Mae’r Parc Cenedlaethol yn golygu llawer o bethau gwahanol i’r bobl sy’n byw neu’n gweithio yma ac sy’n dod yma fel ymwelwyr.
Mae gan y Parc Cenedlaethol ei hanes a’i dreftadaeth ei hun, ynghyd â’i ddull coginio, ei draddodiadau, chwedlau a’i ddiwylliant ei hun. Cewch archwilio amrywiaeth o’r rhain trwy ddefnyddio’r bar llywio ar y chwith.
Neolithig – Mae meini hirion dros 4,000 o flynyddoedd oed i’w gweld yn frith o amgylch y Parc. Yr un mwyaf nodedig yw Maen Llia sy’n 3.7m (12tr), ym mhen blaen Cwm Llia rhwng Ystradfellte a Phontsenni. Yn sefyll ar uchder o 573m (1880 tr) credir hefyd mai hwn yw’r maen hir uchaf yn Ne Cymru.
Yr Oes Haearn – safleoedd bryngeyrydd. Yr un fwyaf yw Garn Goch ychydig i’r gogledd o’r Mynydd Du ger Llangadog. Credir bod y rhain yn ganolfannau gwleidyddol a masnachu ar un adeg, ac mae dros ugain o’r safleoedd hyn i’w cael ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol.
Y Rhufeiniaid – daeth y Rhufeiniaid i’r Parc oddeutu 43OC. Eu canolfan bwysicaf yn yr ardal oedd Y Gaer ger Aberhonddu, ac fe’i defnyddiwyd unwaith i roi lle i dros 600 o filwyr.
Yr Oesoedd Tywyll – Yn ystod ei deyrnasiad rhoddodd y Brenin Offa orchymyn i godi’r clawdd pridd sy’n dal i gael ei alw’n Glawdd Offa heddiw. Mae’n ymestyn ar hyd y 150 o filltiroedd o ffin Cymru. Dringwch i gefnen uwchben Cwm Ewyas yn y Parc Cenedlaethol a gallwch ddilyn rhan o Glawdd Offa.
Y Concwest Normanaidd – nodwyd hwn yn amlwg yn y Parc Cenedlaethol gyda’i gestyll, er nad yw’r un ohonynt mor ddramatig â Chastell Carreg Cennen. Heddiw, CADW sy’n gofalu am y castell. Edrychwch ar y ddewislen am fwy o gestyll yn y Parc.
Yr Oes Ddiwydiannol – Mor bell yn ôl â’r 16eg Ganrif, roedd y Cymry’n gosod y sylfeini ar gyfer yr oes ddiwydiannol. Mae tystiolaeth o’r oes ddiwydiannol i’w gweld ychydig filltiroedd ymhellach i’r de, ym Mlaenafon. Mae Gwaith Haearn Blaenafon bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd, ac roedd yn un o’r gweithfeydd haearn mwyaf yn y byd. Gyda’i amrywiaeth eithriadol o adeileddau’n goroesi, hwn yw’r cyfadeilad ffwrnais chwyth sydd yn y cyflwr gorau o’i gyfnod a’i fath yn y byd.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
