Lle i aros
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig llety at ddant a phoced pawb.
Ewch i Twristiaeth Bannau Brycheiniog i gael gwybodaeth fanwl am ble i aros yn lleol neu ewch i Croeso Canolbarth Cymru i gael dewis ehangach yn ddaearyddol. Gall llety gael ei drefnu ar-lein hefyd trwy www.visitwales.co.uk
Gallwch gael eich sbwylio mewn gwestai gwledig crand sy’n cynnig popeth y gallech ei ddymuno, a chael y gofal gorau mewn tafarnau hyfryd cyfforddus a gwestai cyfeillgar yng nghesail y bryniau. Os yw eich bryd ar fod yn fwy annibynnol, mae dewis heb ei ail o fythynnod hunanarlwyo, tai bynciau, hosteli a safleoedd carafanau/gwersylla.
Mae mwy a mwy o’r lleoedd aros yn yr ardal yn cyrraedd safon y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd sydd wedi’i gymeradwyo’n swyddogol. Mae hyn yn dangos bod eich lletywyr yr un mor ofalgar o’r amgylchedd ag y byddant ohonoch chi. I weld rhestr o’r llety dan y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd, neu i lawrlwytho llyfryn â manylion, ewch i’n tudalennau Gwyliau Gwyrddach (cadwch olwg am y logo yn yr Arweinlyfr i Ymwelwyr).
I gael mwy o wybodaeth am y llety sydd ar gael, mynnwch eich copi o Arweinlyfr i Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma lyfryn lliw llawn sydd â gwybodaeth ddi-derfyn yn ei 72 o dudalennau am bob dim o gerdded i dreftadaeth y byd, ond mae hefyd yn cynnig manylion llawn am y llety gorau yn yr ardal. Mynnwch eich copi chi trwy anfon neges e-bost atom yn cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad, neu o Ganolfannau Croeso ledled Cymru a Lloegr. Mae ar gael yn helaeth yn y Parc.
