Ble i gerdded

Ambell syniad ynghylch lle i gerdded yn y Parc Cenedlaethol a’r Geoparc

Safleoedd Damweiniau Awyrennau

Mae fersiwn estynedig newydd o’r llyfryn gwreiddiol, sy’n cynnwys manylion deg safle damwain ychwanegol, bellach wedi cael ei chynhyrchu mewn partneriaeth â Chymdeithas yr Awyrlu Brenhinol (RAFA), ac mae ar gael i’w brynu trwy ganolfannau croeso neu drwy'r post. Bydd yr arian sy’n cael ei godi ar gyfer RAFA trwy werthu’r llyfryn hwn yn mynd i Apêl Wings Brwydr Prydain. Mae’r apêl hon wedi bod yn codi arian ers diwedd yr Ail Ryfel Byd er mwyn cynnig help, cyfeillgarwch a chymorth i gyn-aelodau ac aelodau sy’n gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol ac Awyrluoedd y Gymanwlad, eu gŵyr a’u gwragedd, a dibynyddion y rhai y bu farw pan oeddent yn gwasanaethu.

Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt Beth am gael copi o lyfryn Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt sydd â 12 o warchodfeydd natur gwych i ymweld â nhw. Mae’r teithiau cerdded yn para llai na dwy awr, nifer ohonynt yn llai nag awr, felly os oes gennych blant bach neu os nad ydych yn awyddus i gerdded yn bell, dyma’r cyrchfannau i chi.

Mae Tramffordd Brinore yn cynnig llwybrau cerdded gwych yn nyffryn Talybont ac uwchlaw'r dyffryn, gan fwrw golwg ar orffennol diwydiannol yr ardal ar y daith.

Cylchoedd a Dolenni Taith Taf Dyma gyfres newydd o deithiau cerdded, llwybrau beicio a llwybrau marchogaeth i’r de o’r Parc Cenedlaethol, a grëwyd gan Groundwork ac sy’n gysylltiedig â Taith Taf. Ewch i wefan Cylchoedd a Dolenni i gael mwy o wybodaeth.

Hen Linell Fwynau Penderyn Llwybr byr, heb draffig, yn ne’r Parc Cenedlaethol a’r Geoparc.
 
Mae Mynediad i Gefn Gwlad yng Nghymru yn ganllaw i dir a llwybrau sydd ar gael fel arfer i’w cerdded yng Nghymru.

Mae Llwybrau Powys yn cynnig trosolwg o deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol ac ar draws Powys, gan gynnwys dau Lwybr Cenedlaethol, dwy daith gerdded bell ar hyd afonydd a nifer o deithiau cerdded byrrach, ond yr un mor brydferth, i’w harchwilio.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.

Pan fyddwch chi yn yr ardal, beth am alw heibio am sgwrs yn unrhyw un o Ganolfannau Gwybodaeth y Parciau Cenedlaethol, a fydd yn falch o roi cyngor i chi ar fannau cerdded gwych. Mae llawer o lyfrau arweiniad ar gerdded yn y Parc Cenedlaethol ar gael yn y Canolfannau – gallwch gael rhestr a ffurflen archebu yma.

Cau llwybrau troed dros dro:

Mae’r hawliau tramwy canlynol wedi cael eu cau dros dro tra bo Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cynnal gwaith cynaeafu:

  • Cyfeirnod Grid SO29170722 o’r Goose and Cuckoo ar hyd llwybrau troed 124, 125 ac 126 drwy Goed Craig yr Allt o 15 Gorffennaf 2010 am chwe mis
  • Cyfeirnod Grid SO262253 o Flaen y Cwm yn llwybr marchogaeth 15, llwybr troed 13 a llwybr troed 212 Grwyne Fawr o 6 Mai 2010 am chwe mis
  • Bu tirlithriad sylweddol ar yr hen arglawdd rheilffordd yn GR 865182 rhwng Penwyllt a Bwlch Bryn-rhudd lle mae’r rheilffordd yn cwrdd â’r A4067.
    Mae’r tirlithriad ar Dir Mynediad ond mae’r hawliau mynediad wedi cael eu diddymu tan i’r ardal gael ei sefydlogi er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Felly, nid oes modd cerdded o Benwyllt i Fwlch Bryn-rhudd ar yr hen reilffordd.
    Ni ddylech fynd yn agos at y tir lithriad ar unrhyw gyfrif – mae’n ansefydlog o hyd a gallai lithro ymhellach. Cyhoeddwyd 23 Medi 2010.

Cysylltwch â’r Adran Hawliau Tramwy os oes unrhyw ymholiadau gennych.

Teithiau Cerdded Eraill

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn rhedeg rhaglen wych sef Teithiau Cerdded Tywysedig.

Mae manylion y teithiau cerdded y mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog yn eu cynnig i’w cael yma.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.