Llwybrau Llafar
Eich arweiniad personol ar gyfer archwilio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr.
Beth yw llwybr llafar?
Arweiniad wedi’i recordio yw llwybr llafar y gallwch ei lawrlwytho ar eich chwaraewr MP3, ffôn symudol neu PDA cyn i chi ddechrau ar eich taith. Eto i gyd, nid oes yn rhaid i chi wrando arno tra’ch bod yn dilyn y daith, gan y gallwch ei lawrlwytho ar eich cyfrifiadur a gwrando arno gartref cyn i chi adael.
Y Llwybr Ffosiliau a Brics Tân – Mae’r llwybr llafar hwn yn datgelu’r dreftadaeth ddaearegol a diwydiannol a geir rhwng Pontneddfechan a Sgwd Gwladus ac mae’n cynnwys cyfweliadau â nifer o arbenigwyr sydd wedi gweithio yn yr ardal hon a’i hastudio ers blynyddoedd lawer.
Llwybr Goblin Gwladus – Mae’r llwybr llafar hwn yn cyflwyno’r wybodaeth a geir yn ‘Ffosiliau a Brics Tân’ mewn modd sy’n apelio at y rhai rhwng 7 ac 11 oed – a’r rhai sy’n mwynhau stori dda.
Y Llwybr Powdwr – Mae’r llwybr llafar hwn, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn disgrifio bywydau’r bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Powdwr Gwn ym Mhontneddfechan.
Llwybr Dyffryn Henllys – ar gael yn fuan.
Podlediad Rhaeadrau a Bywyd Gwyllt - Mae’r recordiad pymtheg munud hwn yn cynnwys cyfweliadau â staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n trafod y fioamrywiaeth gyfoethog a geir ar hyd y llwybr rhwng Sgwd Gwladus a Phont Melin-fach.
Derbyniwyd cyllid oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau a weithredir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynhyrchu’r llwybrau llafar hyn.
