Gwyliau Gwyrddach ym Mannau Brycheiniog
Gwyliau gwych heddiw a gwell yfory
Fel Parc Cenedlaethol, mae ymdrech fawr iawn eisoes ar waith i warchod a rheoli cefn gwlad - dyna yw ein gwaith. Ac fel un o dirweddau gwarchodedig mwyaf ysblennydd y wlad, does dim rhyfedd fod pobl yn tyrru yma ar eu gwyliau. Rydym am wneud eich gwyliau chi’n arbennig, ac am mai Parc Cenedlaethol yw hwn rydym yn meddwl ymlaen fel y gall ymwelwyr y dyfodol barhau i fwynhau gwyliau heb eu hail yn y man arbennig hwn. Dyna pam y mae rhai o’n prif flaenoriaethau’n cynnwys lleoedd aros, pethau i’w gwneud, a theithio o amgylch Bannau Brycheiniog heb gar - diogelu’r amgylchedd a chefnogi cymunedau lleol yn y mannau rydych chi wrth eich bodd yn ymweld â nhw.
Yn ein llyfryn Gwyliau Gwyrddach rydym wedi casglu pob un o enillwyr ein Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd at ei gilydd er mwyn i chi allu bod yn siwr bod eich llety neu’r busnes rydych chi’n ei ddefnyddio yn gweithio’n galed i ofalu am yr amgylchedd, yr economi a phobl Bannau Brycheiniog, lawn cystal ag y maent hwythau’n gofalu amdanoch chi.
Gallwch weld yn y llyfryn hwn beth arall rydyn ni’n ei wneud i’ch helpu gael gwyliau gwyrddach a beth allwch chi, ein hymwelwyr, ei wneud hefyd. Os cymerwn ni gyd ychydig o’r cyfrifoldeb, bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn parhau i fod yn lle gwych i fyw ac i weithio yno, ac yn lle gwych i ymweld ag ef hefyd.
Mae ein gwaith i wneud gwyliau’n wyrddach yn seiliedig ar y ffaith ein bod ni’n gadael ein hôl ble bynnag yr awn a beth bynnag a wnawn. Gyda dewisiadau gwell, gallwch chi gael profiadau cyfoethocach a sicrhau mai effaith gadarnhaol a gewch ar y mannau rydych wrth eich bodd yn ymweld â nhw.
Gobeithio y cewch chi wyliau gwych!
Anfonwch e-bost atom os hoffech gael y daflen ‘Gwyliau Gwyrddach’ neu gallwch ei lawrlwytho yma.
Cefnogir rhaglen Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd Bannau Brycheiniog gan COLLABOR8; prosiect i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy yn cael ei hariannu’n rhannol gan raglen Interreg IVB NEW yr UE.
Dyma restr o fusnesau’r Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd(GTBS) yn y Parc i chi ddewis o’u plith:
Cliciwch ar enw’r busnes i fynd yn uniongyrchol i’w gwefannau.
Busnesau Safon Aur GTBS
- Beili Helyg, Penderyn: E-bost willow.walks@hotmail.co.uk neu Ffôn: 01685 813609
- Bythynnod Gwyliau Coity Bach, Tal-y-bont ar Wysg, Aberhonddu: E-bost coity@btinternet.com neu Ffôn: 01874 676675
- Old Rectory Barn, Maesygwartha, Y Fenni: E-bost oldrectorybarn@hotmail.co.uk neu Ffôn: 01873 830244
- The Wern, Llanfihangel Talyllyn, Aberhonddu: E-bost lucienne_bennett@hotmail.com neu Ffôn: 01874 658401
- Trevyr Barn, Y Fenni: E-bost louise@trevyrbarn.co.uk neu Ffôn: 07786 243355
- Wern Watkin Bunkhouse, Llangatwg, Crughywel: E-bost enquiries@wernwatkin.co.uk neu Ffôn: 01873 812307
Busnesau Safon Arian GTBS
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog, Aberhonddu: E-bost zellams@brecknockwildlifetrust.org.uk neu Ffôn: 01874 625708
- Bythynnod Gwyliau Bannau Brycheiniog, Tal-y-bont ar Wysg, Aberhonddu: E-bost: enquiries@breconcottages.com neu Ffôn: 01874 676446
- Brynhonddu Country House Gwely a Brecwast, Pandy, Y Fenni: E-bost enquiries@brynhonddu.com neu Ffôn: 01873 890535
- Cantref Coach House, Cantef, Aberhonddu: E-bost cantrefhouse@aol.com neu Ffôn: 01874 665668
- Bythynnod Hunanarlwyo Carno Farm, Libanus, Aberhonddu: E-bost enquiries@carnofarmbrecon.co.uk
- Drover Holidays, Y Gelli: E-bost info@droverholidays.co.uk neu Ffôn: 01497 821134
- Glynmeddig Barn, Pontsenni, Aberhonddu: E-bost info@glynmeddig.co.uk neu Ffôn: 01874 638949
- Hopyard Courtyard Cottage, Gofilon, Y Fenni: E-bost enquiries@hopyardcourtyardcottage.co.uk neu Ffôn: 01873 830219
- Bythynnod Llanilid, Crai, Aberhonddu: E-bost enquiries@llanilidcottages.co.uk neu Ffôn: 01874 636238
- Merryfields Barn, Llangatwg, Crughywel: E-bost sharps@ffawyddog.fsnet.co.uk neu Ffôn: 01873 810013
- Ty’r Morwydd / Mulberry House, Pen y Pound, Y Fenni: E-bost enquiries@mulberrycentre.com neu Ffôn: 01873 855959
- Usk and Railway Inn, Pontsenni, Aberhonddu: E-bost elainecafe@hotmail.com neu Ffôn: 01874 636101
Busnesau Safon Efydd GTBS
- Llansantffraed Court Hotel, Gobion, Ger y Fenni: E-bost reception@llch.co.uk neu Ffôn: 01873 840678
- YHA Llwyn y Celyn, Libanus, Aberhonddu: E-bost llwyncelyn@yha.org.uk neu Ffôn: 0845 3719029
Busnesau GTBS sy’n ‘Disgwyl eu Graddio'
- Tregoyd Mountain Riders, Three Cocks, Aberhonddu: E-bost info@tregoydriding.co.uk neu Ffôn: 01497 847351
