Atyniadau ymwelwyr â mynediad haws
Mae'r rhestr ar ochr chwith y dudalen hon yn cynnwys rhai o'r atyniadau sydd ar gael yn y Parc Cenedlaethol a'i gyffiniau - mae'r rhifau'n cyfateb i'r rhifau ar y map, sydd ar gael i chi ei lawrlwytho hefyd.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle arbennig iawn ac mae’n cynnig ystod amrywiol o weithgareddau i wneud eich ymweliad mor gyffrous neu hamddenol ag y mynnoch. Mae llawer o drefnwyr teithiau a allai fodloni eich anghenion penodol chi o deithiau ar gwch camlas i ferlota – cysylltwch ag un o’r canolfannau croeso lawer neu ewch i wefan y Parc Cenedlaethol am ragor o fanylion. Mae nifer o safleoedd gwersylla hefyd yn y Parc Cenedlaethol sydd â chyfleusterau ar gyfer pobl anabl sy’n mynd ar eu gwyliau.
Mae llawer o atyniadau hygyrch o bob math i ymwelwyr, gan gynnwys amgueddfeydd, cestyll, safleoedd treftadaeth, rheilffyrdd stêm ac ati.
Hefyd, gallwch lawrlwytho map i gael gweld lle mae'r rhain.
