Llwybrau, troeon a theithiau cerdded

Mae’r rhestr ar ochr chwith y dudalen hon yn rhoi manylion nifer o lwybrau, troeon a theithiau cerdded â mynediad haws ym Mannau Brycheiniog a’r cyffiniau. Mae pob lleoliad neu lwybr wedi cael rhif sy'n cyfateb i rif ar y map ac yn cael eu disgrifio, sy’n caniatáu i chi benderfynu lle rydych chi’n gallu mynd.

Gallwch lawrlwytho map i weld lle mae'r llwybrau hefyd.

Beth yw ystyr Mynediad Haws ym Mannau Brycheiniog?

Ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog weithio gyda grwpiau anabledd lleol i ddarganfod ffyrdd o helpu pobl anabl i fynd allan i gefn gwlad. Roedd y gwelliannau weithiau’n cynnwys tynnu camfeydd camu drosodd a gosod gatiau, gosod rampiau yn lle grisiau, neu wella arwynebau llwybrau. Mae grŵp llywio mynediad i bobl anabl wedi bod yn cynghori’r Awdurdod ar safleoedd addas a sut i’w gwella nhw. Roeddem hyd yn oed wedi dechrau argraffu arweinlyfr i ddweud wrth bobl ymhle roedd y safleoedd hyn.

Sylweddolodd y grŵp yn fuan nad pobl anabl yn unig fyddai’n elwa o’r newidiadau hyn. Roeddem yn clywed straeon am lawer o bobl eraill yn defnyddio’r arweinlyfr. O rieni â phlant bach mewn cadeiriau gwthio, pobl nad oeddent yn cerdded yn bell iawn, neu a oedd yn methu â cherdded yn bell iawn, i bobl a oedd eisiau taith gerdded hawdd ym Mannau Brycheiniog. Roedd yr holl grwpiau gwahanol hyn yn defnyddio’r arweinlyfr mynediad i bobl anabl, felly, gwnaethom ei ailenwi’n Arweinlyfr Mynediad Haws ac mae'r holl wybodaeth ar gael yn y rhestri ar ochr chwith y dudalen hon.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.