Rydych chi yma: Cartref Ymweliadau Gweithgareddau Awyr Agored
walking mother and child mountain biking child on horse Mountain biker on trail above reservoir The park on horseback

Gweithgareddau Awyr Agored

Defnyddiwch y ddewislen i ddarganfod yr ystod eang o weithgareddau sydd ar gael yn y Parc cenedlaethol. Cewch fod mor anturus ag y dymunwch gydag arweinwyr arbenigol ar gael i helpu os ydych yn llai hyderus neu am ddysgu sgiliau newydd. Mae lleoedd am hurio neu brynu offer os dymunwch roi tro ar rywbeth, ac mae canolfannau yn Llangors a Taf Bargoed yn cynnig dringo dan do a gweithgareddau eraill.

Tywysiadau

Neu cewch ymuno ag un o’r Tywysiadau a drefnir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cofiwch gadw’n ddiogel – mae’r gwasanaethau achub yn ardderchog ond mae’n well ganddynt beidio â chael eu galw allan!

Mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog hefyd yn rhedeg rhaglen o dywysiadau

Am ragor o wybodaeth  ar lawer o bethau i’w gwneud, mynnwch eich copi o Lawlyfr Ymwelwyr  Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r llyfryn llawn lliw hwn, sydd â 72 o dudalennau’n cynnig talpau anferth o wybodaeth ar bopeth o gerdded i dreftadaeth y byd, ond mae ganddo hefyd fanylion llawn o rhai o’r llety gorau yn yr ardal.

Cewch gael eich copi chi trwy e-bostio eich enw a chyfeiriad atom ni, neu o Ganolfannau Croeso ledled Ctymru a Lloegr. Mae ar gael yn helaeth drwy’r Parc.

Hunan-Dywysiadau

Mae Cymdeithas Parc y Bannau Brycheiniog wedi datblygu detholiad o chwech hunan-dywysiad y cewch eu hargraffu yn rhad ac am ddim o’u gwefan.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrthi’n datblygu cyfres o gardiau hunan-dewisiadau, ac mae pedwar ohonynt eisoes ar silffoedd y Canolfannau Gwybodaeth lleol. Am £1 yr un, ac maent yn ddelfrydol fel cofroddion. Dyma’r cardiau cerdded sydd ar gael: Pen-y-Fal  o’r Fenni, Glanfa Llanffwyst o’r Fenni, Pen-y-Fan a Chribyn o Gwm Gwdi a Chylch y Bannau.

Hefyd mae llyfryn Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt  lefel isel a ddyluniwyd i deuluoedd eu mwynhau o gwmpas rhai o emau mwyaf cudd  y Parc Cenedlaethol. Mae’r holl Ganolfannau Ymwelwyr  y Parc Cenedlaethol a Chanolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr lleol  yn cadw detholiad da o gyhoeddiadau cerdded ichi ddewis o’u plith.

Mynediad Cefn Gwlad yng Nghymru

Mae gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' yn rhoi arweiniad i diroedd a llwybrau sydd fel arfer ar gael ar gyfer mynediad i gerddwyr yng Nghymru.

Cewch arloesi hefyd  Map rhyngweithiol Cymru’r Cyngor Cefn Gwlad.

Gweithredoedd Dogfen