Dioddefwr y Bannau
Hanes Tommy Jones bach
Awst 4ydd, 1900, oedd y Sadwrn cyn Gŵyl y Banc. Penderfynodd glöwr o’r Maerdy, ym mhen uchaf Rhondda Fach, i fynd â’i fab pum mlwydd oed gydag ef i weld tad-cu a mam-gu’r plentyn a oedd yn dal i ffermio ger Aberhonddu. Roedd hi’n chwech o’r gloch y nos pan gyrhaeddon nhw’r dref ar y trên. Oddi yno roedd yn rhaid iddynt gerdded pedair milltir i gyrraedd Cwm-llwch, y ffermdy bach ym mherfedd y dyffryn i’r gogledd o’r Bannau.
Erbyn tua wyth o’r gloch roeddent wedi cyrraedd y Login (sy’n adfail erbyn heddiw) lle’r oedd milwyr yn gwersylla pan oeddent yn hyfforddi ar y maes saethu i fyny’r cwm. Bu’r siwrnai ar droed yn un boeth, ac er mai ond chwarter milltir oedd ganddynt i gerdded eto, roedd William Jones yn falch o gymryd hoe i gael lluniaeth a phrynu ceiniogwerth o fisgedi i Tommy bach yn y cantîn. Fel y digwyddodd hi, cyrhaeddodd y tad-cu ymhen ychydig funudau hefyd, gyda’r bachgen 13 mlwydd oed, Willie John, sef cefnder Tommy. Anfonwyd Willie yn ôl i Gwm-llwch i rybuddio’r teulu bod yr ymwelwyr ar fin cyrraedd, a rhedodd Tommy gydag ef i fyny’r cwm.
Roedd rhaid iddynt groesi dwy bont estyllod arw, un ohonynt heb ganllaw. Gyda’r golau’n pylu, roedd y nentydd a’r coed yn gallu codi ofn ar fachgen bach a oedd wedi’i fagu mewn cymuned o dai clòs at ei gilydd. Gallai fod wedi bod ofn dod wyneb yn wyneb ag anifeiliaid fferm hefyd. Beth bynnag, pan gyrhaeddodd y ddau hanner ffordd, dechreuodd Tommy grïo ac roedd eisiau mynd yn ôl at ei dad. Felly gwahanodd y ddau fachgen. Aeth Willie ymlaen â’i neges ac roedd yn ôl yn y gwersyll cyn pen chwarter awr o’i adael - ond nid oedd Tommy wedi dod yn ôl. Dechreuodd y tad a’r tad-cu i chwilio amdano’n syth. Yn fuan (rhyw ugain munud yn ddiweddarach efallai) ymunodd milwyr o’r gwersyll â nhw; roedd hi wedi troi yn helfa go iawn. Am hanner nos, ataliwyd y chwilio, ond dechreuwyd eto am 3 o’r gloch fore Sul. Ymunodd yr heddlu a’r cyhoedd yn y chwilio, ac ehangwyd y rhwyd. Ond nid oedd y bachgen i’w weld yn unman y diwrnod hwnnw.
Felly y parhaodd y chwilio dros yr wythnosau nesaf. Bob dydd byddai criwiau chwilio yn cynnwys yr heddlu, milwyr, ffermwyr a gwirfoddolwyr eraill yn chwilio’r ardal yn systematig â chrib fân. Torrwyd y rhedyn tal, a buont yn turio drwy’r coed. Awgrymwyd ar un adeg y dylid chwilio Llyn Cwm-llwch â rhwyd, ond roedd yn annhebygol y byddai’r bachgen wedi gallu mynd cyn belled â hynny i fyny’r mynydd. Roedd hi’n fwy tebygol ei fod wedi syrthio oddi ar un o’r pomprennau i mewn i’r nant, neu yn syml wedi crwydro yn syth i lawr y cwm, yn lle troi i’r dde i groesi’r ail bont at y gwersyll. Felly, canolbwyntiwyd y chwilio ar y tir coediog gerllaw’r Login ac i lawr y cwm cyn belled â gwaith dŵr Aberhonddu.
