Cerdded
Os ydych chi’n mwynhau cerdded, byddwch wrth eich bodd â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cewch rodio drwy ddyffrynnoedd cysglyd, crwydro ar hyd llynnoedd a chronfeydd dŵr disglair neu gerdded ymhlith rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yn neheudir Prydain.
Cewch gerdded ar eich pen eich hun, gan fwynhau’r unigedd a’r ymdeimlad o antur, cewch dreulio amser gyda ffrindiau neu deulu a chewch wneud ffrindiau newydd trwy ymuno â grŵp wedi’i drefnu. Hefyd, mae gennym ddigon o lwybrau Mynediad Haws i bobl sydd â symudedd cyfyngedig, gan gynnwys teuluoedd â chadeiriau gwthio a defnyddwyr cadeiriau olwyn. A phan fyddwch chi’n cyrraedd nôl, peidiwch anghofio gwobrwyo’ch hun trwy gael peint a phryd bwyd yn y dafarn leol. Fe wnewch chi golli cymaint trwy ruthro adref!
Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.
Effaith Leiaf
Helpwch ni i ddiogelu ein hamgylchedd cerdded – gofalwch eich bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl pan fyddwch yn cerdded y Bryniau. Darllenwch y canllawiau Effaith Leiaf a gynhyrchwyd gan gylchgrawn TGO.
Trafnidiaeth
Pan fyddwch chi’n cynllunio taith gerdded, beth am ddefnyddio’r bws i fynd â chi nôl i’ch cerbyd? Gallwch gerdded dros lawer mwy o dir os nad oes rhaid i chi gerdded nôl i’r dechrau. Mae Bws y Bannau wedi’i gynllunio’n arbennig gyda cherddwyr mewn golwg, ond mae’r gwasanaethau lleol yn ddefnyddiol iawn hefyd. Mynnwch gopi o Ganllaw Teithio’r Parc Cenedlaethol am ddim o Ganolfannau Croeso neu drwy anfon eich enw a’ch cyfeiriad atom drwy neges e-bost. Os ydych chi’n defnyddio’ch car, gwnewch yn siwr nad ydych yn gadael unrhyw beth gwerthfawr ynddo os ydych chi’n ei barcio yng nghefn gwlad. Yn anffodus, mae dwyn o gerbydau’n broblem gyson.
Cadwch yn Ddiogel
Mae’n rhaid eich bod wedi paratoi’n briodol yn enwedig os yw’r daith gerdded yn mynd â chi i’r mynyddoedd. Byddwch yn ofalus, dywedwch wrth rywun ble’r ydych chi’n mynd a pheidiwch â bod ofn troi am adref os yw’r tywydd yn mynd yn wlyb neu’n niwlog.
- Cynlluniwch eich llwybr yn ofalus, gan fynd â map priodol i gerddwyr gyda chi
- Edrychwch ar rhagolygon y tywydd cyn i chi ddechrau
- Ewch â’r offer cywir gyda chi, gan gynnwys esgidiau da, dillad cynnes a dillad gwrth-ddŵr
- Ewch â digon o fwyd a diod gyda chi, yn ogystal ag eli haul
- Cofiwch nad yw’r signal ar gyfer ffonau symudol yn gyson ac nad oes modd dibynnu arno
- Ewch i un o Ganolfannau Croeso’r Parc Cenedlaethol i gael gwybodaeth fanwl
- Ewch ar cwrs hyfforddi i wella’ch sgiliau diogelwch a’ch sgiliau mordwyo
