Gwladus

Goblin Gwladus

Ellyll yw Gwladus y mae arni angen eich cymorth! Er ei bod yn adnabod yr ardal hon yn dda ni all ddod o hyd i’r fynedfa i’w theyrnas o dan y ddaear – cyflwynodd y Brenin fesurau diogelwch ychwanegol ar ôl i fachgen lwyddo i ddwyn ychydig o’u haur. Yn gyfnewid am eich cymorth bydd yn cyflwyno byd cwbl wahanol i chi, pan nad oedd cerdded i fyny’r afon yn brofiad mor hamddenol. Mae’r llwybr llafar hwn yn cyflwyno’r wybodaeth a geir yn ‘Ffosiliau a Brics Tân’ mewn modd sy’n apelio at y rhai rhwng 7 ac 11 oed – a’r rhai sy’n mwynhau stori dda!

Gallwch ddewis gwrando ar y darnau sain canlynol yn awr, eu lawrlwytho’n unigol ar eich cyfrifiadur neu lawrlwytho’r llwybr llafar cyflawn (10 MB) ar eich cyfrifiadur fel ffeiliau sip, eu dadsipio gan ddefnyddio’r feddalwedd briodol, a chopïo’r ffeiliau mp3 i’ch chwaraewr mp3, ipod neu ffôn symudol.  

nullMap a Chyfarwyddiadau            Lawrlwytho

 

Os ydych yn berchen ar iPod neu Chwaraewyr Cyfryngau Personol eraill sydd â sgrin lliw beth am lawrlwytho’r podsgrôl sy’n cyd-fynd â hwy. Mae’n cynnwys y cyfarwyddiadau, y map a’r helfa drysor ar gyfer y llwybr rhwng Pontneddfechan a Sgwd Gwladus. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio podsgrôl ewch i www.podscroll.co.uk

Cynhyrchwyd y llwybrau llafar ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan www.audiotrails.co.uk. Gwnaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gymryd pob cam posibl i sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y llwybr llafar hwn yn gywir ond ni all warantu hynny. Awgrym yn unig yw’r llwybr a ddisgrifir ac nid yw’n gyfystyr â chyngor nac argymhelliad. Nid yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoi unrhyw warant, boed yn benodol neu’n awgrymiadol, o safbwynt addasrwydd neu ddiogelwch y llwybr a ddisgrifir neu’r ffaith ei fod ar gael. Yr unigolyn sy’n derbyn unrhyw risg bosibl sydd ynghlwm â dilyn y llwybr. Ceidw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yr hawl i addasu cynnwys y llwybr unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw. 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.