Beth i’w weld o’r Ganolfan Ymwelwyr ar droed

Cerdded, darganfod, ymlacio a mwynhau. Cewch hanes, bywyd gwyllt a golygfeydd godidog ar gomin Mynydd Illtud, wrth ymyl Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (Y Ganolfan Fynydd).

Ar y Comin

Amgaeadau Tŷ unnos – Mae’n bosibl bod ‘ynysoedd’ bychain o dir fferm ar y Comin yn deillio o’r arfer canoloesol hwn. Gallai teulu hawlio tir trwy adeiladu tŷ rhwng y cyfnos a’r wawr, mewn cyfnod o noson.  Byddai maint y llain yn cael ei fesur trwy daflu bwyell o bob cornel o’r adeilad.

Llanilltud – Tan 1995, safai eglwys yn y ‘llan’ neu’r lloc crwn hwn o’r cyfnod Cristionogol cynnar. Gallai ei aliniad a’r meini hirion olygu ei fod yn safle pwysig yn y cyfnod cyn-Gristnogol.

Meini hirion – Gall y rhain ddyddio o’r Oes Efydd, a gallent fod yn gofnod o lwybr neu ffin neu hyd yn oed ‘bwyntio’ at godiad yr haul adeg heuldro’r haul. Mae llinell rhwng y ddwy garreg fach (un ger canol y Comin, ac un i’r gorllewin) yn croesi drwy loc Llanilltud.

Bedd Illtud – Dywedwyd bod y cerrig hyn sy’n gorwedd mewn pwll bas gyda chlawdd o’i amgylch yn nodi bedd Illtud.  Bellach, credir ei fod yn safle claddu o’r Oes Efydd.

Twyn y Gaer – Mae ffos a rhagfur bryngaer o’r Oes Haearn, gyda’i mynedfa’n wynebu tua’r dwyrain, i’w gweld o hyd ar gopa’r bryn hwn.  Dyma’r rhan fwyaf gogleddol o’r Comin, a’i bwynt uchaf.

Sarn Helen – Olion ffordd Rufeinig neu sarn yw’r gefnen llawn tyfiant hon.  Mae’n bosibl y cafodd ei henwi ar ôl Elen, gwraig yr Ymerawdwr Maximus, o’r 4edd ganrif, ond fe’i hadeiladwyd dipyn cynt na hynny i gysylltu Y Gaer (2.5 milltir i’r gorllewin o Aberhonddu), sy’n dyddio o’r ganrif 1af wedi Crist, â chaer yng Nghastell-nedd.

Mwnt Castell – Dyma’r cyfan sy’n weddill o gastell o’r 13eg ganrif â thŵr 50 troedfedd uchel. Mae’n bosibl mai Llywelyn Ein Llyw Olaf, ŵyr Llywelyn Fawr, a adeiladodd hwn.

Tomenni Clustog – Mae cloddiau a thomenni o sawl maint a ffurf i’w gweld ar lethrau Twyn y Gaer.  Cwningaroedd artiffisial yw’r rhain a adeiladwyd pan oedd cwningod yn cael eu ffermio am eu bwyd a’u croen.

Bywyd gwyllt y Comin

Anifeiliaid – Mae cwningod yn olygfa gyffredin, ac maent yn byw mewn cwningaroedd dan ddaear. Gallech hefyd weld ysgyfarnogod, sy’n fwy o faint ac sy’n byw uwchlaw’r ddaear. Mae llawer o famaliaid eraill yn byw ar y Comin, ond maent yn gelgar ac yn anodd eu gweld.  Mae llwynogod, draenogiaid, moch daear a ffwlbartiaid yn weithgar yn ystod y nos.  Mae llygod y dŵr, llygod a chwistlod llai o faint yn cadw at yr isdyfiant.

Ni fu cofnod erioed o nadroedd ar Fynydd Illtud; madfallod yw’r unig ymlusgiaid sydd yma.  Mae amffibiaid (brogaod, llyffantod duon a madfallod y dŵr) oll i’w gweld mewn mannau gwlyb.  Mae’r amrywiaeth enfawr o bryfed yn cynnwys gweision y neidr a mursennod ysblennydd.

Hefyd, mae defaid a merlod yn pori ar y Comin.  Nid ydynt yn wyllt, mae pobl sydd â hawliau Cominwyr i gadw anifeiliaid ar Fynydd Illtud yn berchen arnynt – ond nid ydynt yn ddof ac ni ddylech fynd yn agos atynt.  Byddwch cystal â pheidio bwydo’r anifeiliaid hyn.

Adar – Mae llawer o adar i’w gweld ar y Comin gydol y flwyddyn, gan gynnwys crehyrod gleision, cnocellau gwyrdd, cigfrain, drywod eurben, cudyllod coch a bwncathod.  Gallwch weld llawer o’r adar llai o faint fel pincod a thitwod yn defnyddio’r bwydwyr adar y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr.

