Brecwast y Mynydd Du
Pam dod i Gymru a chael brecwast Seisnig?
Yn ystod hydref 2005, rhoddwyd her i ddeg o gogyddion lleol i greu brecwastau Cymreig blasus a chyffrous. Roedd rhaid iddynt eu creu i bobl lysieuol, pobl sydd eisiau opsiynau braster isel, pobl sydd angen brecwast llawn antur yn barod ar gyfer gweithgaredd a phobl sydd eisiau’r brecwast Cymreig traddodiadol llawn. Troswyd y ryseitiau hyn yn ffolder hwylus o ryseitiau i ddarparwyr twristiaeth ac, erbyn hyn, mae rhai ohonynt yn cynnig Brecwast y Mynydd Du i’w gwesteion.
Mae rhai ohonynt wedi creu eu brecwastau unigryw eu hunain. Dyma restr o’r busnesau lle y gallwch fwynhau blas go iawn ar frecwast Cymreig lleol, ynghyd ag enghreifftiau o’u bwydlenni.
Lle i gael blas go iawn ar Frecwast Bannau Brycheiniog
Canal Bank Mr a Mrs Jackson 01874 623464 Bara lawr gyda bacwn hallt (bara lawr “cafiâr y Cymry” – Richard Burton). Caws pob hufennog – brecwast Cymreig gydag wy wedi’i sgramblo a chaws Cheddar Cymreig aeddfed. Brecwast Cymreig traddodiadol – wyau buarth lleol, selsig Sir Gaerfyrddin, bacwn lleol a mwy…Bara a chyffeithiau cartref.
The Coach House 07050 691216 Brecwast Pen-y-Fan (mawr) Bacwn lleol, selsig, wyau buarth, madarch, tomatos ffres a chacen datws. Brecwast Cribyn - yr un fath â Brecwast Pen-y-Fan ond yn llai! Wyau’r Fenni - wyau lleol wedi’u potsio ar ben myffin menyn gyda ham, saws gwyn a chaws Y Fenni wedi’i ridyllu. Wyau Brychan - wyau buarth gydag eog mwg a bara lawr neu wyau wedi’u sgramblo gydag eog mwg neu bara lawr.
Peterstone Court www.peterstone-court.com 01874 665387. Brecwast Brycheiniog Llawn: Bacwn cefn, selsig, pwdin gwaed, tomatos, madarch y maes ac wyau buarth. Daw’r holl gynnyrch o Fferm Bower, sy’n darparu cig a llysiau organig ffres o safon.
Talybryn House J Shaw a H Dunne 01874 676302 Brecwast Mawr y Bannau yn cynnwys bacwn, selsig ac wyau lleol a mwy… Brecwast Mawr Llysieuol yn cynnwys selsig Y Fenni ac afalau, wyau lleol a mwy… Omled y Fenni a chennin syfi… Wy wedi’i sgramblo gydag eog mwg ar fodrwy fara wedi’i thostio.
Gwesty The Manor 01873 810212 Brecwast Cymreig Llawn gyda bacwn, selsig, tomato, madarch, pwdin gwaed a dewis o wy wedi’i sgramblo, ei botsio neu ei ffrïo. Eog mwg lleol gydag wy wedi’i sgramblo. Daw’r holl gynnyrch o Fferm Bower sy’n darparu cig a llysiau organig ffres o safon. Daw’r pysgod o Dŷ Mwg Minola yn y Fenni.
The Wern 01874 658401 Wyau wedi’u sgramblo gyda bara lawr a chocos. Brecwast Cymreig gyda Selsig Morgannwg yn defnyddio cig lleol o safon a llysiau organig tymhorol. Llety i farchogion a cheffylau yn unig.
Gwesty Tŷ Croeso Linda Jarrett a Pavel Vitek 01873 810573 Selsig Morgannwg, bara lawr, bacwn lleol a thomatos.
Upper Middle Road Farm Mr a Mrs Kelleher 01874 754407 Cacennau bara lawr gyda bacwn lleol, wy wedi’i sgramblo a thomatos. Bara wyau neu ffriterau Marmite gyda bacwn a thomatos. Uwd gyda mêl Cymreig a ffigys, eirin sychion neu ffrwythau cartref tymhorol. Selsig Morgannwg gyda chompot afalau wedi’u carameleiddio. Brecwast Pob Tŷ Croeso - omled tomatos, madarch a winwns. Bara organig cartref wedi’i bobi’n ddyddiol gyda hadau blodau haul, hadau sesame a hadau llin a jam, marmalêd ac iogwrt geifr cartref.
Rysáit brecwast y mis
Caws Pob
Mae’n debyg mai caws pob yw’r pryd bwyd Cymreig enwocaf erioed.
Mae cryn ddadl ynghylch tarddiad yr enw Saesneg “Welsh Rarebit”. Un esboniad posibl yw y daw’r “rare” o “wedi’i goginio’n ysgafn” a “bit” o “dogn bach”. Dywed rhai ei fod yn tarddu o anallu’r Cymry i ddal cwningod, gan eu gadael i ddefnyddio caws fel dewis arall gwael!
Rysáit
8 owns o gaws Cymreig cryf wedi’i gratio
1 llwy fwrdd o fenyn Cymreig
2 lwy de o saws Caerwrangon
1 llwy de gwastad o fwstard sych
2 lwy de o flawd
4 llwy fwrdd o gwrw Cymreig
Ysgydwad o bupur
4 darn o fara wedi’u tostio ar un ochr yn unig
Rhowch y caws, blawd, mwstard, saws Caerwrangon, menyn a phupur mewn sosban. Cymysgwch nhw’n dda ac yna ychwanegwch y cwrw i leithio’r cymysgedd. Peidiwch â’i wneud yn rhy wlyb. Trowch y cymysgedd ar wres isel nes iddo doddi; rhowch y gorau i’w droi pan fydd yn bast trwchus a’i fwylltidio o gwmpas y sosban – bydd yn gwneud hynny’n ddigon hawdd. Gadewch y cymysgedd i oeri ychydig bach. Yn y cyfamser, tostiwch y bara ar un ochr yn unig. Taenwch y caws pob ar yr ochr sydd heb ei thostio a’i frownio dan ridyll poeth.
