Symud i'r cynnwys. | Symud i lywio

Adrannau

Mynediad a Hawliau Tramwy

Mae mynediad yn allweddol ar gyfer gallu mwynhau’r Parc Cenedlaethol a’i ddeall, a’n nod yw hyrwyddo mynediad cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd priodol a chynaliadwy nad ydynt yn gwrthdaro â’n hamcanion cadwraethol.

Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog amrywiaeth fawr o gefn gwlad prydferth. Mae’r bryniau a’r mynyddoedd agored yn dominyddu tirwedd y Parc, ond mae mwy i’r Parc Cenedlaethol na’r copaon uchel.

Mae’r ardaloedd o dir isel yr un mor eithriadol, gan gynnwys rhaeadrau cudd, tir fferm bryniog, afonydd troellog ac ardaloedd coediog oll yn aros am gael eu darganfod.

Mae’r dirwedd amrywiol yn golygu bod rhywbeth yma i bawb. P’un a’ch bod chi’n mwynhau’r her o gerdded mynyddoedd neu’n os yw’n well gennych grwydro caeau a choedwigoedd neu ddilyn camlas neu afon, bydd digon yma i chi ei wneud. Mae rhwydwaith helaeth o hawliau tramwy cyhoeddus sy’n ymestyn dros fwy na 1,980 cilometr (llwybrau troed, llwybrau ceffyl a chilffyrdd) yn y Parc, gan ganiatáu i ymwelwyr archwilio’r ardal nid yn unig ar droed, one hefyd ar gefn ceffyl neu feic.

Cewch hefyd gerdded yn rhydd dros ardaloedd sylweddol o’r Parc Cenedlaethol o ganlyniad i Mynediad Agored a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.

Parchu, Amddiffyn a Mwynhau Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor i ymwelwyr â chefn gwlad, i ffermwyr ac i dirfeddianwyr.  Os byddwch chi’n dilyn y Cod Cefn Gwlad, byddwch yn gallu gwneud y gorau o’ch ymweliad a diogelu cefn gwlad i genedlaethau i ddod.

 
Mae’r tudalennau Mynediad a Hawliau Tramwy yn rhoi mwy o wybodaeth. 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.