Daw rhai adar i’r Comin o bob cwr o’r byd i fridio yn ystod yr haf.  Efallai y gwnewch chi glywed y gwcw, a gweld gwenoliaid duon, gwenoliaid, gwenoliaid y bondo, tinwennod y garn, tingochion a llinosiaid.  Daw eraill i dreulio’r gaeaf yma, gan fwynhau’r hinsawdd fwyn.  Mae ymwelwyr yn ystod y gaeaf yn cynnwys corhwyaid, sogieir, cochion yr adain, a phincod y mynydd.

Peidiwch â tharfu ar anifeiliaid ac adar; cadwch gŵn o dan reolaeth gaeth.

Planhigion – Mae’r defaid a’r merlod sy’n pori yn cael effaith ar y planhigion sy’n tyfu yma.  Mae’r prif blanhigion sy’n tyfu ar y Comin yn rhai sydd naill ai’n tyfu’n gynt nag y gall yr anifeiliaid eu bwyta (fel porfeydd) neu blanhigion nad yw’r anifeiliaid yn hoffi eu bwyta (eithin, rhedyn, ac ati). Y pori sy’n cadw’r ardal yn un agored, pe na bai’r anifeiliaid yma, byddai coed a phrysg yn meddiannu’r tir.

Mae dau amrywiaeth o eithin yma; mae eithin cyffredin, gyda nodwyddau rhigolog, yn eu blodau rhwng Mawrth a Gorffennaf.  Mae Eithin y Mynydd, gyda nodwyddau llyfnach, yn eu blodau yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf.

Mae perlysiau bychain yn treulio llawer o’r flwyddyn ynghudd yn y borfa, ond yn ystod yr haf, mae eu blodau lliwgar yn ymddangos.  Gallwch weld tresgl y moch (tresgl melyn), briwydd wen a rhwyddlwyn mewn arlliwiau glas a lelog.  Yn y perthi a’r waliau, mae amrywiaeth ryfeddol o blanhigion, gan gynnwys bysedd y cŵn, clych yr eos, ffacbys a meillion.  Mae’r pyllau’n cynnal llawer o rywogaethau dyfrol.  Mae sawl rhywogaeth ffwng yn ffynnu yma hefyd.

Peidiwch â chasglu’r blodau, a chofiwch, mae dadwreiddio planhigion gwyllt yn anghyfreithlon.

Golygfeydd o’r Comin

Mynyddoedd y Parc Cenedlaethol – Mae pedair cadwyn o fynyddoedd yn creu cadwyn gyfan o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y Parc Cenedlaethol.  Mae cadwyn Bannau Brycheiniog yn y canol, ac mae hwn yn cynnwys y copaon uchaf.   Ychydig i’r gorllewin y mae cadwyn Fforest Fawr.  Yn y dwyrain, mae cefnennau helaeth y Mynydd Du (Black Mountains), sy’n wahanol i gadwyn y Mynydd Du (Black Mountain) yn y gorllewin.

Copaon Pen y Fan (886m) a Chorn Du (873m) sydd flaenllaw yn yr olygfa i gyfeiriad y de-ddwyrain.  Pen y Fan yw’r pwynt uchaf yn ne Cymru.  Olion yw’r copaon gwastad o haen galed o graig a adawyd ar ôl i rewlifoedd Oesoedd Iâ’r gorffennol erydu’r tywodfaen meddalach o’i amgylch.

Mae Cwm Tarrell yn gartref i afon Terall sy’n uno ag afon Wysg yn Aberhonddu ac mae’n creu rhaniad rhwng cadwyni’r Bannau a’r Fforest Fawr.  Cerfiwyd y cwm gan rewlifoedd yn ystod oesoedd iâ'r ddwy filiwn o flynyddoedd diwethaf.

Mae clogwyni tywyll, gogleddol Craig Cerrig-gleisiad yn llunio un o ‘gymoedd’ godidocaf y Parc Cenedlaethol – pantiau cysgodol mawr lle cynhyrchwyd iâ’r rhewlifoedd yn ystod yr oesoedd iâ.   Dyma Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae’r bywyd gwyllt sydd i’w weld yno yn cynnwys planhigion alpaidd ac Arctig prin.

Dyffryn Wysg – Mae Afon Wysg yn tarddu ar lethrau gogleddol cadwyn y Mynydd Du (Brycheiniog).  Mae’n llifo tua’r dwyrain, yna’n troi tua’r de-ddwyrain, gan rannu’r Bannau rhag y Mynydd Du.  Gynt bu rhewlif enfawr yn ymestyn i lawr y dyffryn hwn cyn belled â’r Fenni, gyda rhewlifoedd llai o faint o gymoedd mynydd fel cwm Tarell yn ei fwydo.

Pen y Crug – Bryngaer arall o’r Oes Haearn sydd â nifer o gloddiau a ffosydd sydd wedi’u diogelu’n dda.