Yn anochel, yn sgil y methiant parhaus i ddod o hyd i’r bachgen, dechreuwyd meddwl y gallai fod wedi’i herwgipio. Dyma oedd yr unig obaith bellach y gellid dal ddod o hyd i’r bachgen yn fyw. Roedd herwgipio, bryd hynny, y golygu sipsiwn yn y lle cyntaf, ac er mai anaml y sonnir amdanynt yn The Brecon County Times bryd hynny, ymddengys bod nifer o wersylloedd sipsiwn yn Sir Frycheiniog a’r siroedd cyfagos. Turiodd yr heddlu’n ddiseremoni drwy bob un ohonynt yn ystod y chwilio, ond heb lwyddiant.
Cododd yr helynt bryder cenedlaethol, a daeth adroddiadau am y bachgen coll ac awgrymiadau ar gyfer trywyddau chwilio o bob cwr o’r wlad. Cymerodd y Daily Mail ddiddordeb yn y mater a chynnig gwobr o £20 i unrhyw un a allai ddatrys y dirgelwch. (Gwnaethpwyd y cyhoeddiad am y wobr, ymysg ffyrdd eraill, gan Gyhoeddwyr Tref Aberhonddu). Anfonodd y Daily Mail gomisiynydd arbennig i Aberhonddu hefyd, ac yn ystod ei gyfnod yno fe enillodd gryn edmygedd a pharch am ei waith diflino mewn perthynas â’r broblem. O dan ei ddylanwad fe wnaeth y ddamcaniaeth sipsiwn golli tir, a chredwyd ei bod yn fwy tebygol i Tommy gael ei gipio gan ddynes neu gwpwl heb blant. Soniodd hefyd am bosibilrwydd llofruddiaeth, ond diystyrodd hynny ar yr un gwynt.
Dim ond ar ôl rhai wythnosau yr ildiodd tad Tommy i bleon ei ffrindiau i fynd adref i’r Maerdy. Ond roedd yn ei ôl yn ddigon buan, ac yn un o nifer o bobl a ddringodd at gopa’r Bannau yn chwilio’n anobeithiol. Nid y fe, fodd bynnag, a wnaeth y darganfyddiad.
Dywedir bod dynes o’r enw Mrs. Hamer, gwraig i arddwr yng Nghastell Madog, rai milltiroedd i’r gogledd o Aberhonddu, ar ôl darllen adroddiadau am y chwilio, wedi breuddwydio am yr union fan lle’r oedd Tommy i’w ddarganfod. Treuliodd ddiwrnod neu ddau anesmwyth cyn perswadio ei gŵr yn y pen draw i fenthyg poni a thrap ddydd Sul, 2 Medi, i fynd â hi a rhai perthnasau i’r Bannau – nid oeddent erioed wedi bod yno o’r blaen. Ni chredai Mr. Hamer y byddent yn llwyddo pan oedd gymaint wedi methu. Ond nes ymlaen y diwrnod hwnnw, roedd yn gallu hawlio’r wobr ariannol. ‘Roeddent wedi cyrraedd brig y gefnen yn union uwchben Llyn Cwm-llwch,’ adroddodd y papur yn ddiweddarach, ‘ac roeddent yn mynd tuag at y copaon ar draws ychydig o dir agored pan drodd Mr. Hamer, a oedd rai llathenni o flaen y lleill, ar ei sawdl gan weiddi mewn arswyd, gan yno ar ei lwybr roedd gweddillion corff…’ Cafodd y corff ei adnabod a’i gludo i lawr yr un diwrnod.
Yn y cwest ar y dydd Mawrth, ni chafodd y rheithgor unrhyw anhawster yn penderfynu ar reithfarn o farwolaeth yn sgil blinder ac oerfel. Ond ni lwyddodd neb i esbonio sut yr oedd y bachgen bach pum mlwydd oed, ‘un byr a phraff am ei oed’, wedi blino ac yn llwglyd ar ôl diwrnod hir a’r holl gerdded o Aberhonddu, wedi dod i ben â chyrraedd y fan lle daethpwyd o hyd i’w gorff. Roedd yn 2,250 tr. Uwchlaw lefel y môr, gwaith dringo o 1300 tr. o’r Login: o leiaf ddwy filltir dros dir anodd, ac yn y tywyllwch mae’n debyg. Yn sicr nid ystyriwyd y byddai’n werth chwilio’r tir uchel yn systematig. Mae’n rhaid bod y tad wedi mynd heibio i’r corff o fewn rhyw ddwsin o lathenni ychydig ddyddiau cyn ei ganfod, ond erbyn hyn byddai golwg mwy fel clogfaen arno yn y glaswellt hir.
