Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol

Cewch groeso cynnes yn y Ganolfan Ymwelwyr – galwch heibio i’n gweld ni neu ffoniwch neu anfon neges e-bost – mae’r manylion isod. Os oes awydd bwyd arnoch chi, cewch flas o’n harlwy drwy’r samplau o fwydlenni o’n hystafelloedd te ar y gwymplen ar ochr chwith y dudalen hon. Gallwch weld sut mae’r tywydd cyn dod trwy edrych ar y gwe-gamerâu.

Libanus, Aberhonddu, Powys, LD3 8ER

Ffôn: 01874 623366. E-bost.

Cewch lawrlwytho map o’r ffyrdd gerllaw’r Ganolfan yma neu os yw’r ardal yn newydd i chi, dyma ddolen ar gyfer map mwy o faint.

Neu, gallwch lawrlwytho’n taflen sydd â braslun defnyddiol o fap sy’n dangos sut i’n cyrraedd ni. Gallwch ddilyn yr arwyddion ffyrdd twristiaeth brown a gwyn o ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Mynediad hawdd

Os oes gennych ofynion mynediad penodol, mae’n bosibl bydd ein datganiad mynediad yn ddefnyddiol.

Hoffech chi wybod am ddigwyddiadau’r Parc Cenedlaethol? Cliciwch yma.

Oriau agor

Gwybodaeth, arddangosfa a siop

  • Gwanwyn (Mawrth – Mehefin) 9.30am - 5.00pm
  • Haf (Gorffennaf – Awst) 9.30am - 5.30pm
  • Hydref (Medi – Hydref) 9.30am - 5.00pm
  • Gaeaf (Tachwedd – Chwefror) 9.30am - 4.30pm

Ystafelloedd Te

  • Gwanwyn (Mawrth – Mehefin) 9.30am - 5.00pm
  • Haf (Gorffennaf – Awst) 9.30am - 5.30pm
  • Hydref (Medi – Hydref) 9.30am - 5.00pm
  • Gaeaf (Tachwedd – Chwefror) 9.30am - 4.30pm

Caiff brecwast, cinio a lluniaeth eu gweini bob dydd

Rydym yn Arlwyo ar gyfer priodasau, cynadleddau, partïon ac achlysuron arbennig.

Cyrsiau llywio traws gwlad yn y Ganolfan Ymwelwyr

Gallwch ddysgu sgiliau newydd neu loywi sgiliau presennol ar y cyrsiau diwrnod a deuddydd hyn sy’n cael eu cynnal gan Manzoku ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Manylion cyrsiau.

Tir

Mae tir y Ganolfan yn fan delfrydol i ymlacio a mwynhau’r olygfa. Mae’r tir wedi cael ei dirlunio ychydig, gyda lawnt yn bennaf, ac mae byrddau picnic, meinciau a seddi mewn sawl man o amgylch yr adeilad.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn, os gwelwch yn dda. Nid oes biniau sbwriel i ymgarthion cŵn yn y Ganolfan – felly dylech fynd â’r gwastraff oddi yno. Peidiwch â defnyddio’r biniau sbwriel. Mae comin Mynydd Illtyd y tu hwnt i’r clwydi a’r camfeydd.

Parcio

  • Yr unig dâl rydym yn ei godi yw tâl parcio – mae mynediad am ddim i’r Ganolfan.
  • Arhosiad byr am hyd at ddwy awr - £1.00
  • Arhosiad hwy / trwy’r dydd - £2.50
  • Os ydych chi’n ymweld yn rheolaidd, beth am ystyried prynu tocyn tymor? Manylion tocyn tymor 2011
  • Nid ydym yn codi tâl ar ddeiliaid bathodyn glas. Mae man parcio pwrpasol i ddeiliaid bathodyn glas ar ben uchaf y brif rodfa, y tu allan i ardal y toiledau.

Toiledau / cyfleusterau newid cewynnau

  • Mae’r toiledau ar agor bob dydd yn ystod yr oriau agor arferol.
  • Mae un toiled neillryw sy’n briodol i bobl anabl. Mae hwn ar agor 24 awr y dydd.
  • Mae’r cyfleusterau newid cewynnau yn cynnwys man preifat, bwrdd newid a bin sbwriel.

Desg Wybodaeth

Mae staff cyfeillgar a chymwynasgar ar ddyletswydd bob dydd. Rydym wedi hen arfer â chwestiynau nodweddiadol (ac annodweddiadol!) am y Parc Cenedlaethol. Mae gennym gyfoeth o wybodaeth am safleoedd poblogaidd ac am fannau prydferth, llai cyfarwydd, yr ardal.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.