Symud i'r cynnwys. | Symud i lywio

Adrannau

Tir Comin

Mae rhyw 35% o’r Parc Cenedlaethol yn dir comin, ac yn y Parc maent yn ardaloedd o dir mynydd heb eu ffensio fel arfer (ond nid bob tro).

Mae’r dirwedd yma’n arw ac yn ddramatig yn aml - yr ‘ased cenedlaethol amhrisiadwy’ a enillodd iddo ddynodiad Parc Cenedlaethol ym 1957. Mae llawer o diroedd comin tebyg yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau) hefyd.

Mae tiroedd comin yn olion y system economaidd faenorol ganoloesol pan oedd cnydau’n cael eu tyfu ar dir â phridd gwell, a thir salach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill fel pori anifeiliaid. Roedd y tir salach yn cael ei alw’n ‘wastraff’, ac roedd hawliau gan bobl leol ei ddefnyddio. Mae perchennog gan bob tir comin, ac mae’r term ‘comin’ yn cyfeirio at yr hawliau sydd gan rai pobl ‘yn gyffredin’. Mae Cymdeithasau Cominwyr gan y rhan fwyaf o diroedd comin, a byddant yn cyfarfod i gytuno materion rheoli amrywiol, fel pa bryd y dylid hel defaid o’r mynydd.

Cafodd llawer o diroedd comin ar hyd a lled y wlad eu colli o dan y Deddfau Cau Tiroedd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond bu cynnydd yn niddordeb y cyhoedd mewn diogelu tiroedd comin yn yr ugeinfed ganrif. Cafodd y rheiny a oedd ar ôl eu cofrestru’n gyfreithlon o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965.

Heddiw, ychydig iawn o fanteision economaidd sy’n dod yn sgil perchenogaeth yn unig (ond mae iddi gyfrifoldebau pwysig), tra bod defnyddiau penodedig yn cael eu rhannu gan y rheiny sydd â hawliau cofrestredig cyfreithlon ‘yn gyffredin’. Fel arfer mae’r hawliau hyn ynghlwm wrth ffermydd sydd o amgylch y tir comin, ac mae’r rhai pwysicaf ar gyfer pori defaid, merlod neu wartheg. Mae preiddiau gwydn o ddefaid mynydd yn byw ar y llystyfiant garw am lawer o’r flwyddyn, a bydd hyn yn effeithio ar yr amrywiaeth o blanhigion a all oroesi ar y bryniau. Mae pori gan anifeiliaid gwahanol ar ddwyster gwahanol yn effeithio ar y gorchudd llystyfiant. Heb ddefaid, er enghraifft, byddai mwy o goetir ar y llethrau is yn sicr.

Mae llawer o diroedd comin yn berchen i ystadau neu gwmnïau preifat. Ym 1965, rhoddwyd ardal ganolog y Bannau i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ychwanegwyd ato ar ôl hynny) gan Gwmni Yswiriant Eagle Star; ers hynny, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi caffael tiroedd eraill er mwyn diogelu budd y cyhoedd yn y dyfodol yn yr ardaloedd cymharol wyllt hyn o gefn gwlad. Nid yw achosion felly o gaffael yn effeithio ar statws cyfreithlon tir comin.

Ers mis Mai 2005 yng Nghymru mae’r cyhoedd wedi bod â’r hawl i grwydro ar droed dros diroedd comin sydd wedi’u dynodi’n Dir Mynediad yn ôl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ar yr amod eu bod yn dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Mae gofyn cael caniatâd gan berchennog y tir ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau eraill, ac fel arfer cytundeb y cominwyr hefyd. Mae rhai gweithredoedd, fel gyrru beiciau modur ar dir comin heb ganiatâd y perchennog, yn gwbl anghyfreithlon, wrth gwrs. Gall moesau cefn gwlad da, fodd bynnag, wneud llawer i gadw perthynas gadarnhaol rhwng pobl sydd eisiau defnyddio tir comin at wahanol bethau.

Gellir gweld gwybodaeth fanwl yn y cyhoeddiad canlynol:

Clayden, P. (2003) Our Common Land: the law and history of common land and village greens. Cyhoeddwyd gan The Open Spaces Society, Henley on Thames.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.