Rydych chi yma: Cartref Ymweliadau Bwyd a Diod
corn fields

Blas Bannau Brycheiniog

Mae digonedd o fwyd gwych ar gael – llawer ohono’r gynnyrch lleol o blith awyr iach, afonydd di-lygredd a chefn gwlad godidog yr ardal. Os ar wyliau hunan-arlwyo, cewch brynu popeth y bydd ei angen wrth ichi gyrraedd. Neu cewch brynu cynnyrch go iawn Bannau Brycheiniog i fynd adref ag ef.

Lle i fwyta

Ewch at safle  Twristiaeth Bannau Brycheiniog  am fanylion o le i fwyta ac yfed ym Mannau Brycheiniog.

Gwyliau Bwyd

Mae poblogrwydd Gwyliau Bwyd sydd yn cynnig mwy a mwy o fwydydd lleol ar gynnydd.

Dyddiadau: Mae Gwyliau Bwyd y Gelli Gandryll (Mehefin), Y Fenni, (Medi) ac Aberhonddu (Hydref) yn dathlu holl rinweddau bwydydd lleol gydag arddangosiadau, stondinau cynnyrch a phob math o weithgareddau’n gysylltiedig â bwyd. Peidiwch â’u colli!

Mae Sioeau Gwledig,  marchnadoedd ffermwyr ac eisteddfodau pentref i gyd yn cynnig blas ar fywyd yn y Parc Cenedlaethol i’r ymwelwyr.

Brecwast Cymreig y Mynyddoedd Duon

Ewch at ein tudalen Brecwast Cymreig y Mynyddoedd Duon  am fanylion o le i aros i gael y ffrwydriad o flas Brecwast Cymreig go iawn.

Cynhyrchwyr Bwyd lleol

Mae  cynyrchwyr bwyd lleol  lluaws lle y cewch brynu’n uniongyrchol gan y bobl sydd yn gweithio yn y dirwedd ardderchog hon.

Marchnadoedd Ffermwyr

Cynhelir Marchnadoedd Ffermwyr rheolaidd yn Y Fenni (4ydd Iau ym mhob mis) ac Aberhonddu (ail Sadwrn y mis). Maent yn cynnig cynyrchion yn syth o fferm a gardd, yn aml yn caniatâu ichi flasu cyn prynu ac yn rhoi cyfle ichi gwrdd â’r bobl sydd wedi eu gynhyrchu. Dyma brofiadau unigryw go iawn.

Cewch enghreifftiau o gig oen mynydd (cadwch lygad allan am Cheviots Brycheiniog, y defaid lleol), cid eidion lleol, cig carw Cymreig a mygfwyd o bob math. Mae caws lleol ar gael: Y Fenni  neu  Sant Illtyd (a dreuliodd lawer o amser yma) yn ogystal â sudd afal, seidr, dŵr naturiol a hufen iâ blasus, llawer ohonynt wedi ennill gwobrau.

Brecwastau’r Mynyddoedd Duon

Yn ddiweddar, creodd coginyddion arweiniol yr ardal gyfres o ryseitiau gwefreiddiol newydd o dan y teitl Black Mountain Breakfasts at ddefnydd gan westai a lleoedd Gwely a Brecwast. Cadwch lygad allan am y rhain wrth ichi sicrhau llety am y nos. 

Gweithredoedd Dogfen