhau’r daith 152km (95 milltir) gyfan, gwneith hyn gymryd wyth diwrnod i chi. Fel arall, gallwch ddilyn y daith, ddiwrnod ar y tro, pan fo’n gyfleus i chi. Mae rhai diwrnodau’n fwy heriol na’i gilydd, felly gallwch ddewis pa bynnag daith sydd orau i chi ac efallai gosod her i chi’ch hun i adeiladu at y diwrnodau caletach.

Mae llyfryn ar gael o’r enw The Beacons Way: The Holy Mountain to Bethlehem gan John Sansom ac Arwel Michael, sydd â mapiau, cyfarwyddiadau a phwyntiau o ddiddordeb hanesyddol. Mae hwn ar gael yng nghanolfannau croeso a chanolfannau ymwelwyr y Parc Cenedlaethol neu drwy’r post – gweler y manylion isod.

Fel arall, gallwch ddefnyddio mapiau ‘OS Explorer’ OL12 ac OL13 i ddilyn y llwybr.

Os ydych wedi cerdded rhan o Ffordd y Bannau, neu’r cyfan ohoni, hoffem glywed am eich profiadau a byddem yn gwerthfawrogi eich adborth.

Y Llwybr

Diwrnod 1: Y Mynydd Sanctaidd i Landdewi Nant Hodni heibio i Ysgyryd Fawr (486 metr), Llanfihangel Crucornau a Bryn Hatterrall (531m). Cyfanswm: 17km (10.6milltir) gydag esgyniad o 697m.

Diwrnod 2: Llanddewi Nant Hodni i Grughywel heibio i Fal-Bach (520m), Patrisio, Crug Mawr (550m) a Mynydd y Penrhyn.  Cyfanswm: 19.3km (12 milltir) gydag esgyniad o 934m.

Diwrnod 3: Crughywel i Langynidr heibio i Gwm Mawr, Cwmdu, Cefn Moel a Bwlch. Cyfanswm: 19.5km (12.2 milltir) gydag esgyniad o 680m.

Diwrnod 4: Llangynidr i Storey Arms heibio i Fryn Melyn, Craig y Fan Ddu, Fan y Big (719m), Pen y Fan (886m) a Chorn Du (873m). Cyfanswm: 22.7km (14.2 milltir) gydag esgyniad o 1020m.

Diwrnod 5: Storey Arms i Graig-y-nos heibio i Fan Dringarth (617m), Fan Llia (632m), Sarn Helen a Phenwyllt. Cyfanswm: 23.7km (14.75 milltir) gydag esgyniad o 555m.

Diwrnod 6: Craig-y-nos i Landdeusant heibio i Dafarn y Garreg, Llyn y Fan Fawr, Fan Brycheiniog (802m) a Phicws Du (749m). Cyfanswm: 16.8km (10.5 milltir) gydag esgyniad o 780m.

Diwrnod 7: Llanddeusant i Gastell Carreg Cennen heibio i Garreg Yr Ogof (585m), Carreg Las (635m), Foel Fraith (602m) a Charn Pen Rhiw-ddu. Cyfanswm: 21.8km (13.6 milltir) gydag esgyniad o 790m.

Diwrnod 8: Castell Carreg Cennen i Fethlehem heibio i Gilmaenllwyd, Carreglwyd, Carn Goch. Cyfanswm: 10.9km (6.8 milltir) gydag esgyniad o 240m.

Mae copïau o’r cyhoeddiad ar gael drwy’r post am £12.00 ynghyd â phost a phecynnu.

Mae copïau ar gael hefyd o Ganolfannau Croeso a siopau llyfrau da.

Taith Gerdded Dywysedig 8 Diwrnod Ffordd y Bannau 2012

Bydd Rob Knowles o Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog yn arwain taith dywysedig wyth diwrnod arall o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd Ffordd gyfan y Bannau, o ddydd Sadwrn 21 i ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf 2012. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â Rob yn uniongyrchol ar: 07971 190768 neu anfonwch neges e-bost ato.

Mae’r daith gerdded yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog sy’n sefydliad annibynnol nad yw’n rhan o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, felly gwnewch yn siwr eich bod yn fodlon â’i weithdrefnau iechyd a diogelwch cyn archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.

I gael mwy o wybodaeth am Ffordd y Bannau, gan gynnwys mapiau amlinellol o’r amrywiol gamau, y llety a’r opsiynau cludiant, manylion am deithiau tywysedig ar hyd y llwybr a chyfres o ffotograffau, ewch i: Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog.

Gwnaed ymchwil i’r llwybr hwn, ac fe’i datblygwyd a’i lluniwyd gan y diweddar John Sansom ar gyfer Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, ar y cyd ag Arwel Michael a Chris Barber. Ers hynny, mae wedi cael ei fabwysiadu’n Llwybr Swyddogol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gellir ei gerdded yn annibynnol neu’n rhan o grŵp.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.