Mynediad Haws
Nod y Canllaw Mynediad Haws yw rhoi syniad i chi o leoedd addas i ymweld â nhw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bobl sydd naill ai’n anabl, yn llai symudol, neu sydd â nam ar y golwg. Mae’n ddefnyddiol hefyd ar gyfer yr henoed a rhieni â phlant mewn cadeiriau gwthio neu os ydych am fynd am dro hamddenol, di-ffwdan yn y wlad! Edrychwch ar y ddewislen i benderfynu pa fath o le yr hoffech ymweld ag ef.
-
Mynediad Hawdd a Mynediad i Bobl Anabl
- Mae’r Canllaw Mynediad Haws i Leoedd i Ymweld â Nhw yn rhestru’r lleoedd addas i ymweld â nhw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bobl sydd naill ai’n anabl, yn llai symudol neu sydd â nam ar y golwg. Mae’n ddefnyddiol hefyd ar gyfer yr henoed a rhieni â phlant mewn cadeiriau gwthio neu os ydych am fynd am dro hamddenol, di-ffwdan yn y wlad!
-
Llwybrau hawdd
- Mae’r rhestr hon yn rhoi manylion nifer o lwybrau, troeon a theithiau cerdded â mynediad haws ym Mannau Brycheiniog a’r cyffiniau. Mae pob lleoliad neu lwybr yn cael eu disgrifio, sy’n caniatáu i chi benderfynu lle rydych chi’n gallu mynd.
-
Atyniadau mynediad hawdd
- Mae nifer o atyniadau o bob math i ymwelwyr yn yr ardal gan gynnwys amgueddfeydd, cestyll, safleoedd treftadaeth, rheilffyrdd stêm, ac ati. Sgroliwch i lawr y rhestr isod i gael syniadau am leoedd i ymweld â nhw.
-
Toiledau Cyhoeddus
- Mae manylion sylfaenol am doiledau hygyrch wedi’u rhestru os ydynt ar gael. Mae llawer o’r toiledau a restrir ar agor drwy gydol y dydd a gallai fod angen allwedd RADAR i gael mynediad i rai ohonynt. Caiff y Cynllun Allwedd Cenedlaethol ei weithredu gan RADAR a gallwch gysylltu â nhw ar 02072 503222. Mae modd cael allweddi gan RADAR. Mae’n bosibl y bydd gan eich cyngor, canolfan wybodaeth neu grŵp anableddau lleol allweddi ar werth hefyd.
-
Llwybrau mwy anturus
- Mae’r canlynol yn rhestr o deithiau cerdded a llwybrau mwy anturus. Mae’n bosibl y bydd y llwybrau ychydig yn fwy serth, yn hirach, yn fwy arunig neu’n cynnwys rhai grisiau ac un neu ddwy gamfa – os oes unrhyw un o’r rhwystrau hyn yn bodoli ar lwybr, bydd sôn amdanynt ar ddechrau’r disgrifiad. Mae’n bosibl y bydd rhai o’r llwybrau wedi cael eu defnyddio gan grwpiau fel y Cerddwyr Anabl, a.y.y.b.
-
Dolenni
- Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys rhai enwau cyswllt defnyddiol a ffynonellau gwybodaeth ychwanegol. Sylwch nad yw sylwadau a gweithredoedd y sefydliadau a restrir o reidrwydd yn adlewyrchu rhai Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
-
Map Mynediad Haws
- Map o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dangos lleoliad 55 o lwybrau ac atyniadau â mynediad haws
