Canolfan Ymwelwyr y Rhaeadrau, Pontneddfechan

Mae Bro'r Sgydau yn ardal hynod o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr, ac mae Canolfan Ymwelwyr y Rhaeadrau, sydd newydd gael ei hadnewyddu, ym mhentref Pontneddfechan, yn cynnig man cychwyn gwych ar gyfer darganfod yr ardal brydferth hon.

Mae’r Ganolfan yn gartref i arddangosfa ryngweithiol gyffrous sy’n disgrifio tarddiad a natur unigryw Geoparc y Fforest Fawr, ffurfiant y rhaeadrau ac effaith y creigiau ar fywydau pobl drwy’r oesoedd hyd heddiw.

Dyma le delfrydol i ddechrau taith gerdded ar hyd un o’r llwybrau niferus i’r rhaeadrau ac i ymweld ag olion dirgel y gweithfeydd powdwr du a’r mwyngloddiau silica sy’n cynnig awgrym o’r bwrlwm gweithgarwch a diwydiant a arferai lenwi’r man hudol hwn.

Mae cerdded y tu ôl i’r llen ddŵr yn Sgwd yr Eira yn brofiad bythgofiadwy! Mae cyfres Weatherman Walking, Derek Brockway, hefyd yn cynnwys taith gerdded yn yr ardal hon.

Canolfan Ymwelwyr y Rhaeadrau, Pontneathvaughan Road, Pontneddfechan, Ger Glyn-nedd, SA11 5NR.  Ffôn: 01639 721795. E-bost.

Oriau Agor:

Hydref-Pasg: 9.30am-1pm ac 1.30pm-3pm Penwythnosau Yn Unig
Pasg-Medi: 9.30am-1pm a 1.30pm-5pm Bob Dydd

Sylwadau o’n Llyfr Ymwelwyr yn y Ganolfan:

1. It's brilliant. There's so much ideas and information and I love the Rock Around the Clock (teulu o Newcastle)
2. Very interesting and educational. Great Centre (Laura o Milton Keynes)
3. Lots of really interesting information. Well designed Centre. Thank you. (Karen o Bontneddfechan)
4. This place is awesome. The computer things are really cool ! (Madison o Ben-y-bont ar Ogwr)
5. Fantastic Info with clear displays - everything you need to find out a bit more about your visit. Very helpful staff - makes it all so much easier ! (G o Gaergaint)
6. Canolfan diddorol. Cefngwlad brydferth ! Balch i fod yma. (Claire a Rob o Bontypridd)
7. Very informative and well presented. DVD really informative and great interactive wall features. Geology was never this interesting at Uni. (Thomas o dde-orllewin Lloegr)
8. I didn't think I would find waterfalls so interesting but I do. Plenty to see and do (Amanda o Drelái, Caerdydd)
9. Very informative. Not familiar with this area but will be visiting more from now on (Fiona a Wayne o Lanelli)
10. I haven't been for some time and thought the Centre is super now. Much expanded and really educational and interesting. Well done and thank you. (Diane o Henffordd).
11. Very interesting - I now understand why the Brecon Beacons are shaped the way they are (Ymwelydd o’r Almaen).
12. A very nice centre for understanding the Geopark (Soojae o Sefydliad Amgylchedd Korea).

Llwybrau Llafar y Rhaeadrau

Os na allwch chi gyrraedd y rhaeadrau eich hun, beth am wrando ar ein llwybrau llafar a phodlediadau yn lle hynny, neu eu lawrlwytho a dod â nhw gyda chi pan fyddwch chi’n ymweld.

Gwarbac Gweithgarwch y Rhaeadrau

Beth am ychwanegu at fwynhad taith gerdded o amgylch Rhaeadrau prydferth y Parc Cenedlaethol a’r Geoparc trwy hurio un o’n Gwarbaciau Geo i’ch grŵp?

Gallwch ddefnyddio’r pecyn i’ch helpu i ddarganfod pa blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw yn yr ardal goetir hon o greigiau grut melinfaen ac yn Afon Nedd Fechan, trwy nodi eu henwau a darganfod ambell ffaith ddiddorol am rai ohonynt.

Mae’r gwarbaciau hyn yn addas i grwpiau ysgol, teuluoedd ac unigolion ac maent yn ddigon ysgafn a bach i blentyn allu eu cario (tua 30cm x 25cm yw eu maint).

£5 yw’r gost ddyddiol am hurio’r rhain, ac mae angen talu blaendal o £10 sy’n cael ei ad-dalu pan fydd y gwarbac a’i gynnwys yn cael dychwelyd yn ddiogel, cyn amser cau ar ddiwrnod eu hurio o Ganolfan Ymwelwyr y Rhaeadrau.

Cynnwys y Gwarbaciau Gweithgarwch:

• Siart Canllaw i Blanhigion Coetir gan y Cyngor Astudiaethau Maes (FSC)
• Siart Llwybr Enwau Coed yr FSC
• Siart Llwybr Enwau Coetir yr FSC
• Siartiau Canllaw i “50” prif Aderyn yr Ardd gan yr FSC
• Siart Llwybr Enwau Ffwng yr FSC
• Pasbort i Sgwd Gwladus: 4 taflen recordio lluniadu a labelu
• 2 chwyddhadur chwilod a photiau gwylio
• 1 ysbienddrych

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.