Llwybrau mwy anturus
Mae’r canlynol yn rhestr o deithiau cerdded a llwybrau mwy anturus.
Mae’n bosibl y bydd y llwybrau ychydig yn fwy serth, yn hirach, yn fwy arunig neu’n cynnwys rhai grisiau ac un neu ddwy gamfa – os oes unrhyw un o’r rhwystrau hyn yn bodoli ar lwybr, bydd sôn amdanynt ar ddechrau’r disgrifiad. Mae’n bosibl y bydd grwpiau fel y Cerddwyr Anabl, ac ati, wedi defnyddio rhai o’r llwybrau.
Defnyddiwch y ddewislen lywio i weld manylion y llwybrau.
Rydym bob amser yn chwilio am fwy o gyfleoedd i gael llwybrau mynediad haws. Os oes gennych awgrym neu syniad am ‘lwybr mwy anturus' cysylltwch â Grenville Ham ar 01874 620451.