Roedd amryw o bobl â gwybodaeth leol fanwl wedi awgrymu y gallai Tommy fod wedi crwydro i fyny i’r chwith o’r llwybr pan ddechreuodd droi yn ôl at y gwersyll, neu ei fod wedi croesi’r bompren gyntaf, ond nid yr ail (ychydig yn is na’r fan lle mae’r ddwy nant yn cwrdd, ac yn gorwedd ar ongl sgwâr i’r gyntaf; mae’r ddwy ohonynt wedi diflannu bellach, er bod y rhyd gerllaw’r gyntaf yn dal i gael ei defnyddio). Wrth edrych yn ôl, ymddengys mai’r olaf yw’r esboniad mwyaf tebygol. Pe bai wedi troi i’r chwith yma yn lle i’r dde, byddai wedi cychwyn i fyny ochr Pen Milan yn ddigon buan, gan ddilyn y llwybr mwyaf uniongyrchol mae’n debyg rhwng gwersyll y milwyr o’r maes saethu. Fel arall, gallai fod wedi mynd yn ei flaen ychydig ymhellach i lawr y nant ac yna troi i’r chwith ar y llwybr tuag at Llwyn-bedw. Naill ffordd, mae’n debyg iddo ymuno â’r trac sy’n igam-ogamu i fyny Pen Milan, gan ddringo’n serth i dir uchel. Efallai erbyn hyn, wedi drysu ac yn llawn panig wrth i olau dydd ddechrau pylu, y gobeithiai ei fod yn mynd yn ôl i fyny tuag at fferm ei dad-cu, heb sylweddoli tan nes ymlaen pa mor ar goll yn llwyr ydoedd. Yr unig beth a wyddwn yn sicr yw pa mor bell yr aeth ei stamina a’i ddewrder ag ef.
Am flynyddoedd lawer fe gadwodd ei deulu’r siwt morwr â’r golaréd yr oedd yn ei gwisgo, yr esgidiau ysgafn newydd â’r gwadnau wedi treulio’n ofnadwy; a’r chwiban a gariai ar linyn o amgylch ei wddf. (A allai hwn wedi arbed ei fywyd pe bai wedi meddwl ei ddefnyddio tra’r oedd yr egni dal ganddo?) Heddiw, mae obelisg yn nodi’r fan lle canfuwyd corff Tommy. Rhoddodd y rheithwyr yn y cwest eu ffioedd tuag at gychwyn cronfa er cof amdano. Ymunwyd â hwy gan Mr. Hamer, a gyfrannodd ran o’i wobr £20, ynghyd â llawer o bobl eraill. Erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn ganlynol, roedd y garreg arysgrifenedig yn barod, ac fe’i cludwyd ar sled ceffyl i fyny at y gefnen. Ers hynny mae miloedd o gerddwyr wedi oedi yn ymyl y garreg, ac wedi cael eu hatgoffa o’r bachgen bach a fu farw ar y Bannau yn sgil blinder ac oerfel.
Dynes yn ei Nawdegau yn Cofio Trasiedi Tommy Jones
(Manylion o erthygl papur newydd 1980/1981).
Mae Mrs. R. M. Martin, dynes naw deg mlwydd oed o Hitchen, Swydd Hertford yn anfon ei hatgofion am y trasiedi:-
"Mae’n rhaid fy mod ymhlith y rhai prin sydd ar ôl sy’n cofio’r cyfnod hwnnw’n fyw, Awst 1900. Roeddwn yn 9¾ mlwydd oed, wedi fy ngeni yn y Postern, Aberhonddu, yn ferch ieuengaf y Cwnstabl Frederick George Harwood.
