corn fields

Blas ar Fannau Brycheiniog

Mae digonedd o fwyd gwych ar gael a chafodd llawer ohono ei gynhyrchu yma ymysg yr aer mynyddig glân, yr afonydd pur a’r cefn gwlad godidog. Os ydych yn hunanarlwyo, gallwch gael popeth sydd ei angen arnoch yma neu gallwch brynu rhywfaint o gynnyrch go iawn Bannau Brycheiniog i fynd adref gyda chi.

Lle i fwyta

Ewch i wefan Twristiaeth Bannau Brycheiniog am fanylion am le i fwyta ac yfed ym Mannau Brycheiniog.

Gwyliau Bwyd

Mae gwyliau bwyd yn fwyfwy poblogaidd wrth i fwy o fwyd gael ei gynhyrchu’n lleol.

Dyddiadau: Mae Gwyliau Bwyd y Gelli (28 Mehefin), Y Fenni (20 ac 21 Medi) ac Aberhonddu (4 Hydref) yn dathlu holl rinweddau bwydydd lleol gydag arddangosiadau, stondinau cynnyrch a phob math o weithgareddau sy’n ymwneud â bwyd.  Peidiwch â’u colli!

Mae sioeau gwledig, marchnadoedd ffermwyr ac Eisteddfodau pentref i gyd yn cynnig blas i ymwelwyr ar fywyd yn y Parc Cenedlaethol. 

Brecwast Cymreig y Mynydd Du

Ewch i’n tudalen Brecwast Cymreig y Mynydd Du am fanylion am le i aros i fwynhau blas bendigedig ar Frecwast Cymreig go iawn. 

Cynhyrchwyr Bwyd lleol

Mae llawer o cynhyrchwyr bwyd lleol lle gallwch brynu’n uniongyrchol gan y bobl sy’n gweithio yn y dirwedd ysblennydd hon.

Marchnadoedd Ffermwyr

Caiff marchnadoedd ffermwyr eu cynnal yn rheolaidd yn Y Fenni (ar y 4ydd dydd Iau o bob mis) ac yn Aberhonddu (ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis).  Mae ganddynt gynnyrch ffres iawn ac maent yn aml yn eich caniatáu i flasu cyn i chi brynu ac yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â’r bobl sydd wedi’i gynhyrchu.  Mae’r rhain yn brofiadau yn eu rhinwedd eu hunain.

Fe gewch enghreifftiau rhagorol o gig oen mynydd (cadwch lygad am Cheviots Brycheiniog, y defaid lleol), cig eidion lleol, cig carw Cymreig a phob math o fwyd mwg.  Mae caws lleol ar gael fel Y Fenni neu Sant Illtyd (a dreuliodd lawer o amser yn yr ardal hon), yn ogystal â sudd afal, seidr, dŵr mwynol a hufen iâ blasus, y mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau. 

Brecwastau’r Mynydd Du

Yn ddiweddar, creodd cogyddion gorau’r ardal gyfres o ryseitiau cyffrous newydd, o’r enw Brecwastau’r Mynydd Du, i’w defnyddio gan westai a lletyau gwely a brecwast.  Cadwch lygad am y rhain pan fyddwch yn neilltuo eich llety am y noson.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.