Beth yw Tir Mynediad?
Ym mis Mai 2005, cyflwynodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 hawl newydd i bobl gerdded dros ardaloedd o gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o’ch hawliau. Mae manylion llawn i’w gweld ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Beth yw Tir Mynediad?
Yn bennaf, mae Tir Mynediad yn dir gwledig agored ac yn dir comin cofrestredig. Mae rhai ardaloedd coedwig hefyd wedi cael eu neilltuo’n fforestydd cyhoeddus, fel tir y Comisiwn Coedwigaeth, ac mae hawl i’r cyhoedd gael mynediad agored iddynt.
Fodd bynnag, mae perchenogion tir a thenantiaid yn gallu cyfyngu neu atal mynediad cyhoeddus i Dir Mynediad o dan amgylchiadau penodol. Mwy o wybodaeth am eithriadau a chyfyngiadau.
Beth gallaf i ei wneud ar Dir Mynediad?
Mae’r Ddeddf yn caniatáu i chi gerdded yn rhydd ar Dir Mynediad ac nid oes rhaid i chi gadw at lwybrau llinellog (fel llwybrau troed neu lwybrau ceffyl) oni bai eich bod chi’n dymuno gwneud hynny. Mae’r gweithgareddau a ganiateir yn cynnwys:
- cerdded neu redeg
- ymweld
- gwylio adar neu fywyd gwyllt
- cael picnic
- dringo.
Fodd bynnag, nid yw gweithgareddau fel marchogaeth, gwersylla, nofio a beicio yn cael eu caniatáu. Mae’n rhaid i farchogion, beicwyr a cherbydau modur gadw at yr hawliau tramwy presennol.
Nid yw hawliau mynediad y Ddeddf yn effeithio ar hawliau na gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli a gall gweithgareddau eraill gael eu caniatáu gyda chaniatâd perchennog y tir.
Sut byddaf i’n gwybod i ble y gallaf i fynd?
Caiff Tir Mynediad ei farcio’n glir ar fapiau Explorer (1:25000) yr Arolwg Ordnans. Mae ardaloedd mynediad y Ddeddf yn cael eu lliwio’n felyn gyda ffin frown a chaiff tir coedwig neilltuedig ei ddangos mewn gwyrdd golau gyda ffin frown. Cyn mynd ar eich taith, ewch i’r map rhyngweithiol ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru lle bydd manylion unrhyw eithriadau neu gyfyngiadau yn cael eu dangos hefyd, er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Datblygwyd arwyddion ar y tir a dylai gwybodaeth fod ar gael yn y prif bwyntiau mynediad fel meysydd parcio a chanolfannau ymwelwyr. Cadwch lygad allan am y symbol mynediad newydd sy’n dangos bod tir ar agor i’r cyhoedd fynd ato ar droed.
A yw hyn yn golygu fy mod i’n gallu cerdded lle bynnag y mynnaf?
Nac yw. Mae rhai ardaloedd neu fathau o dir wedi’u heithrio o’r hawliau mynediad newydd ac, er y gall yr ardaloedd tir hyn gael eu mapio’n dir mynediad, ni fydd yr hawl newydd yn berthnasol. Mae enghreifftiau’n cynnwys tir o fewn 20 metr i dai, parciau, gerddi, cyrsiau golff a meysydd awyr. Mae rhestr lawn o dir wedi’i eithrio yn cael ei roi yn Atodlen 1 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
A allaf i fynd â’m ci ar Dir Mynediad?
Fel arfer, caniateir cŵn ar Dir Mynediad ond mae rhai cyfyngiadau sydd wedi’u cynllunio i leihau unrhyw effaith newydd ar fywyd gwyllt neu anifeiliaid fferm.
Mae’n rhaid cadw cŵn o dan reolaeth agos ar Dir Mynediad neu ar hawliau tramwy cyhoeddus bob amser. Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, neu ar unrhyw amser arall pan fyddant yng nghyffiniau anifeiliaid fferm, rhaid cadw cŵn ar denynnau byr gosodedig nad ydynt yn mesur mwy na dau fetr. Gall perchenogion tir neu feddianwyr tir hefyd atal neu gyfyngu cŵn am gyfnodau dros dro (fel yn ystod y cyfnod wyna) ac mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru’r grym i atal cŵn at ddibenion cadwraeth natur.
A fydd unrhyw gyfyngiadau ar Dir Mynediad?
Mae’r Ddeddf yn caniatáu i berchenogion tir a thenantiaid amaethyddol gau tir neu gyfyngu mynediad am hyd at 28 diwrnod mewn cyfnod o flwyddyn. Fodd bynnag, ni chaiff y dyddiau hyn fod ar wyliau banc, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith ac am ddim mwy na phedwar diwrnod ar y penwythnos. Ni all unrhyw ardal o dir mynediad gael ei chau am fwy na 28 diwrnod heb ganiatâd.
Yn ogystal â’r 28 diwrnod sydd wedi’u disgrifio uchod, gall perchenogion tir a thenantiaid amaethyddol wneud cais i Awdurdod y Parc Cenedlaethol (os yw’r tir yn rhan o’r Parc Cenedlaethol) neu i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (os yw’r tir y tu allan i’r Parc) am orchymyn sy’n atal neu’n cyfyngu ar fynediad i dir. Gall hyn fod yn angenrheidiol er mwyn atal y perygl o dân dan amodau tywydd eithriadol neu am resymau rheoli tir.
Sut bydd y cyhoedd yn gwybod am gyfyngiadau ar Dir Mynediad?
Caiff gwybodaeth am eithriadau a chyfyngiadau ei chyhoeddi ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Bydd Awdurdodau’r Parc Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn lleol mewn mannau fel canolfannau croeso. Bwriedir hefyd y bydd arwyddion yn cael eu codi ger y mynedfeydd i Dir Mynediad. Talwch sylw i unrhyw arwyddion sy’n dangos bod tir ar gau. Nid yw cyfyngiadau ar Dir Mynediad yn cael unrhyw effaith ar hawliau tramwy cyhoeddus.
Ewch i’n tudalennau Mynediad a Hawliau Tramwy i gael mwy o wybodaeth
