Gwladys ac Einion
Chwedl Sgwd Gwladys ar Afon Pyrddin ym Mhontneddfechan
Wrth i chi ddynesu at raeadrau swynol, diarffordd Sgwd Gwladys, gadewch i’ch meddwl grwydro at y chwedl sy’n sôn am y Ferch y rhoddwyd ei henw i’r rhaeadrau.
Yn ôl pob sôn, yn un o 24 o ferched Brychan o Frycheiniog, tywysog yn y 5ed ganrif, fe syrthiodd Gwladys ifanc a hardd mewn cariad â gŵr ifanc o’r enw Einion. Yn drist iawn, ni chaniatawyd i’r berthynas ddatblygu erioed, ac yn rhyfeddol, cafodd Gwladys, wedi’i thorri gan dristwch dros ei chariad diymateb, ei hanfarwoli; gwelir ei hysbryd yn llifo’n gain ac yn dragwyddol, fel y rhaeadr dawel hon.
O ran Einion, cafodd yntau ei anfarwoli hefyd ar ffurf rhaeadr, ac mae’n llifo hyd heddiw ymhellach i fyny’r afon, yn llifo fel rhaeadr gam uchel dros yr ymylon creigiog cyn syrthio 70 o droedfeddi, i’r pwll islaw.
Yn wahanol i’r llwybr at Sgwd Gwladys, nid oes llwybr ar y ffordd at Sgwd Einion Gam, ac mae angen croesi Afon Pyrddin nifer o weithiau er mwyn cyrraedd y rhaeadr, ac mae hynny felly’n dal i bortreadu ysbryd anodd ac anodd mynd ato, hyd yn oed yn ei anfarwoldeb.
Hynodrwydd y stori yw er na allai Gwladys fyth fod gyda’i chariad mewn bywyd, mewn anfarwoldeb mae eu hysbryd yn cyd-lifo hyd dragwyddoldeb, heb unrhyw ffordd o wahanu’r elfennau ar ôl iddynt lifo dros y creigiau ac uno yn y pwll islaw Sgwd Gwladys, lle maent yn parhau i lifo am byth - fel un.
