Stori un a wnaeth Oroesi Damwain Awyren
Roedd Frank Stokes yn Awyrennwr ifanc a darodd i mewn i’r mynyddoedd yn ei awyren pan oedd yn teithio gyda’i beilot ar ymarferiad dros y Bannau ym mis Ionawr 1945.
Wedi goroesi’r gwrthdrawiad, ond gan sylweddoli bod y peilot wedi’i anafu’n ddifrifol, llwyddodd A.C. Stokes i wneud ei ffordd yn sigledig dros ddwy filltir yn yr eira - gan groesi dwy nant wrth wneud hynny, er iddo ddioddef rhwygiadau i’w grimog a thorasgwrn y cefn yn sgil y cywasgiad.
Ar ôl taith hir a phoenus, llwyddodd yn y diwedd i gyrraedd Hostel Ieuenctid Storey Arms lle’r oedd yn ffodus fod warden preswyl ar ddyletswydd a stopiodd modurwr a oedd yn mynd heibio. Yn drist iawn, roedd peilot yr awyren wedi’i anafu mor ddrwg fel na lwyddodd i oroesi, ond yn araf deg fe wnaeth staff yr ysbyty yng Nghymru nyrsio Frank yn ôl i lawn iechyd.
Dros drigain mlynedd yn ddiweddarach, mae Mr Stokes bellach yn byw yn Lerpwl, ond nid yw erioed wedi anghofio’r profiad na charedigrwydd pobl Cymru y mae arno ddyled o ddiolch iddynt.
Mae wedi ysgrifennu hanes rhyfeddol am y ddamwain, gyda phortreadau bach gwych o fywyd ysbyty yng Nghymru adeg y rhyfel. Ynddo mae’n talu teyrnged i gynhesrwydd mawr a dynoliaeth pobl Merthyr Tudful, “er y caledi mawr roeddent yn dangos sirioldeb na allai’r rhan fwyaf o bobl ei ddangos”.
