Canolfan Groeso a Threftadaeth Llanymddyfri
Mae’r Ganolfan mewn lleoliad cyfleus ar gyrion maes parcio’r dref a dyma safle delfrydol i ganolfan sy’n ‘Borth’ ar gyfer darganfod ardaloedd gorllewinol a chanolog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dyma Ganolfan sy’n rhan o rwydwaith ‘Visit Wales’ ac felly, mae’n cynnig ystod lawn o wasanaethau gan gynnwys gwasanaeth archebu gwely. Hefyd, mae’n cadw dewis cynhwysfawr o lenyddiaeth am y Parc Cenedlaethol a’r ardaloedd cyfagos.
Gall ymwelwyr â’r Ganolfan brynu mapiau, arweinlyfrau, llyfrau a chofroddion ynghyd â dewis bach o offer cerdded/awyr agored.
Mae’r adeilad hanesyddol hwn yn gartref i Ganolfan Dreftadaeth y dref, gydag arddangosfeydd yn cynnig golwg unigryw ar hanes a diwylliant yr ardal hon, a’r chwedlau sy’n gysylltiedig â hi.
Y Ganolfan Dreftadaeth, Canol y Dref, Llanymddyfri SA20 0AW.
Ffôn: 01550 720693. E-bost.
Oriau Agor:
Hydref-Pasg: 10am-1pm ac 1.45pm-4pm Dydd Llun-Dydd Sadwrn
Ar gau ar ddydd Sul
Pasg-Medi: 10am-1pm ac 1.45pm-5pm Bob Dydd