Y Gaer, Aberhonddu – Dyma safle caer Rufeinig, a adeiladwyd wrth brif gyffordd ffyrdd Rhufeinig tua’r flwyddyn AD80.  Mae’r rhan fwyaf o’r strwythur sy’n weddill wedi’i gladdu islaw’r tir, ond mae sylfeini’r ddau borth i’w gweld.  Milltir y tu hwnt y mae Tŷ Penoyre, plas a adeiladwyd mewn arddull Eidalaidd, â chwrs golff Cradoc ar diroedd a arferai fod yn berchen i’r plas.

Adeiladau fferm carreg Aber-Bran Fawr yw’r cyfan sy’n weddill o fferm amddiffyniedig llawer mwy o faint a adeiladwyd yn y 15fed ganrif.

Gallwch weld wyneb colofnresog Tŷ Penpont wrth ymyl pont garreg.  Adeiladwyd y tŷ yn wreiddiol yn ystod yr 17eg ganrif gan un o ddisgynyddion teulu Anne Boleyn.  Fe wnaeth deri o’r stad ddarparu’r trawstiau ar gyfer Big Ben yn Llundain.

Saint Illtud
Mae’r Comin wedi’i enwi ar ôl Illtud, un o’r seintiau Cristnogol Cynnar a helpodd sefydlu Cristionogaeth yng Nghymru.  Fe’i ganed tua’r flwyddyn 425 AD yn Llydaw, a dywedwyd iddo gael ei gladdu yma. Yn draddodiadol, cynhaliwyd gwylnos ym Medd Illtud noswyl ei ddydd gŵyl (6 Tachwedd).  Ystyrir bellach mai yn Llanilltud Fawr, ger Pen-y-bont ar Ogwr, lle sefydlodd fynachdy, y mae ei fedd.

Beth yw Comin?

Mae tiroedd comin â’u gwreiddiau yn nhrefn faenorol y canol oesoedd.  Mae’r rhain yn ardaloedd lle mae gan bobl leol benodol (y ‘cominwyr’) hawliau cyfreithiol i gymryd neu ddefnyddio rhai o gynhyrchion naturiol tir sy’n berchen i rywun arall (Arglwydd y Faenor, yn draddodiadol).  Mae tuag 20 o ffermwyr yn rhannu hawliau cyffredin ar Fynydd Illtud.  Pan fydd fferm yn newid dwylo, mae’r hawliau hyn yn trosglwyddo i’r perchennog newydd.  Mae Mynydd Illtud yn un o sawl comin a brynwyd ym 1984 gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’w hamddiffyn nhw ac i ddiogelu’r dirwedd agored.  Ni fu effaith ar hawliau cominwyr.

Hawliau pori – yr hawl i roi nifer benodol o stoc ar y comin i bori.   Yn bennaf, brid Merlod Mynydd Cymreig yw’r merlod ar y Comin, ac mae’r rhain yn cael eu bridio’n ofalus i wella’r stoc.  Caiff cannoedd o ddefaid eu pori ar Fynydd Illtud – bridiau gwydn fel Defaid Mynydd Cymru.  Mamogiaid yw’r rhain yn bennaf, sy’n cael eu cadw fel stoc bridio.  Mae pob fferm yn dangos ei stoc trwy farc lliw ar y corff a marc wedi’i glipio o’r glust.  Os ydych chi’n dod o hyd i famog neu oen sy’n ymddangos yn sâl, gadewch lonydd iddynt; os oes modd, gwnewch nodyn o’r lliw a rhowch wybod am hyn i fferm gyfagos neu i’r Ganolfan Ymwelwyr. 

Hawliau casglu cynnud – dyma’r hawl i dorri a chasglu planhigion penodol, i’w defnyddio’n danwydd, yn wasarn neu’n ddeunydd adeiladu.  Ar Fynydd Illtud, caiff rhedyn ei dorri yn ystod yr hydref a dechrau’r gaeaf.  Caiff ei ddefnyddio fel gwasarn ar gyfer anifeiliaid fferm.

Nid yw’r hawl i dorri mawn ar gyfer tanwydd bellach yn cael ei harfer ar y comin hwn oherwydd pwysigrwydd amddiffyn mawnogydd, er bod gwaith torri helaeth wedi mynd yn ei flaen yn y gorffennol.

Gall Traeth Mawr a Thraeth Bach, y ddwy ardal gorslyd yn y gorllewin, fod yn beryglus a dylid eu hosgoi.

NI chaniateir gyrru na gwersylla ar y Comin.  Dylech barcio yn y Ganolfan Ymwelwyr.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad lle bynnag yr ewch chi. Fe gewch chi’r gorau o gefn gwlad a byddwch yn helpu i’w gadw’n ardal arbennig nawr ac i’r dyfodol.
Cadwch yn ddiogel – dylech gynllunio ymlaen llaw a dilyn unrhyw arwyddion
Gadewch glwydi ac eiddo fel y’u gwelwch nhw
Amddiffynnwch blanhigion ac anifeiliaid, a mynd â’ch sbwriel adref
Cadwch gŵn o dan reolaeth gaeth
Byddwch yn ystyriol tuag at bobl eraill

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.