"Roedd fy nhad yn gyfrifol am griw chwilio a âi bob dydd am fis yn crwydro dros yr ardal i gyd. Llwyddodd hyd yn oed i gael y ffermwyr lleol i dorri’r rhedyn uchel a dyfai mewn rhai rhannau, er mwyn helpu’r chwilio. Roedd gan Gyffinwyr De Cymru griw chwilio bob dydd hefyd.
"Rwy’n cofio’r Sul hwnnw, 2ail o Fedi, 1900, mor dda! Roedd yn Wasanaeth Pen-blwydd yr Ysgol Sul yng Nghapel Coffa Wesleaidd Dr Coke, Lion Street, ac roedd y gwasanaeth newydd orffen pan glywyd gweiddi mawr. ‘Maent wedi dod o hyd i’r bachgen bach.’ Rhuthrom allan i gyd, ac aeth sawl un o’r bechgyn ar eu beiciau at y fan, gan gynnwys Sidney Martin, a briodais flynyddoedd lawer wedyn.
"Cafodd y llun ar flaen y pamffled Victim of the Beacons, sydd bellach allan o brint, ei gymryd gan Jack Clark, a redai fusnes cofroddion a chardiau post ar y Stryd Fawr am flynyddoedd lawer. Roedd yn 16 oed ar y pryd, â’i ddiddordeb mewn ffotograffiaeth amatur.
"Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach o’r llun hwn, roeddwn yn gallu adnabod y rhai a oedd yn sefyll o amgylch wrth i weddillion y bachgen bach gael eu cludo i lawr ochr y mynydd ar stretsier wedi’i ddyfeisio, gyda fy nhad yn arwain y ffordd a’r Sarsiant Hands yn y cefn. Roedd fy nhad yn pryderu gymaint fod y llun yn ei ddangos yn ysmygu cetyn clai, am fod ysmygu ar ddyletswydd yn bendant yn erbyn y rheolau. Y fi wnaeth roi’r wybodaeth bod ffermwr yn y fan wedi rhoi hwn iddo rhag yr arogl a oedd yno. Rwy’n cofio bod fy nhad wedi cael y negatif gan Jack Clark a’i fod wedi crafu’r cetyn allan ar y plât gwydr fel na fyddai unrhyw brintiau eraill yn ei ddangos, ond tynnodd hyn sylw at y ffaith a dinistriwyd y negatif.
"Fy nhad gafodd y syniad am osod obelisg, ac ef gafodd £20 o’r £100 o wobr i gychwyn y tanysgrifiadau tuag ato, ac awgrymu hefyd y gallai’r rheithwyr gyfrannu’u ffioedd. Awgrymodd hefyd y dylai’r obelisg gael ei godi ychydig i ffwrdd o’r fan ei hun lle canfuwyd y corff, er mwyn iddo fod mewn man mwy amlwg.
"Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, fe wnaeth fy mrawd-yng-nghyfraith, Walter Martin, o 'Clovelly,' Llanfaes, goruchwyliwr plwyf St. David’s, gan weld yr obelisg mewn cyflwr gwael iawn, fynd yno gyda chriw o’i deulu gyda bwcedi a brwshys a glanhau’r gwaith carreg, ac aeth Walter ati i ail-lythrennu’r arysgrifiad.
Yr Obelisg a’r Arysgrifiad
Gellir gweld yr obelisg wrth ddynesu at Corn Du (SO 000217), a dyma sydd wedi’i ysgrifennu arno:
"This obelisk marks the spot where the body of Tommy Jones aged 5 was found. He lost his way between Cwmllwch Farm and the Login on the night of August 4th 1900. After an anxious search of 29 days his body was found on September 2nd."
Cylchdaith y Bannau
Mae taith gerdded odidog 11 milltir (17.7km) dros brif gopaon a chefnennau canol Bannau Brycheiniog sy’n eich tywys heibio’r gofeb hon i Tommy Jones. Mae manylion y daith gerdded i’w cael o ganolfannau gwybodaeth lleol neu drwy’r post a £1 yn unig yw ei bris.
