Parc Gwledig Craig-y-nos
Parc Gwledig Craig-y-nos
Pen-y-Cae, Cwm Tawe, SA9 1GL
Ffôn: 01639 730395
Tir
Yma cewch ddigon o goed tal, dwy afon, pyllau a dolydd i grwydro o'u hamgylch a'u mwynhau. Mae gennym ddigon o seddi a meinciau picnic hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau yn y Parc Gwledig ar dir gwastad neu dir sydd ag ychydig o lethr, ac mae arwyneb caled i rai o'r rhain.
Oriau agor
Mae'r Parc Gwledig ar agor bob dydd (heblaw am Ddydd Nadolig).
Parcio: Arhosiad byr am hyd at 2 awr - £1.50. Arhosiad hwy / drwy'r dydd - £2.50. Os ydych yn ymweld â'r parc yn rheolaidd, beth am ystyried prynu tocyn tymor? Manylion tocyn tymor 2011.
Ystafell De a Bwyty'r Changing Seasons
Diwrnodau gweithgarwch i blant yn ystod yr haf
Dydd Llun 15 i ddydd Iau 18 Awst 2011
Lle i fforio, chwarae gemau, a llawer i'w ddarganfod yn ein Parc Gwledig bendigedig, gyda'n staff addysg o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yr haf hwn. Cost: £15 y dydd neu £50 os ydych chi'n bwcio ar gyfer y 4 diwrnod cyfan.
Mwy o fanylion. Os oes gennych ymholiad neu os hoffech drefnu lle, cysylltwch â Linda Harley ar 01874 620463.
Cŵn
Mae croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn. Mae gennym un bin gwastraff cŵn yn y maes parcio. Ni chaniateir cŵn yn ardal y ddôl pan fydd defaid yn pori (misoedd y gaeaf yn unig – gweler yr arwyddion lleol).
Toiledau / ystafelloedd newid cewynnau
- Mae'r toiledau ar agor drwy'r dydd, bob dydd.
- Mae un toiled neillryw i bobl anabl, sydd ar agor 24 awr y dydd.
- Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael yn y toiled i bobl anabl, ac mae'n cynnwys bwrdd newid a bin sbwriel.
Mynediad hawdd
Os oes gennych ofynion penodol o ran mynediad, efallai y bydd ein datganiad mynediad yn ddefnyddiol i chi.
