Lle i Aros
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig amrywiaeth fawr o lety at ddant a phoced pawb.
Ewch i Twristiaeth Bannau Brycheiniog i gael gwybodaeth fanwl am ble i aros yn lleol neu ewch i Croeso Canolbarth Cymru i gael dewis ehangach yn ddaearyddol. Fel arall, ewch i gwefan twristiaeth genedlaethol Cymru i gael gwybodaeth a mapiau o ansawdd uchel.
Gallwch gael eich sbwylio mewn gwestai gwledig crand sy’n cynnig popeth y gallech ei ddymuno, a chael y gofal gorau mewn tafarnau hyfryd cyfforddus a gwestai cyfeillgar yng nghesail y bryniau. Os yw eich bryd ar fod yn fwy annibynnol, mae dewis heb ei ail o fythynnod hunanarlwyo, tai bynciau, hosteli a safleoedd carafanau/gwersylla.
Mae mwy a mwy o’r lleoedd aros yn yr ardal yn cyrraedd safon y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd sydd wedi’i gymeradwyo’n swyddogol. Mae hyn yn dangos bod eich lletywyr yr un mor ofalgar o’r amgylchedd ag y byddant ohonoch chi. I weld rhestr o’r llety dan y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd, neu i archebu/lawrlwytho llyfryn â manylion, ewch i’n tudalennau Gwyliau Gwyrddach. Cadwch olwg hefyd am y logo yn yr Arweinlyfr i Ymwelwyr sydd ar gael yn eang.
