Alexander Cordell
1914 - 1997 Nofelydd
Fe’i ganwyd â’r enw George Alexander Graber i deulu milwrol yn gwasanaethu yn Ceylon, a dilynodd Alexander ôl troed ei dad ac ymuno â’r Peirianwyr Brenhinol. Ym 1937 priododd Rosina Wells. Cafodd ei glwyfo yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac fe’i anfonwyd i Harlech yng ngogledd Cymru i ymadfer. Ar ôl ennill rheng Uwchgapten gadawodd y Fyddin i weithio fel syrfëwr meintiau. Bryd hynny y dechreuodd ysgrifennu. ‘Bob tro yr oedd angen côt newydd ar Rosina, byddwn yn eistedd i lawr ac yn ysgrifennu stori fer’, fe’i dyfynnwyd yn dweud. Ym 1949, ganwyd ei ferch Georgina yn Amwythig, ac ym mis Mai 1950, ymddangosodd ei stori gyntaf, 'The Gentle Wife', yn My Weekly. Yn yr un flwyddyn, derbyniodd swydd yn Y Fenni a symudodd i The Lodge, Llanellen.
Yn ddiamheuol fe wnaeth ei frawd Frank, a oedd yn is-olygydd ar y Financial Times, gynnig cyngor wrth i Alexander ddechrau gweithio ar ei nofel gyntaf. Cafodd A Thought of Honour, y talwyd £75 iddo amdano, ei dderbyn ym 1954. Cyhoeddwyd ei waith mwyaf adnabyddus, Rape of the Fair Country, ym 1959.
Symudodd y teulu i Holywell Crescent yn Y Fenni, lle’r aeth Alexander ati i ysgrifennu Hosts of Rebecca ym 1960. Ar ôl cyfnod yn Hong Kong, dychwelodd y teulu, gan fyw yn Aberdaugleddau, ac yna yn Tidenham, Cas-gwent, lle’r aeth Alexander ati i orffen y drioleg Gymreig ym 1969 gyda Song of the Earth. Cyhoeddwyd The Fire People ym 1972, yr un flwyddyn ag y bu farw Rosina. Ym 1973 priododd ei ail wraig, Donnie.
Dilynodd llyfrau eraill wedi’u gosod yn ne Cymru: Land of My Fathers, This Sweet & Bitter Earth, Beloved Exile a Land of Heart's Desire. Ar ôl cyfnod alltud byr ar Ynys Manaw, ymgartrefodd Cordell yn Wrecsam yn y pen draw. Bu farw tra’r oedd allan yn cerdded ger Llangollen ym mis Gorffennaf, 1997. Roedd wedi ysgrifennu 30 o lyfrau, a chyfieithwyd ei waith mwyaf adnabyddus, Rape of the Fair Country, i 17 o ieithoedd gwahanol.
--------------------------------------------------------------------------------------------
Ym 1985 aeth yr awdur lleol Chris Barber ati i gyhoeddi Cordell Country, canllaw i leoliadau sy’n ymddangos yn Rape of the Fair Country. Cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig ym 1996, Walks in Cordell Country. Ym 1998 llwyddodd Chris hefyd i sicrhau’r hawliau i ailargraffu hoff nofelau Cymreig Cordell, sef Rape of the Fair Country, Song of the Earth, Hosts of Rebecca, This Proud and Savage Land a The Fire People sydd ar gael gan Blorenge Books (01873 856114). Cyhoeddwyd Alexander Cordell, y bywgraffiad a ysgrifennwyd ar ôl ei farwolaeth gan ei ffrindiau, Mike Buckingham a Richard Frame, ym 1999.
Hefyd, mae cyfres o bedwar o lwybrau Cordell Country ar gael o Ganolfannau Croeso lleol i’ch helpu i archwilio’r lleoliadau sy’n ymddangos yn nofelau Alexander Cordell, yn dilyn y pedair ardal ganlynol:
Taith Un: O amgylch Blaenafon, Blaenau Gwent a’r Fenni - ar drywydd Rape of the Fair Country.
Taith Dau: O amgylch Cwm Nedd ac Aberdâr - ar drywydd Song of the Earth.
Llwybr Tri: O amgylch cymoedd y Rhondda ac Aber - ar drywydd This Sweet & Bitter Earth.
Llwybr Pedwar: O amgylch Merthyr Tudful - ar drywydd The Fire People.
Gellir cael taflenni hefyd drwy ffonio 01495 792615 neu drwy fynd i Cordell Country.
