Mae Canllaw Mynediad Haws Lleoedd Ymweliadau yn rhestru lleoedd addas i ymweld â nhw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer pobl sydd yn anabl, llai symudol, ag anawsterau gweld, yn hen, rhieni â phlant mewn cadair wthio neu hyd yn oed y rhai sydd am daith gerdded hamddenol, di-ffwdan yn y wlad!
Mae llawer o’r lleoedd a restrir yn cynnig cyfle am ymlacio a mwynhau natur unigryw yr ardal. Mae cyfle hefyd i ymweld â’r atyniadau lluaws sydd ar gael ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac o’i gwmpas.
Cynhwyswyd y mannau awyr agored a restrir yn y canllaw hwn oherwydd eu mynediad haws. Mae’r dirwedd yn y Parc yn golygu na fydd pob un o’r lleoedd hyn yn hawdd eu defnyddio i bawb. Ond bydd y canllaw yn eich helpu chi i benderfynu ar sail gwybodaeth pa leoedd i ymweld â nhw ac ichi annog unigolion a theuluoedd i arloesi Bannau brycheiniog yn ddiogel.
Gall erydiad naturiol llwybrau a rhannau lleidiog fod yn broblem mewn rhai lleoedd, felly gall ansawdd yr arwyneb fod yn amrywiol rhwng safleoedd. Cyfrifoldeb y corff neu’r tirfeddiannwyr sydd yn rheoli’r safle unigol yw gwaith cynnal a chadw. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ar safle cyn eich ymweliad, cysylltwch â’r corff perthnasol neu ewch at eu gwefan..
Noder y byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon yn ystod 2007 i gynnwys mwy o fanylion, mapiau llwybrau a lluniau.
Daw’r cyfeirifau grid yn y canllaw o mapiau rhifau 12 a 13 Hammden Awyr Agored yr Arolwg Ordnans neu o lenni 160 a 161 cyfres Landranger.
Os bydd unrhyw awgrymiadau gennych chi am wella cynnwys neu lun a canllaw, dylech gysylltu â Nick Toulson yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu, Powys LD3 7HP.
Ffôn: 01874 624437. Ffacs: 01874 622574.
Mae ffynonellau ychwanegol o wybodaeth ar gael yn y rhan Mwy o Wybodaeth , gan gynnwys manylion o ganllaw ‘Ar agor i Bawb’ Grŵp Mynediad Brycheiniog
Er y gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni all Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau mewn darpariaeth, gwallau neu ddiffygion, nac am unrhyw golledion na difrod sydd yn tarddu o ddefnyddio’r wybodaeth hon.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
