Y Llwybr Powdwr

Mae’r llwybr llafar hwn, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn disgrifio bywydau’r bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Powdwr Gwn ym Mhontneddfechan. Cewch glywed sut yr oedd yn rhaid i’r gweithwyr wisgo er mwyn lleihau risg ffrwydriadau, beth a ddigwyddai pan roedd ffrwydriad yn y wasg beledi a rôl bwysig ceffylau o ran cludo deunyddiau ar hyd y dramffordd.

Gallwch ddewis gwrando ar y darnau sain canlynol yn awr, eu lawrlwytho’n unigol ar eich cyfrifiadur neu lawrlwytho’r llwybr llafar cyflawn (8.8 MB) ar eich cyfrifiadur fel ffeiliau sip, eu dadsipio gan ddefnyddio’r feddalwedd briodol, a chopïo’r ffeiliau mp3 i’ch chwaraewr mp3, ipod neu ffôn symudol.  

Gwnaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gymryd pob cam posibl i sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y llwybr llafar hwn yn gywir ond ni all warantu hynny. Awgrym yn unig yw’r llwybr a ddisgrifir ac nid yw’n gyfystyr â chyngor nac argymhelliad. Nid yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoi unrhyw warant, boed yn benodol neu’n awgrymiadol, o safbwynt addasrwydd neu ddiogelwch y llwybr a ddisgrifir neu’r ffaith ei fod ar gael. Yr unigolyn sy’n derbyn unrhyw risg bosibl sydd ynghlwm â dilyn y llwybr. Ceidw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yr hawl i addasu cynnwys y llwybr unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw. 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.