Mynediad Hawdd a Mynediad i Bobl Anabl

Mae’r Canllaw Mynediad Haws i Leoedd i Ymweld â Nhw yn rhestru’r lleoedd addas i ymweld â nhw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bobl sydd naill ai’n anabl, yn llai symudol neu sydd â nam ar y golwg. Mae’n ddefnyddiol hefyd ar gyfer yr henoed a rhieni â phlant mewn cadeiriau gwthio neu os ydych am fynd am dro hamddenol, di-ffwdan yn y wlad!

Photo: Talybont reservoir dam Photo: Couple at the Talybont reservoir. Photo: Dog walker on Mynydd Illtyd

Map Mynediad Haws: I weld map o’r llwybrau a’r atyniadau â mynediad haws.

Mae llawer o’r lleoliadau sydd wedi’u rhestru yn rhoi cyfle i chi ymlacio a mwynhau natur unigryw yr ardal.  Mae cyfle hefyd i ymweld â’r atyniadau niferus ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r cyffiniau.

Cynhwyswyd y mannau awyr agored sydd wedi’u rhestru yn y canllaw hwn oherwydd eu mynediad haws.  Mae tirwedd Parc Gwledig Bannau Brycheiniog yn golygu na fydd yr holl safleoedd hyn yn hygyrch i bawb.  Fodd bynnag, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ba leoedd i ymweld â nhw ac yn annog unigolion a theuluoedd i archwilio Bannau Brycheiniog yn ddiogel.

Gall erydiad naturiol llwybrau a mannau mwdlyd fod yn broblem mewn rhai lleoedd, felly gall ansawdd yr arwyneb amrywio o safle i safle.  Y corff neu’r tirfeddiannwr sy’n rheoli’r pob safle sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r safle hwnnw.  Os hoffech fwy o wybodaeth am safle cyn i chi ymweld ag ef, cysylltwch â’r sefydliad perthnasol neu ewch i’w gwefan.

Daw’r cyfeirnodau grid yn y canllaw naill ai o fapiau OL12 ac OL13 Hamdden Awyr Agored yr Arolwg Ordnans neu daflenni Landranger 160 ac 161.

Os bydd gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella cynnwys neu olwg y canllaw hwn, cysylltwch â Grenville Ham yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu, Powys LD3 7HP.

Ffôn: 01874 6220451. Ffacs: 01874 622574.

Mae gwybodaeth leol am fynediad i bobl anabl ar gael yng nghanllaw 'Agored i Bawb' Grŵp Mynediad Brycheiniog hefyd.

Am fwy o wybodaeth am ystyriaethau, prosiectau a grwpiau sy’n ymwneud â mynediad i bobl anabl, defnyddiwch yr adran dolenni ar y ddewislen.

Er y cymerwyd pob gofal i sicrhau cywirdeb, ni all Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i ddarpariaethau, gwallau na hepgoriadau, nac unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth hon.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.