Canolfan Groeso a Chanolfan y Parc Cenedlaethol, y Fenni

Swan Meadow, Monmouth Road, Y Fenni, NP7 5HL – ym maes parcio’r Orsaf Fysys.

Ffôn: 01873 853254. E-bost.

Caiff ei hadwaen fel Porth i Gymru ac i ardal ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r Fenni yn dref farchnad ffyniannus (poblogaeth – 14,000) gyda dewis da o siopau a mannau bwyta.

Mae saith bryn o amgylch y Fenni, ac mae modd cerdded i bob un ohonynt o ganol y dref; mae Afon Wysg yn llifo trwy’r dref ac mae Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn ymdroelli gerllaw.  Mae lleoliad y dref yn ddelfrydol ar gyfer mynd at y Mynydd Du.

Mae amrywiaeth dda o lety a theithiau cerdded gan y dref i’w chynnig, ac mae gweithgareddau awyr agored fel merlota, beicio mynydd a physgota oll ar gael gerllaw.

Mae i’r dref ei hun gyfoeth o hanes, o’r Rhufeiniaid a’r Normaniaid a adeiladodd y castell mawreddog sydd bellach yn gartref i’r amgueddfa hanes leol ac Eglwys Priordy’r Santes Fair sy’n gartref i gerflun canoloesol ysblennydd o Jesse, ymhlith eraill. Drws nesaf i’r Eglwys y mae’r ysgubor ddegwm, a fydd yn agor fel caffi a chanolfan adnoddau cyn bo hir.

Adeiladodd y Fictoriaid y Neuadd Farchnad lle caiff marchnadoedd wythnosol rheolaidd eu cynnal. Dydd Mawrth yw’r prif ddiwrnod marchnad ac mae marchnadoedd llai o faint yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.  Mae’r Ŵyl Fwyd sy’n cael ei chynnal ym mis Medi bob blwyddyn bellach yn enwog yn rhyngwladol ac mae’n rhoi awyrgylch o garnifal i’r dref; mae’r enw da cynyddol fel cyrchfan fwyd wedi denu nifer o gogyddion enwog i’r ardal i agor bwytai yma.

Yn yr ardal gyfagos, mae sawl castell, eglwys a Phriordy canoloesol cain i’w darganfod, a gerllaw, mae’r Safle Treftadaeth Byd ym Mlaenafon – microcosm o gymoedd glofaol de Cymru.

Oriau Agor:

Hydref-Pasg: 10am-1pm a 2pm-4pm Bob Dydd
Pasg-Medi: 10am-5pm Bob Dydd

Gwasanaethau:

Mae’r Ganolfan Groeso hon sy’n rhan o rwydwaith ‘Croeso Cymru’ yn cynnig ystod lawn o wasanaethau gan gynnwys y gwasanaeth Archebu Gwely yn lleol ac yn genedlaethol, ac amrywiaeth fawr o lenyddiaeth am ddim am Gymru, am ardaloedd cyfagos Lloegr ac am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Bydd staff cyfeillgar a chymwynasgar wrth law i gynorthwyo ag ymholiadau’n ymwneud â chludiant cyhoeddus, cyngor manwl am gerdded ac atyniadau lleol.

Gall ymwelwyr â’r Ganolfan Groeso brynu ystod eang o fapiau, arweinlyfrau, llyfrau am yr ardal a chofroddion a bwydydd lleol, ynghyd â dewis bychan o offer cerdded / awyr agored.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.